Amdanom ni

Mae’r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol, neu DAN 24/7 dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Llinell gymorth ffôn am ddim a dwyieithog ydy DAN 24/7 sy’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth a/neu help ynglyn â chyffuriau a/neu alcohol.

Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cefnogi yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gwasanaethau lleol a rhanbarthol addas.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: