Cyffuriau a Beichiogrwydd
Mae defnyddio unrhyw gyffuriau yn ystod beichiogrwydd yn arwain at risgiau penodol. Y cyngor i bob menyw feichiog ydy osgoi defnyddio unrhyw gyffuriau, oni bai mai ymarferydd meddygol sydd wedi rhoi’r cyffuriau.
Y trimestr cyntaf (hyd at 12 wythnos) ydy’r cyfnod hollbwysig, ac mae hi’n hanfodol bod menywod yn mynd ati i gael gofal cyn-geni yn syth ar ôl cael gwybod eu bod nhw’n feichiog. Pwrpas hynny ydy trafod y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen o ran defnyddio cyffuriau, boed yn gyffuriau anghyfreithlon neu’n feddyginiaeth gan ymarferydd meddygol. Lles corfforol ac emosiynol y fam a’r babi ydy’r peth pwysicaf yn ystod y cyfnod yma. Mae menywod beichiog sy’n defnyddio cyffuriau angen cydymdeimlad a chefnogaeth gan bob gweithiwr proffesiynol, ac mae angen iddyn nhw fanteisio’n llawn ar y gwasanaethau sydd ar gael i wella eu hiechyd a’u lles eu hunain, ac iechyd a lles eu babi sydd heb ei eni.
Yn ystod beichiogrwydd, mae’r brych yn gweithio fel hidlydd rhwng llif gwaed y fam a llif gwaed y babi, ac yn gadael i foleciwlau bach basio o’r fam i’r babi, ond yn atal gronynnau mawr rhag croesi. Gan fod moleciwlau cyffuriau yn eithaf bach, maen nhw’n gallu pasio’n rhwydd ar draws y brych, ac felly’n gallu cael eu pasio i’r babi yn y llif gwaed. Gan ddibynnu ar y cyffuriau sy’n cael eu defnyddio, gall hyn effeithio ar ddatblygiad y ffetws o ran twf, pwysau geni isel, problemau datblygu ac o bosibl diddyfnu oddi ar y cyffuriau (withdrawal).
Mae unrhyw gyffur sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd yn gallu effeithio ar y ffetws, a dylai menywod drafod cyn gynted â phosibl â gweithwyr proffesiynol unrhyw gyffuriau neu feddyginiaeth maen nhw’n eu defnyddio, er mwyn lleihau unrhyw effaith ar y babi sydd heb ei eni. Yn ystod y trimestr cyntaf, gall rhai cyffuriau effeithio ar ddatblygiad organau’r ffetws, ac mewn achosion difrifol gallai hynny arwain at golli’r babi. Yn yr ail drimestr (13-28 wythnos) mae rhai cyffuriau’n gallu lleihau twf y babi, gan arwain at bwysau geni isel a allai effeithio ar broblemau datblygiadol, salwch plentyndod, ac ati. Yn y trydydd trimestr (y tri mis olaf) fe allai’r babi gael ei eni’n rhy gynnar os bydd cyffuriau’n dal i gael eu defnyddio yn ystod y beichiogrwydd, ac mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd y babi’n dangos symptomau o ddiddyfnu oddi ar y cyffuriau.
Efallai y bydd rhai babis yn dangos arwyddion o ddiddyfnu oddi ar gyffuriau o fewn y 72 awr gyntaf, ac mewn rhai amgylchiadau gall hynny bara am 14 diwrnod, gan ddibynnu ar y cyffuriau a oedd yn cael eu defnyddio yn ystod y beichiogrwydd. Mae’r arwyddion posibl yn cynnwys sugno’n lletchwith, chwydu a dolur rhydd, a thrafferth magu pwysau. Mewn achosion prin, gallai’r babi gael confylsiynau. Bydd babis yn cael eu monitro a’u trin yn ôl yr angen tra byddan nhw yn yr ysbyty, a bydd y mamau’n cael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol.
Dydy hi ddim yn ddiogel i chi fwydo’ch babi ar y fron os ydych chi’n defnyddio rhai cyffuriau. Siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am sut gallwch chi fwydo ar y fron yn ddiogel. Mae llawer o bethau nad ydym ni’n eu gwybod o hyd am effeithiau cyffuriau ar eich babi pan fyddwch chi’n bwydo ar y fron, ond y gred ydy bod cymryd cyffuriau – hyd yn oed ar lefelau isel – yn debygol o achosi’r canlynol: bydd eich babi’n gysglyd, yn bwydo’n wael ac yn cael trafferth magu pwysau, a bydd gan y babi batrymau cysgu anghyson a phroblemau ymddygiad.
Os ydych chi’n feichiog neu’n bwriadu beichiogi, y peth mwyaf diogel i’w wneud ydy peidio ag yfed alcohol o gwbl er mwyn lleihau’r risgiau i’ch babi cymaint â phosibl. Gall yfed yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed tymor hir i’r babi – po fwyaf rydych chi’n yfed, y mwyaf ydy’r risg. Gan ddibynnu ar faint rydych chi’n yfed, os byddwch chi’n stopio yfed yn sydyn mae perygl y gallech chi brofi symptomau diddyfnu eich hun, a gallai hyn effeithio ar y babi sydd heb ei eni. Os ydych chi’n yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd, cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu i drafod ymhellach unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi.
Os ydych chi’n feichiog neu’n meddwl y gallech chi fynd yn feichiog, rydych chi hefyd yn cael eich cynghori i beidio ag yfed alcohol. Ond cofiwch, os ydych chi’n feichiog yn barod a dim ond wedi yfed ychydig bach o alcohol yn ystod camau cynnar y beichiogrwydd, mae’r risg o niwed i’r babi yn isel. Ond os ydych chi’n poeni, dylech siarad â’ch Meddyg Teulu neu’ch Bydwraig.
Oherwydd cyngor ychwanegol ynghylch y risgiau o golli’r babi yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd, mae hi’n bwysig dros ben nad yw menywod yn yfed alcohol o gwbl yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall bod yfed alcohol yn risg drwy’r beichiogrwydd i gyd, nid dim ond yn y tri mis cyntaf.
Pan fyddwch chi’n yfed, mae alcohol yn pasio o’ch llif gwaed drwy’r brych yn syth i mewn i waed eich babi. Mae’r effaith ar y babi yn dibynnu ar faint mae’r fam yn ei yfed ac ar fetabolaeth y fam. Afu/iau babi yw un o’r organau olaf i ddatblygu, ac nid yw’n aeddfedu nes camau olaf y beichiogrwydd. Dydy’ch babi ddim yn gallu prosesu alcohol cystal â chi, a gall gormod o alcohol gael effaith ddifrifol ar ddatblygiad y babi. Mae yfed alcohol, yn enwedig yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd, yn cynyddu’r risg o golli’r babi, y bydd y babi’n cael ei eni’n rhy gynnar, a bod gan y babi bwysau geni isel. Byddai yfed alcohol ar ôl tri mis cyntaf eich beichiogrwydd yn gallu effeithio ar eich babi ar ôl iddo gael ei eni.
Po fwyaf rydych chi’n yfed, y mwyaf ydy’r risg rydych chi’n ei chymryd o ran iechyd eich babi. Mae Syndrom Alcohol y Ffetws (FAS) yn effeithio ar y ffordd mae ymennydd babi’n datblygu, ac mae pa mor ddifrifol ydy’r cyflwr yn dibynnu ar faint o alcohol y mae’r fam wedi’i yfed yn ystod y beichiogrwydd. Mae camesgor (miscarriage), marw ar enedigaeth, geni’n rhy gynnar, pwysau isel wrth eni, ac Anhwylder Sbectrwm Alcohol Ffetws (FASD) i gyd yn gysylltiedig ag arferion yfed y fam.
Mae gan blant sydd ag FAS:
- broblemau twf
- annormaleddau ar yr wyneb
- problemau dysgu ac ymddygiad
Mae’n bosibl bod yfed yn llai trwm, a hyd yn oed yfed yn drwm ar achlysuron unigol, yn gysylltiedig â mathau llai difrifol o FAS. Mae’r risg yn debygol o fod yn fwy po fwyaf rydych chi’n yfed.
Er bod defnydd y fam o alcohol cyn i’r babi gael ei geni yn gallu achosi effeithiau hirdymor difrifol i’w babi newydd-anedig, mae’n bosibl hefyd y bydd y babi’n cael ei eni’n ddibynnol ar alcohol. Mae diddyfnu babi newydd-anedig oddi ar alcohol yn arwain at ffitiau, mwy o ffyrfder yn y cyhyrau ac ymateb greddfol gormodol i fraw, a bydd y babi’n bigog ac yn ofnus.
Mae unrhyw beth rydych chi’n ei fwyta neu’n ei yfed pan rydych chi’n bwydo ar y fron yn gallu mynd i mewn i laeth eich bron, ac mae hynny’n cynnwys alcohol. Os ydych chi’n bwriadu yfed alcohol, cofiwch fod un uned yn cymryd 2 awr i adael llaeth y fron. Gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am gyngor ar gael diod alcoholig wrth fwydo ar y fron.
Cofiwch fod yfed gormod mewn pyliau, lle rydych chi’n cael mwy na phum uned o alcohol mewn un sesiwn, yn gallu’ch gwneud yn llai ymwybodol o anghenion eich babi. Peidiwch byth â rhannu gwely na soffa gyda’ch babi os ydych chi wedi yfed unrhyw alcohol. Mae cysylltiad cryf rhwng gwneud hyn a syndrom marwolaeth sydyn babanod.