Mae isafbris am alcohol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ar 2 Mawrth 2020
- Bydd yn pennu’r pris isaf ar gyfer alcohol, sy’n golygu na ellir gwerthu na chyflenwi alcohol am lai na’r pris hwnnw.
- Nod isafbris am alcohol yw lleihau goryfed alcohol a’r niwed sylweddol ac eang mae yfed peryglus a niweidiol yn gallu ei achosi. Alcohol yw un o achosion mwyaf marwolaeth a salwch yng Nghymru.
- Mae’n arwain at nifer o niweidiau iechyd a chymdeithasol, yn enwedig i’r lleiafrif arwyddocaol o bobl sy’n yfed yn ormodol.
- Yn 2018, cafwyd 535 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru ac yn 2018-19; cafwyd bron 60,000 o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd alcohol. Mae modd atal yr holl niwed hwn.
- Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng yfed ar lefelau niweidiol ac argaeledd alcohol rhad, a bod isafbris yn effeithiol o ran lleihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol.
Dadlwythiadau (PDF)