MSJ

msj
  • Vallies
  • Scoobies
  • Vera's
  • Dodgies
  • Blues
  • Doggies

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Diazepam (Valium)

Enwau Generig: Benzodiazepine - Tawelydd ysgafn

An example of what MSJ looks like
Mae'r rhain yn dabledi bach glas gyda MSJ wedi'u hargraffu arnynt a llinell las ar draws y llall. Maen nhw'n gallu amrywio mewn maint o 4.5mm i 7mm ar draws. Mae cynhyrchiad anghyfreithlon yn golygu nad yw'r dos yn gyson, mae'n bosibl iddynt gael eu gwerthu fel 10mg, ond gallent amrywio o 8mg i 30mg, ond ni fyddwn yn gwybod hyn nes byddant yn cael eu cymryd. Gan nad ydynt wedi'u rheoleiddio, mae'n bosibl na fydd rhai yn cynnwys unrhyw diazepam, ac mae rhai wedi bod yn cynnwys benzodiazepines a chemegolion eraill. Byddant o bosibl yn cael eu gwerthu mewn tybiau, bagiau plastig neu becynnau swigen.

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, llai o bryder, syrthni, dedwyddwch.

Sgîl Effeithiau:

Penysgafn, diffyg cydlynu, diffyg cofio difrifol, ymosodedd, syrthni, cur pen, ffwndro

Tymor Hir:

Gellwch fod yn gaeth (dibynnol) - symptomau diddyfnu difrifol ac os byddwch yn stopio eu cymryd yn rhy sydyn, agoraffobia, pyliau o banig, pryder difrifol. Efallai byddwch yn gwneud rhywbeth byddwch yn ei edifar yn fawr. Oherwydd y dos ym mhob tabled, ond hefyd heb wybod a oes unrhyw gemegyn arall yn y gymysgedd, mae'r risgiau yn amrywiol ac yn anhysbys.

Tymor Byr:

Goddefedd, damweiniau, risg o orddos os caiff ei gyfuno ag alcohol neu gyffuriau eraill. Ni fydd defnyddwyr cyflenwadau anghyfreithiol yn gwybod cryfder yr hyn byddant yn eu cymryd ac fe allent gymryd gormod.
Iselydd y system nerfol ganolog, llonyddwr
Dim.
Defnyddir Diazepam meddygol i drin aflonyddwch, iselder, tensiwn a phryder; annog cwsg; fel ymlaciwr cyhyrau; fel cyffur gwrth-gonfylsydd ac anhwylderau seiciatryddol.
Yn y DU, ceir llawer o wahanol MSJ diazepam ffug, adroddir bod y cyffuriau ffug hyn yn cyrraedd o Sweden, India, Pakistan, Sri Lanka, De Affrica a Gwlad Groeg. Mae rhai o'r cyffuriau ffug hyn o ansawdd gwael ac yn rhwyddach i'w adnabod, ond mae rhai yn edrych yn hynod broffesiynol.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall MT ac ysbytai gynnig cefnogaeth a rhaglenni lleihau ar gyfer rhoi'r gorau i Benzodiazepines a hefyd maen nhw'n gallu atgyfeirio at wasanaethau cyffuriau arbenigol megis Unedau Dibyniaeth ar Gyffuriau (DDU). Mae'r rhain fel arfer mewn neu ger ysbytai ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu'r rhai sy'n defnyddio cyffuriau, yn enwedig pobl sy'n gaeth yn gorfforol. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: