Meffedron

mephedrone
  • MC
  • Meth
  • Drone
  • Bubble
  • Bolt
  • MCAT
  • M-Cat
  • Meow Meow
  • Meow
  • 4-MMC

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: (RS)-2-methylamino-1-(4-methylphenyl)propan-1-one Also known as: 4 methylmethcathinone, 4-MMC

Enwau Generig: Meffedron Peidiwch â'i ffwndro gyda 'Methedrone' (4-methoxymethcathinone) neu 'Methylon' (bk-MDMA), neu Methadon' (opioid synthetig).

An example of what Meffedron looks like
Powdr, tabledi a chapsiwlau. Mae'n cael ei werthu'n aml mewn bagiau neu lapiad fel powdr gwyn/llwydwyn/melynaidd Gall fod o ansawdd ychydig yn llaith gan wneud y cyffur yn anoddach i'w rannu'n llinellau. Fe'i gwerthir hefyd ar y rhyngrwyd a rhai siopau arbenigol fel tabledi neu gapsiwlau sy'n cynnwys y powdr.

Effeithiau A Ddymunir:

Bydd defnyddwyr yn cymharu'r effeithiau'n aml i fod yn debyg i ecstasi, cocên neu amffetaminau (sbîd). Cyffro, dedwyddwch, effröwch a siaradus. Un o brif nodweddion meffedron yw'r cymhelliant cryf i gymryd dos arall.

Sgîl Effeithiau:

Teimlo'n sâl, paranoia a phryder. Crychguriadau, teimlo'n chwil, pendro, poen a chwydd yn y trwyn a'r gwddf. Brech, newid anghyffyrddus mewn gwres corfforol, arogl abnormal o'r corff, crensian dannedd, cyhyrau'n plycio. Diffyg cwsg, canolbwyntio gwael, colli cof tymor byr, problemau cylchrediad y gwaed. Goddefiad yn adeiladu'n sydyn, felly mae'r dymuniad i gymryd mwy a mwy yn cynyddu. Gall ôl-effeithiau megis anhunedd bara am sawl awr neu ddiwrnodau.

Tymor Hir:

Ni wyddom fawr ddim am effeithiau tymor hir y cyffur oherwydd yr hanes byr o'i ddefnyddio. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau o fasgyfyngiad (pibellau gwaed yn culhau) gyda dosau ailadroddol, gan gynnwys symptomau canolig i ddifrifol o binnau bach yn y breichiau, dwylo, coesau a thraed gyda'r risg posibl o niwed i'r galon. Cur pen, penysgafnder a newid lliw'r croen anarferol. Niwed i du mewn y trwyn os yw'n cael ei sniffian; risgiau i iechyd meddwl megis iselder, meddyliau o hunanladdiad a seicosis. Bu nifer o farwolaethau yn y DU sy'n gysylltiedig â meffedron. Mae cymysgu cyffuriau megis meffedron a Ketamine neu meffedron gyda amffetamin yn cynyddu'r risg.

Tymor Byr:

Symbylydd synthetig - mae'n perthyn i'r dosbarth cemegolion cathinonau. Mae'r effeithiau'n para am oddeutu 2 - 3 awr wrth ei gymryd drwy'r geg.
Gellir snwffian neu lapio'r powdr mewn papur sigarét a'i lyncu (bomio). Gellir llyncu'r capsiwlau neu'r tabledi
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri a'r rannu'n llinellau ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen.
Daw Meffedron o gyfansawdd o gathinon, sydd hefyd yn gyffur Dosbarth B.; Fe'i gwerthir dros y we ac mewn rhai siopau arbenigol ar ffurf powdr; neu fel tabledi neu gapsiwlau sy'n cynnwys y powdr. Fe'i marchnatir yn aml fel bwyd planhigion.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae cynnydd yn y deunydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: