Fêpio

  • Mae fêpio yn ffordd o wresogi sylwedd heb ei losgi er mwyn cynhyrchu anwedd yn hytrach na mwg niweidiol. Roedd y dyfeisiau traddodiadol a wnaed ar gyfer fêpio canabis gwair neu ganabis solet yn fawr, trafferthus a drud. Ers dyfodiad fêpio e-sigaréts, mae ystod o ddyfeisiau fêp bach a rhad ar gael yn rhwydd.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r dyfeisiau wedi’u gwneud ar gyfer fêpio e-hylif, er bod rhai o’r dyfeisiau llai a newydd yn honni y gellir eu defnyddio hefyd i fêpio cyffuriau gwair a ffurfiau powdwr.
  • Er bod rhai pobl wedi arbrofi gyda fêpio ystod eang o gyffuriau, y prif gyffuriau sy’n cael eu fêpio yw nicotin a chanabis (y ddau yn THC a CBD).
  • Mae canabis crynodedig yn aml yn cael ei gymryd drwy ollwng swm bach ar arwyneb poeth a chaniatáu iddo anweddu cyn ei anadlu (a elwir yn ‘dabio’).

Derbyn y cyffur mewn modd mwy diogel

  • Ni ddylid rhannu dyfeisiau fêpio.
  • Nid yw’n bosibl gwybod faint o THC mewn cymysgedd neu mewn fêp wedi’i lenwi’n barod yr ydych chi wedi’i brynu. Nid yw chwaith yn bosibl gwybod (nes i chi roi cynnig arni) os ydych chi wedi prynu fêp THC sy’n cynnwys cannabinoid synthetig… ‘Sbeis’ o dan gamargraff. Mae bob amser yn well dechrau gyda’r dos isaf posibl er mwyn mesur cryfder.
  • Mae fêp THC olew/hylif yn hynod o ddrud i’w brynu. Os ydych chi’n ei weld ar werth am £10-20 ar y cyfryngau cymdeithasol, mae bron yn sicr yn werthiant twyllodrus.
  • Gan fod canabis crynodedig yn cynnwys symiau llawer uwch o THC, gall yr effeithiau fod yn llawer cryfach na chanabis gwair. Mae bob amser yn well dechrau gyda’r dos isaf posibl er mwyn mesur cryfder.
  • Er bod fêpio yn osgoi’r risg o fewnanadlu mwg, mae pryderon y gallai fêpio THC fod yn niweidiol iawn i’r ysgyfaint. Ceisiwch osgoi mewnanadlu’n rhy ddwfn, gall achosi mwy o niwed ac ni fyddwch o dan fwy o ddylanwad.
  • Cynnal dyfeisiadau. Mae angen cynnal dyfeisiau amldro. Mae’r coil yn treulio ac mae angen ei newid, mor aml â phob wythnos. Stociwch i fyny ar ddarnau y gallwch eu cyfnewid a’u newid fel bo angen.
  • Rheoli batris yn ddiogel. Gall fatris fynd ar dân neu ffrwydro. Mae’n bwysig eich bod yn trydanu, storio a defnyddio batris yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a chael gwared ohonynt yn ddiogel drwy bwynt ailgylchu batris. Gwiriwch wefan eich canolfan ailgylchu lleol am ragor o wybodaeth am gael gwared â batris yn ddiogel.

Dulliau fêpio

Mae anwedd yn cael ei fewnanadlu, ei dynnu i mewn i’r ysgyfaint ac yna’n pasio trwy leinin yr ysgyfaint i mewn i lif y gwaed. Yna, mae’n cael ei bwmpio drwy’r galon ac ymlaen i’r ymennydd.

Risgiau iechyd fêpio

  • Mae’r union gemeg a’r risgiau sy’n ymwneud â fêpio unrhyw gyffuriau ar wahân i nicotin a THC yn anhysbys gan fwyaf.
  • Mae’r toddyddion cannabinoid a ddefnyddir mewn dyfeisiau fêpio THC yn wahanol i’r hyn a ddefnyddir mewn dyfeisiau fêpio nicotin. Yn yr Unol Daleithiau, ychwanegwyd asetyn fitamin E i drwchu neu wanhau’r hylif yn y fêp THC. Hwn oedd yn gyfrifol yn bennaf am 2,807 o achosion o anaf difrifol i’r ysgyfaint yn yr ysbyty, a chofnodwyd 68 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau rhwng 2019 a 2020. Ar ôl gwresogi mewn beiro fêp THC, mae asetyn fitamin e yn cynhyrchu ceten –gwenwyn cryf iawn i’r ysgyfaint.
  • Mae prawf 2023 yn y DU wedi canfod asetyn fitamin E yn bresennol mewn fêp THC. Nid yw’n hysbys pa mor gyffredin yw hyn mewn fêp THC hylif yn y DU, gan fod cyn lleied o brofion o’r math hwn wedi’u cynnal.
  • Yn hollol ar wahân i asetyn fitamin E, mae pryder hefyd am asetyn THC-O sy’n cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn mewn cynhyrchion cyfredol yn yr Unol Daleithiau.
  • Nid oes unrhyw ffordd o wybod a yw eich fêp THC hylif yn cynnwys asetyn fitamin E. Nid oes dos diogel neu ffordd fwy diogel o ddefnyddio fêp hylif sy’n cynnwys asetyn fitamin E. Os ydych chi’n defnyddio beiro fêp THC, monitrwch eich hun am unrhyw symptomau (e.e., peswch, diffyg anadl, poen yn y frest) a cheisiwch sylw meddygol yn syth os oes gennych bryderon am eich iechyd.

Risgiau dibyniaeth

Mae fêp THC olew yn cael ei werthu mewn poteli neu feiros fêp wedi’u llenwi’n barod. Os oes gennych fêp THC go iawn, gall hyn fod yn unrhyw le rhwng 40-80% THC, felly mae’n ffurf grynodedig o’r cyffur. Felly mae’n llawer anoddach amcangyfrif y dos ac yn llawer haws profi effeithiau negyddol. Fel rheol gyffredinol, y cryfaf yw ffurf y cyffur a ddefnyddir, y mwyaf tebygol y byddwch yn profi goddefgarwch a dibyniaeth.

Ysmygu neu fêpio?

Er bod fêpio yn fwy diogel nag ysmygu sigarét, neu ysmygu canabis mewn sigarét mariwana, pibell neu bong, efallai y bydd rhywfaint o risg o gael anafiadau i’r ysgyfaint. Mae’n debyg ei bod hi’n llawer haws i chi gael eich ‘twyllo’ a diweddu gyda rhywbeth mwy peryglus os ydych chi’n prynu fêp THC yn hytrach na chanabis gwair traddodiadol.

Cuddio
Ffôn di-dal: