Lleihau Niwed
Mae lleihau niwed yn cyfeirio at athroniaeth a set o strategaethau sy’n gweithio i leihau niwed iechyd, cymdeithasol ac economaidd i unigolion, cymunedau a chymdeithasau sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, alcohol a thybaco.
Mae gwerthoedd ‘Lleihau Niwed’ wedi’u seilio ar barch at bob unigolyn, gan ganolbwyntio ar newid cadarnhaol, a chydnabod bod gan bob unigolyn ei anghenion a’i gryfderau ei hun. Cydnabyddir nad yw cyflawni ymddygiadau iechyd ‘perffaith’ yn bosibl, nac yn ddymunol, i lawer o bobl, os o gwbl, ac felly yn hytrach nag anwybyddu neu gondemnio’r defnydd o sylweddau, y nod yw lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau.
Mae dulliau Lleihau Niwed yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau ac arferion sy’n berthnasol i sylweddau anghyfreithlon a chyfreithlon. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; darparu gwybodaeth am ddefnyddio cyffuriau yn fwy diogel, gwasanaethau gwirio cyffuriau fel WEDINOS, darparu nodwyddau a chwistrell, addysg ymwybyddiaeth gorddos a chyflenwi naloxone, cefnogaeth seicogymdeithasol, mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau a thriniaethau meddygol.
Isod, ceir fideo gwybodaeth iechyd i hysbysu’r cyhoedd am fathau o niwed sy’n gysylltiedig â chymryd cyffuriau stryd neu gyffuriau/meddyginiaethau a brynir ar-lein. Efallai bydd pethau annisgwyl ynddynt.
Isod, ceir fideo gwybodaeth iechyd i hysbysu’r cyhoedd am arwyddion gorddos o Opioidau, yn enwedig chwyrnu. Peidiwch ag anwybyddu rhywun sy’n chwyrnu.
I gael mwy o wybodaeth am Cynllun Llywodraeth Cymru cliciwch yma
• Yn 2021, cofrestrwyd 322 o farwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru, cynnydd o 44 y cant ers y flwyddyn galendr flaenorol.
• O’r rhain, dosbarthwyd 210 fel marwolaethau camddefnyddio cyffuriau, cynnydd o 41 y cant o farwolaethau cyffuriau a gofrestrwyd yn 2020.
• Yng Nghymru mae 45% o ddynion a 34% o fenywod yn dweud eu bod yn yfed mwy na’r canllawiau a argymhellir.
• Mae alcohol yn achosi tua 1,500 o farwolaethau bob blwyddyn, ar ben cost o fwy na £1 biliwn o niwed i gymdeithas.
• Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
• Gall tyfu i fyny mewn teuluoedd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau yn broblem gael effeithiau negyddol sy’n parhau ymhell i fyd oedolion.
• Mae 14% o oedolion wedi bod yn agored i gamddefnyddio alcohol yn ystod plentyndod. Gall lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod leihau lefelau yfed niweidiol 35%.
• Amcangyfrifir bod costau economaidd a chymdeithasol camddefnyddio alcohol a chyffuriau Dosbarth A yng Nghymru gymaint â £2 biliwn y flwyddyn.
Bwriad yr wybodaeth ganlynol ydy rhoi cyngor cyffredinol ar leihau niwed. Er bod amrywiaeth o gyffuriau wedi’u rhestru, nid yw’n bosibl cynnwys pob sylwedd oherwydd y byddai llawer gormod i’w cynnwys ar y wefan.
- 2C-x (2C-B, 2C-E ayyb)
- 5-MeO-DMT
- Alcohol
- Amffetaminau
- Steroidau Anabolig-Androgenaidd
- Benzodiazepines
- Buprenorffin
- Canabis gwair
- Resin canabis
- Dwysfwydydd canabis
- Canabis bwytadwy
- CBD (cannabidiol)
- Cocên
- Cathinones
- Crisialau Methamffetamin
- Ecstasi (MDMA)
- Ffentanyl
- GHB a Sylweddau Cysylltiedig
- Heroin
- Cetamin
- Lean
- LSD
- Meffedrôn (M-Cat)
- Methadôn
- Ocsid nitrus
- Nitazenes (2-benzyl benzimidazole opioids)
- Poppers (Alkyl nitrites)
- Pregabalin a Gabapentin
- Madarch ‘Hud’ Psilocybin
- Cannabinoids synthetig (spice)
Gweler yr A-Z Cyffuriau am effeithiau a risgiau sylweddau penodol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr uchod. Ceisiwch gyngor bob amser gan wasanaethau cymorth sydd â’r nod o helpu defnyddwyr cyffuriau/alcohol os ydych chi’n teimlo bod angen i chi siarad â rhywun am eich defnydd o sylweddau; mae’r asiantaethau hyn yn hanfodol i gynorthwyo a chynnal adferiad.
Dylech bob amser gael help / cymorth meddygol pan fydd angen. Os oes rhywun yn dioddef effeithiau difrifol fel chwydu, confylsiynau, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adfer (Recovery Position) a galw am gymorth meddygol ar unwaith.
- Er bod alcohol yn gyfreithlon, y mae’n gyffur sy’n iselydd.
- Gall yfed ar stumog wag beri i chi feddwi’n gynt am y bydd yr alcohol yn cyrraedd eich ffrwd waed a’ch ymennydd yn gynt; felly gofalwch bob amser gymryd pryd o fwyd cyn dechrau yfed.
- Ceisiwch arafu eich yfed trwy gymryd dŵr neu ddiod feddal rhwng diodydd alcoholaidd. Bydd hyn yn rhoi mymryn mwy o amser i’ch iau brosesu’r alcohol ac ni fyddwch yn teimlo wedi dadhydradu gymaint
- Os byddwch allan efo ffrindiau, ceisiwch osgoi yfed rownds am ei bod yn hawdd iawn colli golwg ar beth yr ydych yn yfed.
- Peidiwch â gadael i eraill ddwyn pwysau arnoch i yfed gormod.
- Peidiwch â chael eich gorfodi i yfed yn rhy gyflym neu fod yn rhan o gemau yfed games.
- Peidiwch â chymysgu eich diodydd. Gall cymysgu eich diodydd eich gwneud yn fwy meddw a sâl na phetaech yn cadw at un math o ddiod.
- Peidiwch â gadael eich diod heb neb yn agos iddo a gofalwch eich bod o hyd yn gweld eich diod yn cael ei agor/dywallt – bydd hyn yn atal neb rhag rhoi rhywbeth ynddo.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut y byddwch yn mynd adre cyn gadael y dafarn / clwb.
- Wedi cyrraedd adre, yfwch dipyn o ddŵr i helpu’ch corff i ail-hydradu a gwanhau’r alcohol yn eich ffrwd waed; pan ewch i gysgu cysgwch ar eich ochr yn yr Ystum Adferol i osgoi tagu os byddwch yn taflu i fyny.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am Alcohol
- Symbylyddion yw amffetaminau.
- Byddant yn eich cadw’n effro am gyfnodau maith o amser cyn dod i lawr.
- Gall defnyddio mwy nag un cyffur symbylu ar yr un pryd roi cryn straen ar eich calon.
- Peidiwch â chwistrellu – gallwch fynd yn gaeth i chwistrellu amffetamin, ac y mae’n beryglus iawn.
- Os byddwch yn chwistrellu, cofiwch ddefnyddio nodwyddau glân bob amser a pheidiwch byth â rhannu unrhyw gyfarpar.
- Ffyrdd mwy diogel o ddefnyddio yw smygu, ffroeni neu lyncu, oherwydd bod llai o berygl o gymryd gorddos, dal haint a dal firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed.
- Llyncu yw’r ffordd orau o bell ffordd i’w ddefnyddio. Mae ffroeni yn fwy peryglus, a chwistrellu yw’r dull mwyaf peryglus o’i ddefnyddio.
- Mae cyffuriau symbylu yn gostig, felly os ydynt yn cael eu llyncu, gallant wneud drwg i leinin y gwddf, yr oesoffagws a’r stumog; os ydych am eu cymryd fel hyn, yna defnyddiwch gapsiwl neu bapur sigarét.
- Gall amffetaminau achosi i’r corff ddadhydreiddio a gorboethi; os oes rhaid i chi ddefnyddio, gofalwch eich bod yn yfed dŵr neu ddiodydd meddal yn rheolaidd.
- Peidiwch ag anghofio bwyta – mae amffetaminau yn atal yr archwaeth, felly cofiwch fwyta cyn ac ar ôl defnyddio.
- Mae amffetaminau yn tarfu ar batrymau cwsg, felly mae cwsg yn hanfodol i helpu i’ch corff ddod ato’i hun.
- Trïwch beidio â defnyddio cyffuriau eraill, fel benzos, i ddod i lawr; bwyd a chwsg yw’r ffordd orau.
- Gwnewch yn sicr eich bod yn cael mwy o ddyddiau pan nad ydych yn eu defnyddio, na dyddiau pan fyddwch yn gwneud hynny.
- Defnyddiwch hwy mewn amgylchedd diogel gyda chwmni yr ydych yn ymddiried ynddynt, a dywedwch wrth rywun sydd efo chi beth yr ydych yn gymryd.
- Gall amffetaminau adweithio’n ddrwg gyda rhai meddyginiaethau gwrth-iselder fel atalyddion monoamin ocsidas inhibitors (MAOIs).
Tudalen wybodaeth am Amffetaminau
- Trïwch osgoi defnyddio cocên ac alcohol gyda’i gilydd mewn sesiwn; mae effeithiau cymryd cocên ac alcohol gyda’i gilydd yn fwy peryglus o lawer na chymryd y naill gyffur neu’r llall ar ei ben ei hun. Mae cocaethylen yn cael ei ffurfio pan fydd cocên ac alcohol yn dod at ei gilydd yn yr iau. Bydd y ‘metabolyn’ hwn yn aros yn y corff yn hwy o lawer, gan achosi straen am gyfnod maith i’r galon a’r iau. Mae’r perygl o farw’n sydyn 18 gwaith yn uwch pan fydd alcohol a chocên yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd.
- Ceisiwch osgoi defnyddio unrhyw gyffuriau eraill ar y cyd â chocên.
- Ceisiwch osgoi defnyddio cyffuriau eraill i’ch helpu i ymdopi efo dod i lawr. Fydd hyn ddim yn para, a’r ffordd orau i fynd drwy’r peth yw trwy fwyta, cysgu ac ymlacio.
- Ffroenwch o yn hytrach na’i chwistrellu. Gall chwistrellu achosi niwed difrifol i’ch corff, ac y mae’n cynyddu’r risg o gymryd gorddos.
- Gofalwch am eich trwyn; gall ffroeni cocên yn gyson achosi difrod i feinwe bregus y trwyn. Cymerwch seibiant o ddefnyddio cocên os cewch lid neu waedu yn eich trwyn, a rhowch gyfle i’ch corff ddod ato’i hun. Gall golchi eich trwyn â dŵr llugoer a halen leihau’r risg o heintiad yn y trwyn a helpu hefyd i leihau’r difrod mae ffroeni yn ei wneud.
- Peidiwch â rhannu unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio i gymryd cocên. Mae tystiolaeth fod Hepatitis C yn cael ei drosglwyddo trwy rannu cyfarpar ffroeni fel arian banc a gwellt. Peidiwch byth â rhannu unrhyw gyfarpar chwistrellu gan gynnwys llwyau, dŵr a hidlyddion.
- Peidiwch â defnyddio arian banc i ffroeni gan y gall fod cynhyrchion gwaed ar ddarnau o hen arian banc. Defnyddiwch fathau eraill o bapur heb ei ddefnyddio i wneud eich gwelltyn.
- Gofalwch amdanoch eich hun yn feddyliol a chorfforol; gwnewch yn siwr eich bod yn cael digon o gwsg, a’ch bod yn bwyta’n iawn bob dydd. Gall effeithiau symbylus cocên ymyrryd â’ch patrymau cwsg, a gall ladd eich archwaeth. Mae bwyta prydau iach yn rheolaidd, cael digon o gwsg a hylendid da oll yn agweddau pwysig o gadw’n iach.
- Gall eich iechyd corfforol ddirywio’n hawdd iawn os byddwch yn defnyddio cocên yn aml, yn enwedig os ydych yn ei ddefnyddio bob dydd. Os bydd eich iechyd corfforol yn dirywio gall arwain at broblemau mwy difrifol, gan effeithio ar eich gwaith a’ch perthynas.
- Gofalwch ddal ati i wneud y pethau’r ydych yn eu mwynhau heb ddefnyddio cocên.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am Cocên
- Wyddoch chi byth beth sydd yn y dabled neu’r powdr a gewch, felly byddwch yn ofalus – defnyddiwch dipyn bach i ddechrau i weld beth yw’r effeithiau, ac aros am sbel cyn cymryd mwy.
- Os ydych yn defnyddio ecstasy ac yn dawnsio, cymerwch seibiant i oeri; gall ecstasy achosi gorboethi a dadhydradu.
- Gwnewch yn siwr fod eich cydbwysedd dŵr yn iawn – os ydych yn dawnsio ac yn chwysu, dylech yfed hyd at beint o ddiod heb fod yn alcoholaidd bob awr i’ch helpu i roi’n ôl yr hylif a gollwyd trwy chwysu. Os nad ydych yn dawnsio ac yn chwysu, yna yfwch ychydig llai o ddŵr – rhaid i chi gofio y gall yfed gormod o ddŵr ar y tro fod yn beryglus.
- Bydd cymysgu ecstasy gydag alcohol yn creu mwy o risg o ddadhydradu, a gall olygu eich bod yn mynd yn or-fentrus; mae cymysgu ecstasy gyda chyffuriau eraill yn cynyddu’r risg fwy fyth a gall fod yn hynod beryglus.
- Os ydych yn dioddef o unrhyw fath o gyflwr ar eich calon, dylech osgoi cyffuriau symbylu fel ecstasy.
- Os ydych yn dewis defnyddio ecstasy mae’n saffach defnyddio meintiau bychain ambell i waith, gan roi amser i’ch corff ddod ato’i hun.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am Ecstasy
- Mae gorddos, coma a marwolaeth yn risgiau gwirioneddol gyda GHB a GBL.
- Mae GHB, pan fydd yn cael ei werthu fel toddiant, yn amrywio o ran pa mor gryno y mae, felly mae’n anodd iawn barnu pa mor gryf ydyw, a fedrwch chi ddim dibynnu ar yr hyn ddywed pobl wrthych. Felly ni fedrwch fod yn sicr faint fydd yn rhoi’r effaith a ddymunir a faint sy’n arwain at orddos a choma.
- Cychwynnwch o hyd gyda swm bychan iawn; mae pobl wedi landio yn yr ysbyty ar ôl llyncu yn syth o’r botel.
- Defnyddiwch symiau bach a pheidiwch â chymysgu gyda chyffuriau eraill, yn enwedig alcohol; mae GHB a GBL ill dau yn iselyddion, felly gall ychydig iawn o alcohol ar y cyd â hwy gael effeithiau negyddol pwerus iawn.
- Gall GHB a GBL gael effaith sylweddol ar ein synhwyrau, cydgordio a meddwl, sy’n golygu y gallwch hefyd fod yn agored i ddamweiniau neu ymosodiadau.
- Arhoswch gyda ffrindiau i osgoi bod mewn sefyllfa fregus ar eich pen eich hun.
- Peidiwch â chymryd diodydd gan ddieithriaid, na gadael gwydrau heb neb yn agos oherwydd fe all rhywun roi rhywbeth yn eich diod; mae GHB a GBL wedi eu cysylltu ag ymosodiadau rhywiol gyda chymorth cyffuriau.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am GHB
- Fedrwch chi byth fod yn siwr pa mor bur yw heroin nac a beth mae wedi ei gymysgu.
- Mae smygu heroin yn saffach na’i chwistrellu i wythïen; mae smygu heroin yn rhoi hit i’r defnyddiwr sy’n debyg i’r hyn a geir o chwistrellu am ei fod yn mynd i’r ffrwd waed yn gynt, ac y mae’n saffach o lawer.
- Os byddwch yn chwistrellu, cofiwch yn wastad ddefnyddio nodwyddau a chyfarpar chwistrellu glân (llwyau, swabiau, dŵr etc). Medrwch gael y rhain o gyfnewidfeydd nodwyddau, asiantaethau cyffuriau a fferyllfeydd; gall hyn eich gwarchod rhag firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed fel Hepatitis B ac C ac HIV.
- Peidiwch byth a rhannu eich nodwyddau na’ch offer gydag unrhyw un arall, waeth pa mor dda yr ydych yn eu hadnabod.
- Os byddwch yn chwistrellu, dysgwch sut i chwistrellu eich hun gan ddefnyddio’r dechneg fwyaf diogel. Chwistrellu gyda thechneg wael yw un o’r pethau peryclaf y medrwch wneud, a gall wneud difrod ofnadwy i’ch corff gan achosi problemau fel crawniad, heintiadau, tolchau gwaed a thrombosis gwythïen ddofn (DVT), neu daro prif wythïen. Medrwch gysylltu â gwasanaethau cyffuriau a chyfnewidfeydd nodwyddau am gyngor ar sut i chwistrellu’n fwy diogel.
- Os ydych am chwistrellu, defnyddiwch asid sitrig neu asid asgorbig di-haint yn hytrach na sudd lemwn neu finegr gan fod y rhain yn asidau arbennig o beryglus a medrant achosi hyd yn oed mwy o ddifrod i wythiennau a phroblemau iechyd eraill.
- Gall cymysgu heroin gyda chyffuriau eraill gynyddu’r risg o orddos, yn enwedig gyda chyffuriau fel alcohol, benzos a methadon.
- Gall ‘speedballio’ (defnyddio heroin a chrac gyda’i gilydd) arwain at ddirywiad eithafol yn eich iechyd a’ch dull o fyw.
- Ceisiwch osgoi defnyddio ar eich pen eich hun neu mewn llefydd anghyfarwydd neu dan glo. Mae gorddos yn digwydd yn amlach mewn llefydd fel hyn nac yn unman arall.
- Os na wnaethoch ddefnyddio ers peth amser, ni fyddwch yn medru ei oddef cystal ag yr ydych mewn mwy o berygl o gael gorddos.
- Os ydych yn amau bod rhywun wedi cael gorddos, rhowch hwy yn yr Ystum Adferol a galw am help ar frys.
- Dewch i wybod am Naloxone. Gwrthweithydd cysglyn yw Naloxone sy’n gweithio’n sydyn ac yn gwrthdroi effeithiau heroin a chysglynnau eraill fel morffin – gall achub bywydau.
Tudalen wybodaeth am Heroin
- Cyffur seicedelig datgysylltiol yw ketamine sy’n cael ei ddefnyddio’n feddygol fel anesthetig i anifeiliaid a phobl.
- Mae ketamine yn effeithio ar gydsymud, felly mae mân ddamweiniau fel taro i mewn i bethau yn gyffredin; gall eich gwneud yn anghofus hefyd.
- Os byddwch yn cymryd ketamine pan fyddwch allan, rydych mewn perygl o fethu a chydsymud yn sydyn iawn; gall hyn fod yn beryglus, a gall eich gwneud yn agored i beryglon eraill. Ac fel anesthetig, mae ketamine yn golygu na fyddwch yn teimlo poen felly rydych mewn mwy o berygl o anafu eich hun.
- Er nad yw ei effaith yn para’n hir, cadwch at ddosau bychain. Rydych yn fwy diogel ar ddos fechan na phetaech yn cymryd dos fawr ar yr un pryd.
- Peidiwch â llyncu ketamine – gall ketamine yn y stumog wneud cramp yn waeth. Peidiwch ag eistedd yn y bath i leddfu’r boen oherwydd bod perygl y gallwch fynd yn anymwybodol a boddi. Ceisiwch gyngor meddygol a soniwch wrth y meddyg eich bod yn defnyddio ketamine.
- Os byddwch yn ei ffroeni, defnyddiwch ef bob yn ail ffroen, a glanhewch eich ffroenau ar ôl pob sesiwn i leihau niwed.
- Mae chwistrellu ketamine yn dwyn risg ychwanegol o ddifrod i’ch gwythiennau, heintiadau ar eich croen a dal feirysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed fel Hepatitis neu HIV. Os dewiswch ddefnyddio fel hyn, mynnwch gyngor ar chwistrellu yn fwy diogel gan eich cyfnewidfa nodwyddau agosaf.
- Mae risg o broblemau i’r bledren a difrod i’r arennau os byddwch yn defnyddio yn rheolaidd. Dangoswyd bod defnyddio ketamine dros gyfnod maith yn achosi difrod i’r bledren a’r llwybr wrinol, gan achosi ‘pledren ketamine’.
- Os cewch boen yn eich pledren, mynnwch help meddygol, a dweud wrth eich meddyg teulu eich bod yn defnyddio ketamine. Ceisiwch roi’r gorau iddi neu leihau eich defnydd os sylwch ar unrhyw symptomau.
- Ceisiwch ddefnyddio cyn lleied ag sydd modd. Cymerwch seibiant o’i ddefnyddio os medrwch, rhag i chi fynd yn ddibynnol.
- Os byddwch yn teimlo’n isel ac yn bryderus wrth roi’r gorau i ddefnyddio ketamine neu leihau faint yr ydych yn ddefnyddio, ceisiwch help proffesiynol i wneud hyn. Gall rhoi’r gorau iddi yn raddol help. Ceisiwch droi ei sylw i ffwrdd trwy ddilyn gweithgareddau yr ydych yn eu mwynhau.
- Os cewch byliau o banig ac o bryder, mynnwch gefnogaeth gan eich asiantaeth gyffuriau agosaf.
- Peidiwch â defnyddio ketamine gydag alcohol neu gyffuriau eraill sy’n iselyddion, gan nad oes modd rhagweld beth fydd yr effeithiau ac y gallwch gymryd gorddos.
- Gwnewch yn sicr eich bod yn cael mwy o ddyddiau pan nad ydych yn defnyddio, na dyddiau pan fyddwch yn gwneud hynny.
- Os ydych yn dewis defnyddio ketamine, gwnewch hynny mewn amgylchedd diogel, yn enwedig os nad ydych wedi arfer ei ddefnyddio.
- Dywedwch wrth rywun sydd gyda chi beth yr ydych yn ei gymryd a mynnwch fod rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo/i gyda chi rhag ofn i bethau fynd o’i le.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am Ketamine
- Mae methadon yn cael ei ragnodi yn lle heroin stryd pan fydd defnyddwyr wedi mynd yn ddibynol. Mae’n cael ei ddefnyddio i leihau’r defnydd o gysglynnau ac yn helpu i sefydlogi dull defnyddwyr o fyw.
- Dylech gymryd methadon drwy’r geg ar y ddos a ragnodwyd – dyma’r ffordd fwyaf diogel o’i gymryd.
- Argymhellir cymryd methadon unwaith y dydd, ar yr un amser bob dydd.
- Os byddwch yn cymryd methadon gyda sylweddau eraill, yn enwedig alcohol, heroin a benzos, mae’n cynyddu’r risg o orddos.
- Bydd cael cefnogaeth ychwanegol fel cwnsela neu CBT i fynd i’r afael ag agweddau eraill bod yn gaeth i gyffuriau yn rhoi mwy o gyfle i chi newid eich bywyd a gwella eich siawns o adfer.
- Byddwch yn rhan o weithgareddau eraill sy’n ystyrlon i chi; dewch o hyd i bethau iachach i fynd â’ch amser – bydd teimlo’n ddiflas yn rhoi amser i chi feddwl am ddefnyddio cyffuriau; treuliwch amser gyda chyfeillion nad ydynt yn eu defnyddio.
- Os ydych yn amau bod rhywun wedi cymryd gorddos, rhowch hwy yn yr Ystum Adferol a galwch am help ar frys.
- Dewch i wybod am Naloxone. Gwrthweithydd cysglyn yw Naloxone sy’n gweithio’n sydyn ac yn gwrthdroi effeithiau heroin a chysglynnau erial fel morffin – gall achub bywydau.
Tudalen wybodaeth am Methadon
- Peidiwch â chwistrellu aerosols yn syth i’ch ceg; mae hyn yn beryglus dros ben a gall rewi eich gwddf neu beri iddo chwyddo; mae hyn yn gwneud i chi anadlu’n afreolaidd neu atal yn gyfan gwbl, a gall roi straen ar eich calon.
- Peidiwch â’u hanadlu i mewn trwy roi bagiau plastig dros eich pen, am y gall hyn eich mygu. Mae anadlu trwy gadach neu liain yn llai peryglus.
- Peidiwch â chymysgu gyda chyffuriau eraill – yn enwedig alcohol gan y gall hyn eich gwneud yn anymwybodol neu eich lladd.
- Denfyddiwch feintiau bychain yn unig, yn enwedig os nad ydych yn ddefnyddiwr profiadol, a cheisiwch beidio â’u defnyddio dro ar ôl tro.
- Os byddwch yn dewis defnyddio toddyddion, defnyddiwch hwy mewn amgylchedd diogel, h.y., nid gerllaw rheilffordd, traffordd neu fannau diwydiannol, etc.
- Defnyddiwch hwy yn unig pan fydd pobl eraill yn bresennol a byddwch gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo/i rhag ofn i bethau fynd o’i le.
- Mae llawer o’r cynhyrchion hyn yn fflamadwy iawn, ac os byddant yn cael eu defnyddio ar yr un pryd ag y byddwch yn smygu, neu’n defnyddio fflam agored, gall hyn eich niweidio chi neu bobl sydd o’ch cwmpas, achosi tân neu gallant hyd yn oed ffrwydro.
- Peidiwch â gyrru pan fyddwch dan ddylanwad gan y gall toddyddion effeithio ar gydsymud eich aelodau a’r gallu i farnu cyflymder a phellter.
- Peidiwch â defnyddio mewnanadlyddion pan fyddwch yn negyddol eich meddwl neu i guddio teimladau negyddol gan y gallant waethygu’r teimladau hynny. Hefyd, rydych yn fwy tebygol o fynd yn ymosodol ac ymddwyn mewn modd peryglus a allai eich niweidio chi a/neu eraill.
- Mae marwolaeth a gorddos yn risg wirioneddol gyda thoddyddion a gall ddigwydd ar unrhyw adeg, waeth pa mor brofiadol y tybiwch yr ydych.
- Os yw rhywun yn dioddef effeithiau drwg fel chwydu, confylsiwn, mynd yn anymwybodol – rhowch nhw yn yr Ystum Adferol a galw am help meddygol yn syth.
Tudalen wybodaeth am Doddyddion
- Gall steroidau wenwyno eich iau. Os sylwch fod eich llygaid yn mynd yn felyn (clefyd melyn) gall hyn fod yn arwydd o broblem ddifrifol ar yr iau. Mynnwch gyngor meddygol yn syth.
- Os byddwch yn chwistrellu steroidau, gofalwch fod y nodwyddau yn lan a heb eu denfyddio; medrwch gael nodwyddau glân a gwybodaeth am chwistrellu mwy diogel gan gyfnewidfa nodwyddau neu asiantaeth cyffuriau.
- Mae steroidau i’w chwistrellu o hyd i fod i’w chwistrellu i mewn i’r cyhyr; does yr un steroid anabolig wedi’i wneud i’w ddefnyddio yn y gwythiennau.
- Cyn defnyddio steroidau, ceisiwch gyngor gan weithiwr cyffuriau. Maent hwy yn medru rhoi cyngor i chi ar chwistrellu yn fwy diogel, a’ch cyfeirio at wybodaeth am steroidau.
- Bydd cymryd steroidau trwy’r geg yn lleihau’r risgiau a’r problemau gyda chwistrellu. Fodd bynnag, gall cymryd steroidau trwy’r geg wneud mwy o ddifrod i’ch iau ac fe all fod yn fwy gwenwynig i’ch arennau.
- Y cyngor gorau yw rhoi’r gorau i ddefnyddio steroidau o bryd i’w gilydd. Cofiwch leihau’r ddos yn raddol bach, a pheidio â stopio’n sydyn.
O ystyried peth o’r gwaith allweddol a wnaed yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu eu Cynllun i ystyried lle mae angen ei ddiweddaru yng ngoleuni COVID-19 – yn enwedig i gwrdd â’r heriau newydd. Ar ôl cynnal yr adolygiad hwn ac ystyried y dystiolaeth a amlygwyd gan APBs a phartneriaid ehangach, awgrymir bod y meysydd blaenoriaeth gwreiddiol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn parhau i fod yn berthnasol, ac wedi’u hatgyfnerthu yn ystod y pandemig. Y meysydd blaenoriaeth hyn yw:
- Ymateb i broblemau iechyd meddwl sy’n cyd-ddigwydd sy’n gyffredin wrth gamddefnyddio sylweddau.
- Sicrhau bod partneriaeth gref yn gweithio gyda gwasanaethau tai a digartrefedd i ddatblygu ymhellach y dull amlddisgyblaethol sydd ei angen i gefnogi’r rheini â materion camddefnyddio sylweddau sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
- Sicrhau bod gan bob carchar yng Nghymru (a HMP Eastwood Park, carchar menywod) wasanaeth cydgysylltiedig, tryloyw a chyson i’r rheini â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn y carchar.
- Darparu cefnogaeth bellach i deuluoedd a gofalwyr pobl sy’n camddefnyddio sylweddau.
- Gwella mynediad at wasanaethau a sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth a’r driniaeth pan fydd ei angen arnynt.
- Cryfhau ein gwaith amlasiantaethol a chynllunio gofal i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu. Cynllun Cyflenwi Camddefnyddio Sylweddau 2019-22 a COVID-19 3
- Mynd i’r afael â dibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn yn unig (POM) a meddyginiaethau dros y cownter (OTC).
- Sicrhau bod gwasanaethau camddefnyddio alcohol priodol ac ymatebol ar waith yn dilyn gweithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafswm Pris Alcohol) (Cymru) 2018 ar 2 Mawrth 2020.
Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022