Effeithiau Cyffuriau ar yr Ymennydd

Pan fydd cyffur wedi mynd i mewn i’r corff dynol ac wedi gwneud ei ffordd i’r ymennydd, beth sy’n digwydd wedyn? Dyma gwestiwn difyr iawn – a dim ond dechrau dod i wybod yr atebion ydym ni. Dim ond megis dechrau mae’r gwaith o astudio sut mae’r ymennydd yn gweithio, y berthynas gymhleth rhwng gweithgarwch cemegol a thrydanol a’u heffeithiau ar bersonoliaeth a thymer.

Dim ond drwy ymchwil a gweithgarwch llawer o’r cyffuriau a waharddwyd fel cocên, heroin, LSD ac yn fwy diweddar ecstasi yn bennaf yr ydym yn dechrau gallu rhoi darnau o’r jig-so at ei gilydd.

Beth wyddom ni ydy fod yr ymennydd yn cynnwys biliynau o gelloedd nerfol o’r enw niwronau. Mae’r rhain yn derbyn a thrawsyrru negeseuon i bob rhan o’r corff ac ohonynt. Gyda’i gilydd, maen nhw’n fath o switsfwrdd anferthol.

Yn ymestyn i lawr o’r ymennydd, mae bwndel hir o gelloedd nerfol o’r enw madruddyn y cefn, a gyda’i gilydd, mae hwn a’r ymennydd yn gwneud y brif system nerfol.

Mae negeseuon yn croesi o un gell nerfol i’r llall drwy gyfrwng cemegolion o’r enw trawsyryddion niwro. Mae’r rhain yn cario signalau dros y bwlch neu synaps, rhwng niwronau. Mae dau fath o drawsyryddion niwro – cymelliadol, sy’n ysgogi adwaith ac ataliol, sy’n ei leihau.

Bydd un niwron ar un ochr synaps yn rhyddhau (neu ‘danio’) trawsyryddion niwro sy’n clymu am safle derbynnydd ar niwron cyfagos i wneud y cysylltiad (neu ‘dderbyn’). Gall cyfradd rhyddhau a derbyn trawsyryddion niwro effeithio ar bersonoliaeth tymor hir neu dymer tymor byr unigolyn, ond hyd yma, nid ydym yn gwybod llawer am y manylion ynglyn â sut mae’r mecanweithiau yma’n gweithio.

Bydd ymwybyddiaeth feddyliol yn amrywio drwy gydol y dydd gan ei fod yn cael ei reoli gan lefelau’r cemegolion naturiol yn yr ymennydd. Gall y rhain gael effaith iselydd neu adfywiol ar weithgarwch y brif system nerfol. Os bydd person yn gysglyd, gall cwpanaid o goffi ysgogi mwy o weithgarwch. Mae coffi’n cynnwys y cyffur adfywiol caffein a fyddai’n golygu fod mwy o drawsyryddion niwro cymelliadol yn cael eu rhyddhau, ac felly’n rhoi hwb i’r defnyddiwr. Gan mai dim ond dos cymharol isel o gaffein sydd mewn un gwpanaid o goffi, dim ond cymedrol a byrhoedlog fydd yr effaith.

Mae cyffuriau adfywiol eraill, fel cocên ac amffetaminau yn cael mwy o effaith ar ryddhau trawsyryddion niwro cymelliadol ac felly’n achosi effeithiau mwy effro a mwy o newid radical mewn tymer. Dyma pam fod y cyffuriau symbylu yma weithiau’n cael eu galw’n “sbîd”.

Mae cyffuriau iselydd, fel alcohol a heroin, yn gweithio mewn ffordd debyg iawn ar dymer a phersonoliaeth, ond yn rhyddhau negesyddion cemegol ataliol. Ond, gall defnyddio cyffuriau fel hyn yn barhaus am gyfnod hir beri i’r corff addasu’r nifer o gemegolion ataliol naturiol y mae’n ei gynhyrchu. Mae hyn yn arwain at y ffenomena o oddefedd. Rhaid cymryd mwy a mwy o’r cyffur er mwyn cael yr effaith y mae arnoch eisiau ei gael. Wrth adeiladu goddefedd at effaith cyffur, mae’n bosibl fod y defnyddiwr yn cymryd y camau cyntaf tuag at ddibyniaeth gorfforol i gyffur.

Mae cyffuriau sy’n gwneud i chi weld rhithiau, fel LSD a rhai mathau o fadarch ‘hud’, yn effeithio ar rannau’r ymennydd sy’n rheoli canfyddiad synhwyrol a phatrymau meddwl. Maen nhw’n gwneud hyn drwy newid y ffordd mae negeseuon yn cael eu derbyn a’u dehongli. Mae’r newid mewn tymer a phersonoliaeth sy’n digwydd drwy gymryd cyffuriau rhithbeiriol yn fwy tebygol o gael ei ddylanwadu gan feddylfryd a’r sefyllfa y mae’n cael ei ddefnyddio ynddi yn hytrach na gweithred ffarmacolegol y cyffuriau eu hunain ar y brif system nerfol.

Mae dyfodiad amrywiaeth newydd o gyffuriau sydd ag effaith ddeuol wedi cymhlethu pethau eto. Dyma’r cyffuriau seicedelig adfywiol, a’r un mwyaf adnabyddus ydy ecstasi.

Mae ecstasi, neu methylenedioxymethylamphetamine (MDMA) i roi iddo ei enw gwyddonol, yn perthyn i deulu o gyfansoddion synthetig sy’n perthyn i’r amffetaminau. Oherwydd y cyswllt teuluol yma, mae gan ecstasi nodweddion adfywiol fel amffetaminau, ond mae ganddo hefyd rai effeithiau tebyg i LSD. Mae’n gweithio ar yr ymennydd yn debyg iawn i LSD, drwy ryddhau’r trawsyrrydd niwro serotonin. Dywed defnyddwyr ei fod yn gwneud iddynt deimlo’n hapusach ac yn fwy tosturiol at eraill.

Cyn gorffen yr adran fer yma ar effeithiau cyffuriau ar yr ymennydd, mae’n bwysig pwysleisio rhan profiad cyffuriau a disgwyliadau’r defnyddiwr yn ogystal â’r ffarmacoleg. Mae’r effeithiau mae defnyddwyr yn ei gael gan bob cyffur mewn gwirionedd yn cael ei ddylanwadu llawer iawn gan eu disgwyliadau nhw o effaith tebygol y cyffur, ac mae hyn yn cael ei ddylanwadu gan eu profiad blaenorol ohono yn ogystal â’r lle maen nhw wrth gymryd y cyffur. Mae effeithiau cyffuriau yn cael eu dysgu gymaint â’u profi o’r newydd bob tro maen nhw’n cael eu cymryd. Mae hyn yn cael ei ymchwilio yn fwy manwl yn yr adran Sut mae cyffuriau’n gweithio?

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: