Gwasanaethau

Cynnig Cymorth a Chyngor i Bobl Cymru

Mae holl wasanaethau DAN 24/7 ar gael i bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae ein llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod o’r flwyddyn. Gallwch siarad yn gyfrinachol â gweithredwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn trwy ein ffonio ar: 0808 808 2234

Os ydych chi’n byw yn Lloegr yna ewch i wefan Talk To Frank lle gallwch chi chwilio ar-lein am asiantaethau Cyffuriau ac Alcohol lleol a chenedlaethol. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Talk To Frank ar: 0300 123 6600

Os ydych chi’n byw yn yr Alban yna ewch i wefan Know the Score. Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth Know the Score ar: 0333 230 9468

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd – Gogledd Iwerddon ar 0300 555 0114 neu ar-lein ar www.publichealth.hscni.net. Mae ganddyn nhw wybodaeth am Dimau Cydlynu Cyffuriau ac Alcohol (DACTs) sydd wedi cynhyrchu cyfeirlyfr o wasanaethau sydd ar gael mewn ardaloedd lleol. Gellir dod o hyd i wybodaeth am DACT ar y wefan hon: drugsandalcoholni.info

Os ydych yn ansicr â phwy i gysylltu yna gallwch ffonio llinell gymorth DAN 24/7 i gael cyngor. Byddwn yn hapus i siarad â chi trwy’r amrywiol opsiynau sydd ar gael.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: