Alcohol
alcohol- Gwin
- Wisgi
- Fodca
- Gwirodydd
- Rym
- Seidr
- Siampên
- Brandi
- Drink
- Bevvy
- Cwrw
- Ethyl Alcohol
- Ethanol
Enwau Gwyddonol: Ethanol, Ethyl Alcohol
Enwau Generig: Alcohol
Effeithiau A Ddymunir:
Meddwdod ysgafn, ymlacio, llonder, teimlo'n gymdeithasol.Sgîl Effeithiau:
Dadhydradiad, diffyg cyd-symud, siarad yn aneglur, dim swildod, amharu ar eich golwg, dryswch.- Er bod alcohol yn gyfreithlon, mae'n gyffur iselder.
- Gall yfed ar stumog wag beri ichi feddwi'n gyflymach oherwydd bydd yr alcohol yn mynd i mewn i'ch gwaed ac i'ch ymennydd yn gyflymach; felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bwyta pryd o fwd cyn i chi ddechrau yfed.
- Ceisiwch arafu'r alcohol trwy gael dŵr neu ddiod feddal rhwng diodydd alcoholig. Bydd hyn yn rhoi ychydig mwy o amser i'ch iau brosesu'r alcohol ac ni fyddwch yn teimlo mor ddadhydredig.
- Os ydych chi allan gyda ffrindiau, osgowch yfed mewn rowndiau oherwydd gall fod yn hawdd colli trywydd yr hyn rydych chi'n ei yfed.
- Peidiwch â rhoi pwysau ar eraill i yfed gormod
- Peidiwch â chael eich gorfodi i yfed yn rhy gyflym na chymryd rhan mewn gemau yfed.
- Peidiwch â chymysgu'ch diodydd. Gall cymysgu diodydd eich gwneud chi'n fwy meddw a theimlo'n fwy sâl na phe baech chi'n cadw at un math o ddiod yn unig.
- Peidiwch â gadael eich diod heb neb i ofalu amdani a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio'ch diod yn cael ei hagor / tywallt bob amser, bydd hyn yn osgoi rhywun yn ei sbeicio.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod sut rydych chi'n cyrraedd adref cyn i chi adael y dafarn / clwb.
- Pan gyrhaeddwch adref, yfwch ychydig o ddŵr i helpu i ail-hydradu’ch corff a gwanhau'r alcohol yn eich llif gwaed; pan ewch i'r gwely cysgwch ar eich ochr yn y safle adfer er mwyn osgoi tagu os ydych chi'n taflu i fyny.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau gwael fel chwydu, confylsiynau, anymwybodol - rhowch nhw yn y safle adfer a galwch am gymorth meddygol ar unwaith.
Risgiau tymor byr
Gorddos, damweiniau (yfed a gyrru). Mynd yn anymwybodol, coma, marwolaeth.
Effaith ddymunol
Meddwdod ysgafn, llonder, teimlo'n gymdeithasol.
Risgiau tymor hir
Dibyniaeth, symptomau diddyfnu, niwed parhaol arwyddocaol i'r ymennydd ac organau eraill (calon, iau, stumog) sy'n gallu bod yn angheuol.
Tymor Hir:
Dibyniaeth, symptomau diddyfnu, niwed parhaol arwyddocaol i'r ymennydd ac organau eraill (calon, iau, stumog) sy'n gallu bod yn angheuol.Tymor Byr:
Goddefiad, gorddos, damweiniau (yfed a gyrru). Mynd yn anymwybodol, coma, marwolaeth. Os bydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd, gall niweidio'r embryo (syndrom alcohol y ffoetws).Am fwy o wybodaeth ar Alcohol Related Brain Damage (ARBD) cliciwch ar y linc i wefan Alcohol Exchange Alcohol-related brain damage - signs and symptoms | Alcohol Change UK