Temgesic

temgesic
  • Subutex.
  • Temgesic
  • Tems
  • Buprenorphine Hydrochloride

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Buprenorphine Hydrochloride

Enwau Generig: Opioid lled-synthetig.

An example of what Temgesic looks like
Tabledi isdafodol, 0.4mg, 2mg, 8mg sy'n toddi o dan y tafod. Ffiolau ar gyfer chwistrelliadau.

Effeithiau A Ddymunir:

Dedwyddwch, llai o bryder, ymlacio.

Sgîl Effeithiau:

Syrthni, ffwndro, dryswch.

Tymor Hir:

Dibyniaeth, problemau resbiradol, os caiff ei chwistrellu, niwed i'r gwythiennau a chylchrediad y gwaed.

Tymor Byr:

Goddefiad, damweiniau, rhwymedd, gorddos
Iselydd y system nerfol ganolog, poen laddwr.
Drwy'r geg neu chwistrelliad. Gellir malu'r tabledi i'w chwistrellu
Os yw'r tabledi'n cael eu chwistrellu: nodwyddau a chwistrellau, dŵr, matsis neu daniwr, llwy.
I drin poen cronig canolig i ddifrifol, triniaeth dibyniaeth ar opioidau.
Opioid lled-synthetig sy'n gweithredu ar dderbynwyr opioid yn yr ymennydd sydd hefyd yn eu blocio. Ceir drwy wneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiwn meddyg teulu.
Mae Buprenorphine (Temgesic, Subutex) wedi bod yn boblogaidd mewn rhai rhannau o'r DU ac fe'i defnyddiwyd gan chwistrellwyr fel dewis amgen i heroin. Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opioidau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opiate/opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: