Suboxone

suboxone
  • Suboxone

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Buprenorphine Hydrochloride and Naloxone Hydrochloride

Enwau Generig: Suboxone

An example of what Suboxone looks like
Mae tabledi Suboxone ar gael mewn dosau 2mg ac 8mg isdafodol.

Effeithiau A Ddymunir:

Dedwyddwch, llai o bryder, ymlacio.

Sgîl Effeithiau:

Cur pen, syndrom diddyfnu, teimlo'n sâl, methu cysgu a chwysu

Tymor Hir:

Mae camddefnydd mewnwythïenol o buprenorphine, fel arfer ar y cyd â benzodiazebine neu iselyddion CNS eraill (gan gynnwys alcohol) wedi cael eu cysylltu â gostyngiad resbiradol arwyddocaol a marwolaeth.

Tymor Byr:

Gall cymysgu Suboxone gyda chyffuriau fel benzodiazepine, alcohol, tabledi cysgu a thawelyddion eraill, rhai cyffuriau gwrthiselder, neu feddyginiaethau opioid eraill fod yn beryglus, yn enwedig heb fod o dan ofal meddyg, neu os bydd y dosau'n wahanol i'r rhai a ragnodwyd gan eich meddyg. Call cymysgu'r cyffuriau hyn arwain at syrthni, llonyddiad, anymwybyddiaeth a marwolaeth, yn enwedig drwy chwistrelliad.
Mae Suboxone yn un rhan Naloxone i bob pedwar rhan Buprenorphine. Mae Buprenorphine yn wrthweithydd opiad rhannol - opioid lled-synthetig sy'n gweithredu ar dderbynwyr opioid yn yr ymennydd sydd hefyd yn eu blocio. Mae Naloxone yn wrthweithydd opiad - mae'n rhwystro gweithredoedd opiadau ac fe'i defnyddir yn rheolaidd yn ystod adferiad brys yn dilyn gorddos opiad.
Drwy'r geg neu chwistrelliad. Gellir malu'r tabledi i'w chwistrellu.
Os yw'r tabledi'n cael eu chwistrellu: nodwyddau a chwistrellau, dŵr, matsis neu daniwr, llwy.
Defnyddir fel triniaeth amnewid ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau opioid. Wrth ei gymryd yn isdafodol yn ôl presgripsiwn, nid oes gan y cydran naloxone o'r driniaeth unrhyw effaith, yn sgil ei bio-argaeledd gwael drwy'r ffordd hon. Fodd bynnag, os caiff ei chwistrellu, bydd y cydran naloxone yn cael ei weithredu, gan achosi symptomau diddyfnu sy'n gwneud y cyffur yn anneniadol i'w gamddefnyddio.
Ceir drwy wneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiwn meddyg teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, yn cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: