Magic Mushrooms

magic-mushrooms
  • Liberties
  • Liberty Caps
  • Magics
  • Mushies
  • Shrooms
  • Psilocybe Semilanceata

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Psilocybe Semilanceata

Enwau Generig: Liberty Cap

An example of what Magic Mushrooms looks like
Madarch bach gwyn ar eu ffurf naturiol, brown ar ôl eu sychu, gyda lwmp bach nodedig ar ei ben. Cynhwysion gweithredol: Psilocybin a Psilocin.

Effeithiau A Ddymunir:

Tebyg i LSD, h.y. rhithweledigaethau a doniolwch - ond yn para'n llai, 3-7 awr yn ddibynnol ar faint a gymerir.

Sgîl Effeithiau:

Ffwndro, dryswch, methu cydlynu'r corff, teimlo'n sâl afluniad amser a lle, pendro. Rhithbeiriau yn anrhagweladwy a goddrychol eu natur a gall symptomau amrywio
    short term effects

    Risgiau tymor byr

    Damweiniau tra dan ddylanwad, pryder, gofid emosiynol, Gwenwyno

    desired effects

    Effaith ddymunol

    Rhithweledigaethau a doniolwch - ond yn para'n llai, 3-7 awr yn ddibynnol ar faint a gymerir.

    long term effects

    Risgiau tymor hir

    Risg o sbarduno problemau seicolegol sylfaenol. Ddim yn gorfforol gaethiwus, gallu creu cynnydd dros dro mewn goddefedd.

    Tymor Hir:

    Fel pob sylwedd rhithbeiriol, mae rhywfaint o risg o sbarduno problemau seicolegol sylfaenol. Ddim yn gorfforol gaethiwus, ond maen nhw'n gallu creu cynnydd dros dro mewn goddefedd.

    Tymor Byr:

    Damweiniau tra dan ddylanwad, pryder, gofid emosiynol (h.y. trip drwg). Gwenwyno, drwy hel math mwy gwenwynig o fadarch yn ddamweiniol.
    Eu bwyta neu eu gwneud yn de.
    Dim.
    Mae madarch Psilocybin yn tyfu ym mhob rhan o Brydain yn ystod yr hydref. Gall defnyddwyr fynd ar sbri hel yn ystod y cyfnod hwn, sychu'r madarch a'u cadw i'w defnyddio eto. Gwerthir rhai ar y farchnad anghyfreithiol pan nad ydynt yn eu tymor.
    Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapiau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gellwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol cyffuriau.

    Rhieni a pherthnasau eraill

    Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

    Cuddio
    Ffôn di-dal:
    Neu tecstiwch DAN i: