Diconal

diconal
  • Pinkies
  • Dikes
  • Diconal
  • Dipipanone Hydrochloride

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Dipipanone Hydrochloride

Enwau Generig: Opioid

An example of what Diconal looks like
Tabledi 10mg (yn cynnwys 30mg o cyclizine hydrochloride), pinc, sydd wedi'i marcio gyda Wellcome F3A.

Effeithiau A Ddymunir:

Llonder neu ruthr dwys wrth ei chwistrellu, ewfforia, a llai o bryder.

Sgîl Effeithiau:

Cysglyd, dryswch, cyfog, chwydu, rhwym.

Tymor Hir:

Defnydd gorfodol, dibyniaeth. Os yw'n cael ei chwistrellu mae'n beryglus iawn gan ei fod yn cynnwys silicon sy'n achosi niwed i gylchrediad, gwythiennau wedi blocio, briwiau, pydredd (sy'n aml yn arwain at dorri aelodau i ffwrdd).

Tymor Byr:

Posibilrwydd uchel o or ddos, goddefgarwch, damweiniau.
Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr.
Drwy'r geg, neu bydd tabledi'n cael eu gwasgu a'u chwistrellu.
Os yw'n cael ei chwistrellu: nodwyddau a chwistrell, dŵr, matsien neu daniwr, llwy, rhwymyn tynhau.
I reoli poen cymedrol i ddifrifol.
Dyma gyffuriau fferyllol sydd weithiau'n cael ei ddargyfeirio gan wneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiwn Meddyg Teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai wneud cyfeiriadau at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gyferbyn iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid iddynt fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: