Pethedine

pethedine
  • Peth.
  • Pethidine Hydrochloride

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Pethidine Hydrochloride

Enwau Generig: Opiate

An example of what Pethedine looks like
Tabledi (50mg pethidine hydroclorid), gwyn, marc Roche arnynt. Ampylau ar gyfer chwistrellu, enw brand Parmegan P100.

Effeithiau A Ddymunir:

Dedwyddwch, ymlacio, llai o bryder

Sgîl Effeithiau:

Chwysu, teimlo'n sâl, chwydu, syrthni.

Tymor Hir:

Dibyniaeth Niwrowenwynig

Tymor Byr:

Goddefiad, gorddos, salwch, pendro, llonyddiad.
Poenleddfwr, iselydd y system nerfol ganolog, gwrth-sbasmodig.
Drwy'r geg, neu bydd tabledi'n cael eu gwasgu a'u chwistrellu.
Os yw'n cael ei chwistrellu: nodwydd a chwistrell, dŵr, matsis neu daniwr, llwy, rhwymyn tynhau, swabiau.
Ar gyfer trin poen cymedrol i ddifrifol yn enwedig yn ystod genedigaeth.
Dargyfeiriwyd o'r diwydiant fferyllol, fferyllfeydd, ysbytai neu bresgripsiwn meddyg teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: