Mwynha dy noson,
cadwa’n saff

Bydd yfed ychydig llai o ddiodydd yn dy helpu di a dy ffrindiau i gadw’n saff a mwynhau noson i’w chofio. Gall gwneud newidiadau syml wella dy lesiant, arbed arian a dy helpu i ddeffro'r bore canlynol yn teimlo’n ffres ac yn barod i wynebu’r diwrnod.

Rhagor am alcohol

Cyngor craff i fwynhau dy noson a chadw’n ddiogel

Meddylia ddwywaith am yfed cyn mynd allan

Mae meddwi cyn mynd allan yn dy roi di a dy  ffrindiau mewn mwy o risg a gallai olygu tacsi adre’n gynnar. Meddylia am gyfyngu faint gei di cyn gadael, ac yfa ddigon o ddŵr i dy hydradu drwy gydol y noson. 

Yn gryfach gyda’ch gilydd

Cefnoga dy ffrindiau drwy aros gyda’ch gilydd, gofalu am eich gilydd a pharchu eu dewisiadau. Ni fydd ffrind da yn gorfodi unigolyn i yfed mwy nag y mae’n dymuno.

Mwynha dy foreau

Bydd ychydig o gamau syml yn cadw pen mawr draw, yn gwella dy lesiant ac yn dy helpu di wneud y mwyaf o dy foreau.

  • Bwyta bryd cyn yfed. 
  • Cadwa wedi dy hydradu ac yfa ddŵr rhwng diodydd alcoholig. 
  • Paid  â chymysgu dy ddiodydd 
  • Ceisia osgoi’r siots

Cynllunia ymlaen llaw

Paid â chael dy adael yn yr oerfel – trefna dy siwrnai adre cyn mynd allan. 

Meddylia cyn cymysgu

Gall cymysgu diodydd fod yn gamgymeriad, waeth a yw’n wirodydd, gwinoedd neu’n siotiau. Mae alcohol yn effeithio ar gyrff pawb yn wahanol, felly mae’n gallach i gadw at yr un math o ddiod – a phaid â’u cymysgu â chyffuriau. Gall alcohol a chyffuriau weithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd annisgwyl, a gallant fod yn beryglus wrth eu cymryd ar yr un pryd. 

Mae cymryd cyffuriau yn anghyfreithlon, ond os wyt ti’n benderfynol o’u cymryd, meddylia yn ofalus am y risgiau cyn i ti ddechrau. Cynllunia ymlaen llaw, dwed wrth eraill beth rwyt ti wedi’i gymryd, arhosa gyda ffrindiau a gallu di bob amser wirio’r hyn sydd yn y cyffuriau trwy ddarparu sampl i WEDINOS. Yr unig ffordd o osgoi’r holl risgiau yw peidio â chymryd cyffuriau.

Bydd yn ymwybodol, cymer ofal

Bydd yfed ychydig llai o ddiodydd yn dy helpu i aros yn wyliadwrus ar dy noson allan a sylwi ar yr arwyddion o sbeicio diodydd. Cadwa lygad ar dy ddiodydd a chad nhw gyda thi bob amser. Os wyt ti’n credu dy fod ti neu dy ffrindiau wedi’ch sbeicio, arhoswch gyda’ch gilydd a chwiliwch am gymorth. 

Os wyt ti’n pryderu am dy arferion yfed neu arferion yfed rhywun arall, mae cymorth ar gael.
Siarad gyda rhywun yw’r cam cyntaf. Gelli ffonio DAN 24/7 ar 0808 808 2234 ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a gallwn roi cymorth a chyngor cyfrinachol, am ddim i ti.

Ffôn di-dal

0800 808 2234

Neu tecstiwch DAN i

81066

Mae Ychydig llai o ddiodydd yn rhan o Galw Amser Newid, strategaeth i leihau’r niwed a achosir gan alcohol gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau

Noswaith allan
Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: