Pethedine
pethedine- Peth.
- Pethidine Hydrochloride
Enwau Gwyddonol: Pethidine Hydrochloride
Enwau Generig: Opiate
Ni allwch bob amser fod yn siŵr mai'r hyn a brynwch yw'r hyn a gewch, ond os ydych am anfon unrhyw
sylwedd i ffwrdd i'w brofi, gallwch ei anfon at WEDINOS
Tabledi (50mg pethidine hydroclorid), gwyn, marc Roche arnynt. Ampylau ar gyfer
chwistrellu, enw brand Parmegan P100.
Effeithiau A Ddymunir:
Dedwyddwch, ymlacio, llai o bryderSgîl Effeithiau:
Chwysu, teimlo'n sâl, chwydu, syrthni.Tymor Hir:
Dibyniaeth NiwrowenwynigTymor Byr:
Goddefiad, gorddos, salwch, pendro, llonyddiad.
Poenleddfwr, iselydd y system nerfol ganolog, gwrth-sbasmodig.
Dosbarth A dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Drwy'r geg, neu bydd tabledi'n cael eu gwasgu a'u chwistrellu.
Os yw'n cael ei chwistrellu: nodwydd a chwistrell, dŵr, matsis neu daniwr, llwy, rhwymyn
tynhau, swabiau.
Ar gyfer trin poen cymedrol i ddifrifol yn enwedig yn ystod genedigaeth.
Dargyfeiriwyd o'r diwydiant fferyllol, fferyllfeydd, ysbytai neu bresgripsiwn meddyg teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau
cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys
gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau,
grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac
weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel
Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac
maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion
sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi
amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth
i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod
yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu
dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai
rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan
gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio
cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i
deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.