Deall Cyffuriau

Beth ydy cyffur?

Cyffur yw sylwedd sydd, o’i gymryd i mewn i’r corff, yn addasu cyflwr meddyliol neu gorfforol person. Mae ‘cyffuriau seicoweithredol’ yn sylweddau sy’n effeithio ar sut mae’r ymennydd yn gweithio, gan achosi newidiadau mewn hwyliau, ymwybyddiaeth, meddyliau, teimladau, neu ymddygiad. Gall cyffuriau wneud i ni deimlo llawer o bethau gwahanol:

  • Gallwn deimlo’n dda pan fydd ein bywyd yn wael neu ddim yn teimlo poen pan fyddwn yn cael ein brifo’n ddifrifol, gallant greu teimladau o egni a hyder cynyddol, neu wneud i ni deimlo’n ymlaciol ac yn gysglyd. Gall cyffuriau fynd â ni i realiti arall ac achosi i ni weld lledrithiau a drychiolaethau. Gall cyffuriau wneud i ni deimlo’n hapus, yn fwy cymdeithasol a chynyddu teimladau cariadus a chyfeillgar.
  • Gall cyffuriau hefyd wneud i ni deimlo’n gyfoglyd, yn baranoiaidd a chael effaith negyddol ddifrifol ar ein hiechyd, ein hiechyd meddwl. Gallant effeithio ar ein perthynas â theulu a ffrindiau. Gallant gymryd drosodd ein bywydau a’u gwneud yn llawer gwaeth. Mewn rhai achosion, gall gyffuriau achosi niwed difrifol i ni neu hyd yn oed ein lladd.

Efallai eich bod wedi cymryd cyffuriau neu efallai y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol. Hyd yn oed os na fyddwch byth yn cymryd cyffuriau, byddwch yn sicr yn dod ar draws pobl sydd wedi gwneud. Mae’n bwysig felly i gael rhywfaint o ddealltwriaeth o gyffuriau.

 

Sut mae cyffuriau’n gweithio

Effeithiau cyffuriau seicoweithredol ar yr ymennydd

  • Mae cyffur yn mynd i mewn i’ch corff trwy ei lyncu neu ei yfed, trwy fewnanadlu mwg neu anwedd ohono, trwy ei ffroeni i fyny’ch trwyn, ei amsugno trwy’ch croen neu ei chwistrellu i gyhyr neu wythïen.
  • Waeth sut mae cyffur yn mynd i mewn i’ch corff mae’n teithio ar hyd y llif gwaed i’r galon, yna’n mynd trwy rwystr (a elwir yn rwystr gwaed yr ymennydd) i’r ymennydd.
  • Wedi iddo gyrraedd yr ymennydd mae cyffur yn glynu dros dro wrth ardaloedd penodol, a elwir yn safleoedd derbyn. Mae gwahanol gyffuriau yn glynu eu hunain i wahanol safleoedd derbyn – er enghraifft mae canabis yn glynu wrth dderbynyddion canabinoid, tra bod cyffuriau opioid fel heroin yn cysylltu â derbynyddion opioid.
  •  Tra’n glynu dros dro i’w safle derbyn mae cyffur yn dylanwadu ar system negeseuon yr ymennydd. Mae’r system yma yn cynnwys biliynau o gelloedd ymennyddol o’r enw niwronau sy’n rhyddhau cemegau a elwir yn niwrodrosglwyddyddion. Mae dros 100 o wahanol fathau o niwrodrosglwyddyddion. Mae pob un ohonynt (mewn cyfuniad â’i gilydd) yn cael gwahanol effaith ar eich hwyliau, eich teimladau, eich proses meddwl ac ati.
  • Mewn bywyd normal, mae’r ymennydd yn addasu’r cymysgedd hwn o niwrodrosglwyddyddion yn gyson mewn ymateb i ddigwyddiadau a brofwn ac oherwydd dymuniad i oroesi – er enghraifft maen nhw’n medru gorlifo’r ymennydd â chemegau sy’n gwneud i ni syrthio mewn cariad i’n hannog i atgenhedlu.
  • Mae cyffur yn cael effaith arnoch chi oherwydd bod y cyffur wedi newid y cymysgedd yma o niwrodrosglwyddyddion yn eich ymennydd mewn modd artiffisial. Mae’r rhan fwyaf o gyffuriau’n effeithio ar niwrodrosglwyddydd o’r enw dopamin, ond mae cyffuriau gwahanol yn effeithio ar gyfuniad gwahanol o niwrodrosglwyddyddion. Er enghraifft, mae cyffur adfywiol fel cocên yn cael effaith fawr ar y niwrodrosglwyddydd ‘noradrenalin’, tra bod opioid tebyg i heroin yn cael effaith fawr ar y niwrodrosglwyddydd ‘endorffinau’.

 

Effeithiau cyffuriau ar y corff

  • Er bod cyffuriau seicoweithredol yn cael eu cymryd yn bennaf ar gyfer eu heffeithiau ar y meddwl, mae effeithiau corfforol yn rhan fawr o’r profiad. Er enghraifft:
  • Gall heroin wneud i gannwyll eich llygaid grebachu tra gall cocên eu gwneud yn fwy.
  • Gall ecstasy (MDMA) achosi cyhyrau’r wyneb a’r corff i dynhau, tra gall diazepam achosi iddynt ymlacio mwy.
  • Gall opioid tebyg i heroin arafu’r anadlu a churiad y galon tra gall cyffur adfywiol fel cocên gynyddu’r anadlu a chyfradd curiad y galon.
  • Gall amffetamin achosi i’ch ymateb atgyrchol gyflymu, tra gall alcohol ei arafu.
  • Gall cyffuriau hefyd gael effaith ar y system dreulio mae hyn yn cynnwys chwydu gyda chyffur fel alcohol a rhwymedd gydag opioid tebyg i heroin.

 

Mathau o gyffuriau

Mae yna nifer o ffyrdd o gategoreiddio cyffuriau. Isod mae chwe chategori bras ar gyfer y gwahanol fathau o gyffuriau seicoweithredol:

  • Cyffuriau adfywio
  • Empathogenau
  • Cyffuriau Seicedelig
  • Cyffuriau Datgysylltiadol
  • Iselyddion
  • Opioidau
  • Canabinoidau

(*Categorïau yn seiliedig ar y ‘Drugswheel’) 

 

Cyffuriau adfywio

Mae cyffuriau adfywio yn cyflymu gweithredoedd y corff, megis curiad y galon, anadlu, a gweithgaredd meddyliol. Gall hyn arwain at ewfforia, mwy o hyder, mwy o egni, awydd rhywiol cynyddol a llai o awydd am fwyd. Mae’r risgiau o ddefnyddio cyffuriau adfywio yn cynnwys anhwylderau hwyliau, ataliad sydyn ar y galon, defnyddio diollwng a seicosis. Mae nicotin, caffein, cocên ac amffetaminau yn enghreifftiau o gyffuriau adfywio.

Empathogenau

Mae empathogenau (a elwir hefyd yn entactogenau) yn gyffuriau sy’n aml yn cael effaith adfywiol ond maent hefyd yn cael effaith emosiynol a chymdeithasol penodol, cysylltu a chyd-ddealltwriaeth. Mae’r term empathogen yn golygu “creu cyflwr o empathi”. Mae’r risgiau o ddefnyddio empathogenau yn cynnwys trawiad gwres, syndrom serotonin ac iselder. Mae MDMA (ecstasi) MDA, MDE, a nifer o’r cathinonau synthetig megis 4-CMC yn enghreifftiau o gyffuriau empathogenig.

Cyffuriau Seicedelig

Fel arfer nid yw cyffuriau seicedelig yn cael fawr o effaith ar weithredoedd corfforol, gan eu bod yn gweithio ar y rhannau hynny o’r ymennydd sy’n rheoli sut mae’r synhwyrau’n gweithredu. Gallant newid y ffordd y mae’r defnyddiwr cyffuriau unigol yn canfod eu bydoedd mewnol ac allanol a gallant gynhyrchu profiadau ysbrydol, amgyffred uwch, ewfforia, rhithiau gweledol a/neu glywedol. Mae’r risgiau o ddefnyddio cyffuriau seicedelig yn cynnwys effeithiau seicolegol andwyol, deliriwm, niwed damweiniol, syndrom serotonin, gwenwyno acíwt (gwenwyno). Mae LSD, madarch psilocybin a 2-CB yn enghreifftiau o gyffuriau seicedelig.

Cyffuriau Datgysylltiadol

Mae cyffuriau Datgysylltiadol yn ddosbarth o gyffuriau sy’n gweithredu’n bennaf ar weithgaredd NMDA yn yr ymennydd. Mae hyn yn achosi i bobl deimlo eu bod wedi’u gwahanu oddi wrth eu corff neu eu hamgylchedd ffisegol a gall arwain at ewfforia, ymlacio, poenliniaru, rhithiau gweledol a/neu glywedol. Ymhlith y risgiau o ddefnyddio cyffuriau datgysylltiadol mae anymwybyddiaeth, teimladau o ddatgysylltiad dwys, parlys dros dro. Mae cetamin ac ocsid nitraidd yn enghreifftiau o gyffuriau datgysylltiadol.

Iselyddion

Mae iselyddion yn arafu gweithgaredd meddyliol a gweithredoedd corfforol, fel curiad y galon ac anadlu. Maent yn creu teimladau o ewfforia, mwy o hyder a chymdeithasgarwch, ymddygiad di-rwystr. Mae risgiau defnyddio iselyddion yn cynnwys dibyniaeth, tananadlu, pwysedd gwaed a churiad calon gostyngol. Mae GHB, pregabalin a benzodiazepines yn enghreifftiau o iselyddion

Opioidiau

Mae opioidau yn gyffuriau sy’n gweithredu ar dderbynyddion opioid yn yr ymennydd. Maent yn lleddfu poen (poenliniarydd), yn dawelyddion ac yn creu teimladau o anorchfygolrwydd ac ewfforia. Mae risgiau defnyddio opioidau yn cynnwys dibyniaeth, tananadlu, pwysedd gwaed a churiad calon gostyngol. Mae heroin, fentanyl, methadone a côdin yn enghreifftiau o gyffuriau opioid.

Cannabinoidau

Mae cannabinoidau yn gyffuriau sy’n gweithredu ar dderbynyddion cannabinoid yn yr ymennydd. Maent yn creu teimladau o ymlacio, ewfforia, newid ymwybyddiaeth a chyffro synhwyraidd. Gall risgiau o ddefnyddio cannabinoidau gynnwys cynnwrf, trawiadau, cynnyddu curiad y galon a chodi pwysedd gwaed, coma. Mae canabis (THC, CBD) a (‘Spice’) cannabinoidau synthetig fel MDMB-4EN-PINACA yn enghreifftiau o gyffuriau cannabinoid.

 

Y Cyffur, Chi, Eich lleoliad

Mae’r effeithiau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau yn dibynnu ar yr hyn a elwir ‘Y Cyffur, Chi, Eich Lleoliad’.

Y Cyffur – pa gyffur; ei gryfder (purdeb); faint rydych chi’n ei gymryd (y dos) a’r dull o ddefnyddio (ysmygu, chwistrellu ac ati).

Chi – eich pwysau a’ch rhyw (mae cyffuriau’n cael mwy o effaith ar bobl lai); eich personoliaeth, eich genynnau; eich profiad blaenorol o gyffuriau (yr hyn rydych chi’n disgwyl fydd yn digwydd) a’r hwyliau rydych chi ynddo.

