NBOMe Compounds

nbome-compounds
  • 25I
  • 25I-NBOMe
  • 2C-I-NBOMe
  • Bom-25
  • Smiley Paper
  • 25I-NBOMe - N-Bomb

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 2-(4-iodo-2,5-dimethoxyphenyl)-N-[(2-methoxyphenyl)methyl]ethanamine

Enwau Generig: 25I-NBOMe (2C-I-NBOMe, Cimbi-5)

An example of what NBOMe Compounds looks like
Powdr, hylif. Gellir defnyddio'r hylif fel chwistrelliad neu ei fwydo ar bapur, yn debyg i LSD, a'i werthu mewn sgwariau bach. Cyfeirir atynt yn aml fel tabs neu blotters, byddant yn amrywio mewn maint, siâp, lliw a chynllun

Effeithiau A Ddymunir:

Rhithbeiriol tebyg i LSD, stimiwleiddiad meddyliol a chorfforol, dedwyddwch a rhithwelediadau gweledol a chlywol, newidiadau i ymwybyddiaeth ac afluniad i synhwyrau.

Sgîl Effeithiau:

Curiad calon cyflymach, pwysedd gwaed uchel, cynnwrf, rhithwelediadau amhleserus, ffwndro, teimlo'n sâl, diffyg cwsg, paranoia a phanig. Mae rhai defnyddwyr wedi adrodd am effeithiau negyddol iawn tra'n feddw ac mewn mwy o risg o niwed yn dilyn eu defnyddio o'i gymharu â chyffuriau rhithbeiriol eraill megis LSD ayb.

Tymor Hir:

Dim gwybodaeth ar hyn o bryd, ond o bosibl yn debyg i risgiau tymor hir LSD. Fel cyfansoddyn eithaf newydd, ychydig a wyddom am y risgiau neu ryngweithiad gyda chyffuriau eraill

Tymor Byr:

Ymosodedd, ffitiau, risg arwyddocaol o orddos - mae'r cyfansoddion hyn yn gryf iawn a dim ond ychydig bach sydd eu hangen i gael effaith, felly mae risg uchel iawn o orddos ar ffurf powdr a hylif. Adroddwyd am nifer o farwolaethau o ganlyniad i orddos a hefyd o ddamweiniau tra dan ddylanwad.
Mae cyfansoddion NBOMe yn rhithbeiriau cryf iawn a ystyrir fel dewis amgen i LSD. Gall effeithiau bara am 4-6 awr, ond o bosibl yn hirach yn ddibynnol ar amlder dos.
Fel powdr, mae o wedi cael ei sniffian i fyny'r trwyn, ond ni argymhellir yr arddull hwn, oherwydd mae adroddiadau bod y ffordd hyn o'i gymryd wedi arwain at rai marwolaethau. Ar ffurf hylif, gellir ei ddefnyddio ar bapur sugno a'i osod o dan y tafod neu ei ddal yn y boch i'w amsugno drwy leinin y geg. Gellir defnyddio'r hylif hefyd ar ffurf chwistrell a'i anadlu drwy'r geg neu'r trwyn.
Dim.
Mae cyfansoddion NBOMe yn gemegau synthetig sy'n deillio o gyfansoddion phenethylamine 2c (gweler hefyd 2CE). Yn 2013, fe'i darganfuwyd gan y cemegydd Ralf Heim, ond ni ddefnyddiwyd fel cyffur hamdden tan 2010, pan gafodd ei werthu 'fel cemegolion ymchwil'.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae rhai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: