Temazepam

temazepam
  • The Mazepam
  • TZ
  • Big T
  • Vitamin T
  • Mommys Big Helper
  • Tem-Tems
  • Neurotrashers
  • Mind Erasers
  • Brainwash
  • Drunk Pills
  • Green Devils
  • Blackout
  • No-gos
  • Red & Blue
  • Terminators
  • Ruggers
  • Rugby Balls
  • Norries
  • Hardball
  • Knockouts
  • Wobbly Eggs
  • Green Eggs
  • Eggs
  • Beans
  • Temmies
  • Tammies
  • Temazies
  • Mazzies
  • Terms
  • Tams
  • Edinburgh Eccies
  • Jelly
  • Jellies
  • King Kong Pills

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Temazepam

Enwau Generig: Benzodiazepine

An example of what Temazepam looks like
Tabledi 10mg and 20mg. Toddiant geneuol 10mg/5ml Mae pob cynhyrchydd yn y DU nawr yn creu tabledi solet yn hytrach na capswlau gel.

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, llai o bryder, dedwyddwch.

Sgîl Effeithiau:

Syrthni, penysgafnder, colli balans a chydweithrediad, ffwndro, pwysedd gwaed isel, pendro, rhithwelediadau, cynnwrf a hunllefau. Gall meddyginiaethau eraill ryngweithio â Temazepam megis rhai mathau o gyffuriau gwrthiselder a gwrthfiarol, ymysg eraill.

Tymor Hir:

Dibyniaeth gorfforol, goddefiad a symptomau diddyfniad difrifol os caiff ei stopio'n sydyn, ffitiau a cholli'r cof. Agoraffobia, pryder a phyliau o banig

Tymor Byr:

Gorddos, yn enwedig os caiff ei gymysgu gydag alcohol neu sylweddau iselydd eraill, gostyngiad resbiradol, coma a marwolaeth.
Mae Temazepam yn iselydd y system nerfol ganolog. Mae'n gyffur hypnotig a ddefnyddir ar gyfer triniaeth tymor byr diffyg cwsg a phryder.
Caiff tabledi a thoddiant geneuol eu llyncu. Gwyddom am ddefnyddwyr sydd wedi chwistrellu Temazepam - mae'n achosi cosi poenus dychrynllyd a niwed i feinwe wrth ei chwistrellu'n fewnwythiennol, ynghyd â'r risgiau eraill a gysylltir â defnyddio cyffuriau'r ffordd hon.
Os yw'n cael ei chwistrellu: chwistrell, nodwydd a dŵr,
Mae Temazepam yn benzodiazepine a ragnodir ar gyfer ei rinweddau llonyddol, ar gyfer triniaeth tymor byr diffyg cwsg. Gellir ei ragnodi ar gyfer pryder, aflonyddwch ac iselder. Gellir ei ragnodi hefyd fel meddyginiaeth gwrthgonfylsiwn, ymlaciwr cyhyrau a llonyddiad cyn llawdriniaeth.
Ceir drwy wneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiwn meddyg teulu
Mae Temazepam yn gyffur sy'n creu dibyniaeth gorfforol ddifrifol iawn. Gall symptomau rhoi'r gorau fod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed yn fygythiad bywyd wrth stopio eu cymryd yn stop stond. Felly mae'n hanfodol bod Temazepam yn cael ei leihau'n raddol gan ddefnyddio rhaglen leihau. Meddyg Teulu yw'r cyrchfan cyntaf i unrhyw un sy'n dymuno lleihau neu stopio defnyddio cyffur fel Temazepam a gall MT hefyd ragnodi cynllun lleihau i ddod oddi arnynt yn raddol bach. Gall MT hefyd gyfeirio at wasanaeth cyffuriau cymunedol neu ' asiantaeth stryd' i ddarparu cefnogaeth bellach ar ffurf gwybodaeth a chyngor, cwnsela ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol megis aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: