
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Llinell Gymorth Dwyieithog Am Ddim
Mae galwadau a wneir i rifau ffôn 0800 neu 0808 am ddim ar gyfer yr holl linellau tir a ffonau symudol yn y DU.
NI FYDD rhif ffôn DAN24/7 yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.
Cael Help Ydi’r Cam Cyntaf
Siarad â rhywun am eich problem ydi’r cam cyntaf i ddatrys eich problemau. Gallwch ffonio DAN 24/7 ar 0808 808 2234 ar unrhyw adeg yn ystod y dydd neu’r nos a rhoddwn help a chyngor i chi.
Os oes yn well gennych chwilio am asiantaeth ar-lein gallwch chwilio trwy ein cronfa ddata ar-lein o asiantaethau sy’n helpu lle gallwch ddod o hyd i asiantaethau Cenedlaethol a Lleol a fydd yn gallu eich helpu.
Cofiwch, bydd unrhyw beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth DAN 24/7, neu unrhyw asiantaeth byddwch chi’n cysylltu â hi, yn gyfrinachol ac ni fydd yn rhaid i chi roi eich enw go iawn hyd yn oed.
Am gymorth gyda dibyniaeth ar gamblo, ewch i’r wefan Gamcare

Ffurflen Archebu Naloxone
Mae Naloxone yn feddyginiaeth sy’n gallu achub bywyd a gall wrthdroi effeithiau gorddos opioidau dros dro. Rydym ni nawr yn gallu danfon at unrhyw gyfeiriad yng Nghymru.

Mesurydd Cyffuriau
Cymerwch y mesurydd cyffuriau er mwyn derbyn adborth ar eich defnydd o gyffuriau sy'n eich galluogi i gymharu'ch defnydd â miloedd o bobl ledled y byd.