Eich Lleoliad – ble rydych chi a gyda phwy rydych chi pan fyddwch chi’n cymryd cyffur. Er enghraifft, mae defnyddio gyda ffrindiau mewn lle preifat diogel yn llai tebygol o arwain at baranoia na chymryd cyffur mewn man cyhoeddus ymhlith dieithriaid. Yn yr un modd, mae cymryd cyffuriau ac yna mynd i eistedd mewn cadair freichiau yn fwy diogel (i bawb) na chymryd cyffuriau ac yna gyrru car.

 

Dibyniaeth a bod yn gaeth

Crefu

Pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth sy’n bleserus i chi (cymryd cyffur, betio ar geffylau ac ati), daw’r teimlad pleserus o’r cynnydd mewn dopamin a niwrodrosglwyddyddion eraill yn eich ymennydd. ‘Crefu’ yw’r gair i ddisgrifio yr awydd dwys i ailadrodd y profiad hwn.

Goddefiad

Mae’r effaith bleserus a gewch wrth ddefnyddio cyffur am y tro cyntaf yn lleihau po fwyaf o’r cyffur hwnnw a ddefnyddiwch. Os ydych chi’n defnyddio cyffur yn rheolaidd rydych chi’n cynyddu’r hyn a elwir yn oddefiad. Mae hyn yn golygu bod angen dos uwch arnoch yn gynyddol er mwyn profi’r effaith a ddymunir. Mae goddefiad yn rhybudd i chi y gallech fod yn mynd yn ddibynnol. Gyda chyffur fel heroin, gall goddefiad cynyddol olygu eich bod yn defnyddio dos a fyddai wedi eich lladd pan ddechreuoch chi gyntaf. Os byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio heroin (e.e. pan fyddwch yn derbyn triniaeth neu yn y carchar) bydd eich goddefiad yn gostwng eto. Os byddwch chi wedyn yn mynd yn ôl i ddefnyddio yr un faint o ddos, efallai y byddwch chi’n cael gorddos ac yn marw.

Dibyniaeth seicolegol

Gall defnydd rheolaidd olygu eich bod yn dechrau dibynnu ar gyffur mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu sefyllfaoedd eraill – mae defnyddio cyffuriau yn dod yn ‘arferiad’, a gelwir hyn yn ddibyniaeth seicolegol. Gall unrhyw gyffur achosi dibyniaeth seicolegol.

Dibyniaeth Gorfforol

Gall defnydd rheolaidd o rai cyffuriau achosi ‘dibyniaeth gorfforol’. Mae hyn yn golygu bod eich ymennydd i bob pwrpas wedi ‘ail-weirio’ ei hun i ddisgwyl dos o gyffur. Os byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffur, byddwch yn mynd yn gorfforol sâl (gelwir hyn yn diddyfnu). Nid yw pob cyffur yn achosi dibyniaeth gorfforol. Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr sigaréts a defnyddwyr heroin yn profi symptomau annymunol pan fyddant yn rhoi’r gorau i’w defnyddio, tra gall diddyfnu sydyn o ddefnyddio GHB neu o yfed alcohol yn drwm beryglu bywyd.

Bod yn gaeth

Nid yw pawb sy’n defnyddio cyffuriau yn mynd yn gaeth iddynt, mewn gwirionedd ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio cyffuriau yn disgrifio eu hunain felly. Mae bron pob ysmygwr sigaréts yn mynd yn gaeth, ond mae’n weddol hawdd byw bywyd ‘normal’ fel rhywun sydd yn ‘gaeth’ i sigaréts. Nid ydy’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr alcohol yn mynd yn gaeth. O’r sawl sydd yn gwneud hynny, mae rhai’n llwyddo i fyw bywydau ‘normal’, tra i eraill mae alcohol yn cymryd drosodd eu bywyd cyfan, gan ddod yn bwysicach nag iechyd, ffrindiau, teulu, hunan-barch ac ati. Yn gyffredinol, dyma’r hyn a olygwn pan ddefnyddiwn y term ‘bod yn gaeth’.

 

Cuddio
Ffôn di-dal: