Amlyncu

Llyncu yw cymryd cyffur drwy fwyta neu yfed ac mae’n debyg mai dyma yw’r dull symlaf a’r dull hynaf o gymryd sylweddau. Mae’r cyffur yn cael ei amsugno drwy leinin y stumog a’r coluddyn bach ac yn mynd i mewn drwy lif y gwaed. Y lleoliad nesaf yw’r aren lle bydd ychydig o’r cyffur yn cael ei waredu o’r gwaed cyn iddo basio ymlaen i’r galon.

Mae’r galon, sy’n bwmp cyhyrol, yn gwthio’r gwaed i mewn ac o amgylch yr ysgyfaint lle caiff ei ocsigenu cyn iddo ddychwelyd i ochr arall y galon. Mae’r gwaed newydd ocsigenedig yn cael ei bwmpio i’r ymennydd a’r system nerfol ganolog lle mae’r cyffuriau’n dechrau cael effaith.

Derbyn y cyffur mewn modd mwy diogel

Mae cyffuriau adfywiol yn gawstig a gallent gyrydu meinweoedd meddal. Gallai hyn arwain at niwed i leinin y gwddf, oesoffagws a’r stumog. Llyncwch o fewn capsiwl/papur sigarét.

Llwybr y system dreulio yw’r dull arafaf o gael cyffuriau i’r ymennydd. Mae’n ddibynnol ar ba mor llawn yw’r stumog a’r coluddyn bach a beth arall y maent yn eu cynnwys. Mae hyn yn effeithio ar y gyfradd amsugno adeg llyncu.

Yn dibynnu ar y cyffur, efallai na fydd yr effeithiau o ddefnyddio’r dull hwn yn cael eu teimlo am 20 i 45 munud. Mae’r dos felly yn anodd ei reoli fel sy’n digwydd gydag yfed alcohol neu fwyta canabis.

Y broblem yw, erbyn yr amser y mae’r defnyddiwr yn dechrau teimlo ei fod o dan ddylanwad, mae cronni o werth hyd at 30 munud o alcohol neu gyffuriau yn dal i aros i gyrraedd y system nerfol ganolog. Hyd yn oed os yw’r defnyddiwr yn stopio yfed neu fwyta’r cyffur yn syth, maent yn parhau i deimlo’r effaith a gallent gymryd gormod yn y pen draw.

Peryglon Llyncu Cyffuriau

Gall y risgiau hirdymor o ddefnyddio cyffuriau yn y ffordd hon gynnwys niwed i’r stumog, coluddion, iau ac arennau. Mae’r iau mewn perygl arbennig a gall ddioddef niwed blaengar ac anwrthdroadwy o ddefnyddio gormod o gyffuriau ac alcohol.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: