Sut Mae Cyffuriau’n Gweithio?

Rydym yn gweld effaith cyffuriau wrth iddyn nhw newid y ffordd y mae’r brif system nerfol yn gweithio. Y brif system nerfol yw’r ymennydd a madruddyn y cefn. Mae’r effeithiau yn disgyn i un o dri chategori eang; gall un ai eich gwneud yn isel, yn fywiog neu i weld rhithiau.

Am fwy o wybodaeth am y ffordd y mae cyffuriau’n gweithio o fewn y brif system nerfol, gwelwch yr adran ‘Cyffuriau a’r Ymennydd’ yn y rhaglen hon.

Mae’r rhain yn arafu’r ffordd y mae’r meddwl a’r corff yn gweithio, fel curiad y galon neu’r ffordd rydych chi’n anadlu. Maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n gynnes ac yn eich ymlacio. Enghreifftiau o gyffuriau Iselydd yw Alcohol, tawelyddion, Heroin a Chysglynnau.

Mae’r cyffuriau hyn yn cael effaith groes i’r uchod, sef cyflymu’r ffordd y mae’r meddwl a’r corff yn gweithio, gan wneud i chi deimlo’n gyffrous ac yn hyderus. Enghreifftiau o gyffuriau Adfywiol yw Nicotin, Caffein, Cocên ac Amffetaminau.

Mae’r ddau fath o gyffur yn gallu rhoi teimlad o ewfforia i chi, sef gwneud i chi deimlo’n dda ac yn fodlon.

Ar y llaw arall, ychy Dig o effaith corfforol y caiff y rhain gan eu bod nhw’n effeithio’n uniongyrchol ar y rhannau hynny o’r ymennydd sy’n rheoli’r ffordd y mae’r synhwyrau’n gweithio. Fe allan nhw newid y ffordd y mae’r unigolyn sy’n cymryd y cyffuriau yn deall y byd mewnol a’r byd allanol. Mae LSD yn enghraifft o gyffur Seicedelig.

Mae’r ffordd y gwelwn yr effeithiau a’r ffordd y mae’r cyffur yn teimlo i’r unigolyn yn dibynnu ar sut mae’r canlynol yn rhyngweithio: nodweddion y sylwedd dan sylw (cyffur), hwyliau’r unigolyn sy’n cymryd y cyffur, profiad a disgwyliadau (meddylfryd), a’r lle y mae’r unigolyn ynddo wrth gymryd y cyffuriau (sefyllfa).

Disgrifiwyd y drindod yma i gychwyn gan y seicolegydd o America, Norman Zinberg, yn ei lyfr ‘Drug, Set and Setting’. Mae hwn yn fodel defnyddiol i’n helpu i ddeall y weithred o gymryd cyffuriau a phrofiad y rhai sy’n cymryd y cyffuriau. Mae nodweddion y cyffuriau i’w gweld uchod ac ar y dudalen: Pa effaith mae cyffuriau’n eu cael ar yr ymennydd? Mae effaith, meddylfryd a sefyllfa yn cael ei drafod isod.

I gychwyn mae’n anodd deall sut y gall lleoliad neu hwyliau rhywun ddylanwadau ar yr effaith y mae cyffur yn ei gael ar y defnyddiwr. I ddeall hyn yn well, meddyliwch am yfed alcohol (cyffur iselydd) mewn tri gwahanol sefyllfa.

Y sefyllfa gyntaf: Pryd o fwyd golau cannwyll rhamantus i ddau yn y ty – efallai pen-blwydd priodas. Efo pryd neis, rydych yn yfed potel o win coch hyfryd ac felly’n cael profiad dymunol a hamddenol mewn rhywle cyfarwydd. Mae’n cyd-fynd â’r serch a thawelwch braf. Mae’r ddau ddefnyddiwr yn disgwyl y byddan nhw’n cael amser braf yn ymlacio, ac yn mwynhau’r profiad o gymryd y cyffur – a mwy na thebyg dyma fydd y sefyllfa go iawn.

Yr ail sefyllfa: Caiff yr un botel o win coch ei hyfed, ond y tro hwn gan unigolyn yn eistedd ar ei ben ei hun mewn congl ty tafarn ddieithr a swnllyd ar ôl i’w berthynas chwalu. Yn yr achos yma, boddi gofidiau yw bwriad yr alcohol. Po fwyaf y mae’r defnyddiwr yn ei yfed, mae’n llawer mwy tebygol y bydd yn teimlo’n fwy isel, ac efallai’n mynd yn swrth ac yn flin. Byddai’r profiad yn wahanol iawn i’r sefyllfa gyntaf.

Y drydedd sefyllfa: Caiff yr un botel o win coch ei hyfed, y tro hwn mewn parti Nos Galan lle mae bron bawb ar eu traed yn dawnsio i gerddoriaeth roc. Bydd yr alcohol yn eich gwneud yn llai swil ac yn fwy parod i ddod yn rhan o atmosffer a bwrlwm y parti. Mae’n Nos Galan ac yn amser i gael PARTI!!

Yn y sefyllfaoedd hyn, gall alcohol eich gwneud yn fwy bywiog na thawel, a gall roi egni i chi allu dawnsio drwy’r nos.

Yn yr holl enghreifftiau hyn mae yna bosibilrwydd o weld effeithiau i’r gwrthwyneb mewn amgylchiadau eithriadol. Os yfir llawer gormod o’r cyffur alcohol, daw nodweddion sylfaenol i’r amlwg. Os yw rhywun yn yfed gormod, yn y diwedd fe fyddan nhw’n disgyn ac efallai’n llewygu. Mewn achosion eithriadol, fe allan nhw’n yfed eu hunain i farwolaeth. Mae’r un peth yn wir am gyffuriau eraill. Os cewch ddos uchel, bydd effaith cemegol y cyffur yn cymryd drosodd.

Ond gan amlaf ni fydd hyn yn digwydd gydag alcohol, na gydag unrhyw gyffur arall. Beth bynnag fo’r cyffur, gan amlaf mae’r profiad y mae’r defnyddiwr eisoes wedi’i gael efo’r cyffur hwnnw yn lliwio’r effaith. Mae hyn yn gosod sylfaen i’r effaith y maen nhw’n meddwl y byddan nhw’n ei deimlo, a chaiff ei gefnogi neu ei danseilio gan y sefyllfa neu’r lleoliad y bydd yr unigolyn yn cymryd y cyffur ynddo.

Mae bob cyffur, hyd yn oed alcohol, yn gallu cael gwahanol effaith ar bawb. Mae rhai pobl wastad yn mynd yn annifyr neu hyd yn oed yn dreisgar ar ôl yfed. Gan amlaf mae ganddyn nhw ryw deimladau sarrug neu ddig yn cronni y tu mewn iddyn nhw. Wrth i gyffuriau grafu ar wyneb hyn, mae popeth yn ffrwydro.

Yn rhyfedd iawn, mae hyn yn digwydd yn amlach gydag alcohol na chyffuriau sy’n eich gwneud yn isel, er bod rhai cyffuriau adfywiol a steroidau yn gallu gwneud rhai defnyddwyr yn dreisgar.

Os yw hyn i’w weld ychydig bach yn gymhleth – mae o! Mae’r effaith y caiff cyffuriau ar ddefnyddiwr yn dibynnu ar nifer o bethau: faint o’r cyffur sy’n cael ei gymryd, pa mor aml, y sefyllfa, profiadau, hwyliau’r defnyddiwr a pha ddisgwyliadau sydd ganddo.

Wrth i’r corff arfer â’r cyffuriau, gall goddefedd i’r effaith dyfu. Golyga hyn bod angen dosau uwch er mwyn cael y teimlad rydych chi eisiau.

Mae rhai cyffuriau, os ydych yn eu cymryd dros gyfnod hir, yn gallu gwneud unigolyn yn ddibynnol neu’n gaeth iddyn nhw, a hynny’n gorfforol a/neu’n seicolegol.

Dibyniaeth seicolegol yw awydd emosiynol am gyffur y mae’r corff wedi arfer ag o. Dibyniaeth gorfforol yw pan fydd y corff wedi addasu i’r cyffur ac mae’n debyg y bydd yr unigolyn yn cael symptomau diddyfnu pan roddir gorau i gymryd y cyffur.

Mae’r hyn a elwir yn gyffuriau Dibyniaeth yn cynnwys Cysglynnau (Heroin, Morffin, ayyb.), Opioid (cyffuriau cysgu synthetig fel Methadon a Palffiwm), Bensodiasepinau – yr hyn a elwir yn ‘dawelyddion ysgafn’ (faliwm, libriwm, ayyb.) ac Alcohol. Mae yna hefyd gyffuriau Adfywiol y mae’n bosibl mynd yn gaeth iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys Nicotin, Cocên, Amffetaminau a Caffein.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: