2-DPMP

2-dpmp
  • Vanilla Sky
  • Purple Wave
  • Ivory Coast
  • Ivory wave

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 2-diphenylmethylpiperidine

Enwau Generig: Desoxypipradrol

An example of what 2-DPMP looks like
Powdwr gwyn neu bowdwr gwyn budur.

Effeithiau A Ddymunir:

Symbylydd sydd fel amffetamin gydag effeithiau hir dymor.

Sgîl Effeithiau:

Aflonyddwch difrifol, pryder, insomnia, paranoia, poen yn y frest, rhithweledigaethau.

Tymor Hir:

Gall effeithiau difrifol bara nifer o ddiwrndoau. Nid ydym ar hyn o bryd yn gwybod beth yw'r peryglon hir dymor ond gallent fod yn debyg i amffetimau eraill; gall defnydd rheolaidd fod yn orfodaeth a gall defnyddwyr ddatblygu dibyniaeth seicolegol a chorfforol.

Tymor Byr:

Ymosodedd, ffitiau, pwysedd gwaed cynyddol, cynnydd peryglus posibl yn nhymheredd y corff, perygl o fethiant yr arennau. Bydd y peryglon yn cynyddu os yw’n cael ei gyfuno gydag alcohol neu gyffuriau eraill. Mae defnyddwyr wedi nodi bod Ivory Wave yn gryf iawn, ac ond angen ychydig ohono, felly mae'n hawdd cymryd gormod.
Symbylydd y brif system nerfol gydag effeithiau fel amffetamin.
Ei sniffian drwy'r trwyn neu ei lyncu (bomio) mewn darnau papur
Ei lyncu mewn darnau o bapur sigaret. Os yw'n cael ei sniffian, llafn rasel, arwyneb gwastad caled (fel drych neu wydr), tiwb neu arian papur wedi'i rolio.
Cafodd Desoxypipradrol ei ddatblygu yn yr 1950au ar gyfer trin narcolepsi a ADHD, ond rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio o ganlyniad i ddatblygiad o gyffuriau mwy effeithiol.
Mae 2-DPMP yn gemegau synthetig sy'n cael eu gwneud mewn labordai. Gall sylweddau gael eu mewnforio neu eu gwerthu dros y we fel 'cemegau ymchwil'.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapiau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau. I gael disgrifiad o'r hyn y mae gwasanaethau cyffuriau gwahanol yn eu gwneud, dewiswch gwasanaethau helpu yma neu'r brif ddewislen.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: