Gabapentin

gabapentin
  • Nerontin
  • Lyrica
  • Gabbies
  • Gabby
  • Gaba
  • Bud Lite
  • Bud
  • Pregabalin
  • Pregs

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Gabapentin: 2-[1-(aminomethyl)cyclohexyl]acetic acid

Enwau Generig: Neurontin (Gabapentin)

An example of what Gabapentin looks like
Cynhyrchir Pregabalin fel capsiwlau gwyn, gwyn/oren neu oren. Cynhyrchir Gabapentin fel capsiwlau a thabledi gwyn, melyn neu oren.

Effeithiau A Ddymunir:

Dedwyddwch, mwy cymdeithasol, llonyddwch, ymlacio ac anterth tebyg i ganabis. Fodd bynnag, mae rhai defnyddwyr wedi adrodd bod sniffian gabapentin yn gallu bod yn debyg i gymryd symbylydd. Bydd effeithiau dedwyddwch pregabalin yn diflannu wrth ei ddefnyddio am gyfnod estynedig.

Sgîl Effeithiau:

Chwysu a theimlo'n sâl, gwynt, rhwymedd neu ddolur rhydd, rheolaeth wael dros gyhyrau ac aflonyddwch gweledol. Mae rhaid defnyddwyr wedi adrodd am yr effeithiau llai cyffredin canlynol: chwydd yn y dwylo a thraed, cur pen, meddyliau abnormal, meddyliau o hunanladdiad, diffyg anadl, poen yn y frest, briwiau yn y geg, oerni, teimlo'n sâl, peswch, cryndod a symptomau oerni eraill.

Tymor Hir:

Diffyg cwsg, cynnydd mewn pwysau. Dibyniaeth - gall stopio'n ddisymwth achosi symptomau ymgilio, gan gynnwys diffyg cwsg, teimlo'n sâl, cur pen neu ddolur rhydd. Gall Pregabalin hefyd achosi rhithweledigaethau, problemau calon (gan gynnwys methiant y galon), iselder, bod yn groen denau a phyliau panig. Mae defnyddio'r cyffuriau hyn wedi arwain at neu'n gysylltiedig â marwolaethau.

Tymor Byr:

Cysglyd, ansicr a diffyg cydlyniad corfforol, trwsgl ac aflonyddwch gweledol. Gall camddefnyddio Pregabalin neu Gabapentin fod yn ffactor risg ar gyfer gorddos, yn enwedig os cânt eu defnyddio ar y cyd ag alcohol, opiadau a chyffuriau tawelu'r system nerfau canolog eraill. Mae Gabapentin yn farwol mewn gorddos, ac nid oes gwrthgyffur iddo.
Iselydd y system nerfol ganolog. Poen laddwr, gwrth-gonfylsiol a gwrth-bryder. Mae'r cyffuriau hyn yn gweithredu ar niwrodrosglwyddyddion yn yr ymennydd.
Bydd capsiwlau a thabledi Gabapentin yn cael eu llyncu fel arfer, ond bu adroddiadau bod powdr o gapsiwlau gabapentin yn cael ei sniffian. Bydd capsiwlau a thabledi Gabapentin yn cael eu llyncu fel arfer, ond bu adroddiadau bod powdr o gapsiwlau gabapentin yn cael ei sniffian.
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri a'r rannu'n llinellau ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen.
Rhagnodir Pregabalin a Gabapentin yn eang mewn niwroleg, gofal cychwynnol a seiciatreg ar gyfer poen nerfol, epilepsi ac anhwylder pryder cyffredinol.
Bu cynnydd mewn rhagnodi a deunydd o'r cyffuriau hyn dros y bum mlynedd ddiweddaf, a chyda marchnad ddu gynyddol ar gyfer argaeledd y cyffuriau hyn heb bresgripsiwn drwy gyflenwyr ar lein.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau. I gael disgrifiad o'r hyn y mae gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn eu gwneud, dewiswch wasanaethau helpu yma neu'r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: