Cathinone

cathinone
  • Cathinone

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Benzoylethanamine,
(S)-2-amino-1-phenyl-1-propanone

Enwau Generig: Cathinone

An example of what Cathinone looks like
Mae Cathinone yn gyfansawdd cemegol sy'n digwydd yn naturiol, mae'n gydran o'r llwyn Catha edulis - Khat. Gellir cynhyrchu Cathinone hefyd yn synthetig, gelwir weithiau yn 'Cathinone Amnewidiol'. Cathinone synthetig yw'r cynhwysyn allweddol mewn cyffuriau hamdden megis Mephedrone.

Effeithiau A Ddymunir:

Siaradus, ewfforia a chynhyrfiad, bywiogrwydd, ymlediad cannwyll y llygad.

Sgîl Effeithiau:

Methu cysgu, dim chwant bwyd, crychguriad y galon, ceg sych, gor-actifedd, rhwymedd.

Tymor Hir:

Iselder, natur flin, dibyniaeth seicolegol, ond ni wyddom lawer iawn am niwed tymor hir.

Tymor Byr:

Pryder, ymddygiad gorffwyll, paranoia, goddefiad.
Symbylydd y brif system nerfol. Mae gan Cathinone strwythur tebyg i amffetamin ac mae'n achosi rhyddhau dopamine.
Amrywiol, yn ddibynnol ar ffurf y cyffur.
Amrywiol, yn ddibynnol ar ffurf y cyffur.
Mae cathinonadau yn gyfansawdd cemegol sy'n digwydd yn naturiol, mae'n gydran o'r llwyn Catha edulis - Khat. Mae Cathinone yn gemegol debyg i ephedrine, cathine ac amffetaminau eraill.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae cynnydd yn y defnydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: