Ysmygu

Ysmygu yw’r broses o losgi sylwedd ac yna’r mwg yn cael ei fewnadlu i mewn i’r ysgyfaint. Y cyffur ysmygu mwyaf adnabyddus yw tybaco. Er bod priodweddau cemegol cyffuriau eraill sy’n cael eu smocio yn amrywio, mae’r ffordd y maent yn cael eu hamsugno i mewn i’r corff yr un peth. Y cyffuriau ysmygu mwyaf cyffredin ar ôl tybaco yw canabis, heroin a chrac cocên.n.

Derbyn y cyffur mewn moddmwy diogel

  • Offer ysmygu, e.e. ni ddylid rhannu pibellau
  • Wrth ysmygu drwy ddefnyddio papur gloyw, defnyddiwch ffoil a ddarperir gan gyfleusterau cyfnewid nodwyddau os yw’n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, defnyddiwch alwminiwm. Mae ffoil cegin/coginio yn aml wedi’i orchuddio ag olew llysiau sydd angen ei losgi oddi ar yr arwyneb. Peidiwch â defnyddio ffoil o ddeunydd pacio melysion gan eu bod yn aml yn cael eu gorchuddio â halogyddion.
  • Os ydych yn ysmygu sylweddau mewn sigarét neu sigaréts mariwana – defnyddiwch gerdyn heb ei gannu i wneud hidlwyr er mwyn osgoi anadlu sylweddau niweidiol i mewn o’r cerdyn.

Dulliau Ysmygu

Gellir mewnanadlu mwg o sigarét wedi’i thanio, pibell neu drwy fewnanadlu mwg o sylwedd wedi’i wresogi drwy ffoil (ysmygu heroin).

Mae’r mwg yn cael ei dynnu i mewn i’r ysgyfaint ac yn pasio trwy leinin yr ysgyfaint i mewn i lif y gwaed. Wedyn mae’n cael ei bwmpio drwy’r galon ac yna i’r ymennydd.

Mae hwn yn ddull effeithlon o gymryd cyffuriau, gan fod y cynhwysion gweithredol yn cael eu cymysgu gyda gwaed ocsigenedig ac yn teithio i’r ymennydd yn eithaf cyflym. Mae’r effeithiau i’w teimlo bron yn syth. Fodd bynnag, bydd rhywfaint o’r cyffur yn cael ei golli gan ei fod, yn llythrennol, yn mynd i fyny mewn mwg.

Risgiau Iechyd Yn Sgil Ysmygu

Nid yw meinweoedd y geg, llwybrau anadlu ac ysgyfaint wedi’u creu ar gyfer cymryd nwyon poeth a gwenwynig o unrhyw fath. Yn hirdymor, gallai hyn arwain at broblemau megis canser y tafod, gwddf a laryncs a chlefydau’r frest fel broncitis, emffysema a chanser yr ysgyfaint.

Mae’r achos yn erbyn ysmygu tybaco fel canlyniad i’r holl broblemau iechyd hyn wedi’i hen sefydlu ond mae’r achos yn erbyn cyffuriau ysmygu eraill yn aneglur. Gallai hyn fod oherwydd ei bod yn anghyffredin i gyffuriau eraill gael eu cymryd mor aml a pharhaus â thybaco. Gallai hefyd fod oherwydd yr anawsterau wrth ymchwilio i’r poblogaethau sy’n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Yn achos canabis, mae’n debygol y bydd ychwanegu canabis at dybaco yn cynyddu’r risgiau o glefydau’r system anadlu. Yn yr achos hwn, mae hefyd y risg ychwanegol o ddefnyddwyr canabis achlysurol yn dod yn ddibynnol ar dybaco.

Risgiau Dibyniaeth

Mae’r ail set o risgiau yn ymwneud â phroblemau o ddibyniaeth. Oherwydd bod ysmygu cyffur yn darparu effaith neu ‘hit’ cyflym iawn, fel arfer, mae’r dosau a gymerir yn eithaf bach. Os oes gan y cyffur sy’n cael ei ysmygu cyfradd gwaredu cyflym o lif y gwaed, sy’n wir am gyffuriau tybaco adfywiol a chrac cocên, yna mae cyfradd y cyffur yn llif y gwaed yn amrywio’n gyflym.

Mae effaith y cyffur i’w deimlo’n gyflym ac mae’n diflannu’n gyflym. Gall hyn arwain at ddefnydd ailadroddus o’r cyffur mewn pyliau i gynnal yr effaith. Mae’r defnyddiwr yn profi teimlad y cyffur yn gyflym sy’n cael ei ddilyn yn gyflym iawn gan ei absenoldeb. Mae hyn yn arwain at deimlad o ysfa am y cyffur sy’n cael ei fodloni gan gymryd mwy yn syth.

Gyda thybaco, gelwir hyn yn ysmygu cadwyn, ond mae hefyd yn adnabyddus gyda chrac cocên. Yn yr achos olaf hwn, a gan ystyried pŵer ychwanegol y cyffur, gall arwain at broblemau ymddygiad difrifol megis gorsymbylu, ymddygiad ymosodol neu hyd yn oed ymddygiad seicotig. I wneud pethau’n waeth, mae crac yn hynod o ddrud os yw’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon a gall gwerth cannoedd o bunnoedd o’r cyffur gael ei ysmygu mewn pyliau o fewn diwrnod.

Ysmygu Neu Chwistrellu?

O ystyried yr uchod, mae’n ymddangos yn rhesymol i ofyn ai ysmygu cyffur yw’r ffordd beryclaf o’i gymryd. Yr ateb yw – mae’n dibynnu. Os yw’r dewis arall, fel gyda heroin stryd, yn chwistrellu, yna mae’n rhaid mai ‘na’ yw’r i’r ateb. Mae chwistrellu cyffur yn cario risgiau eithriadol o gymharu ag ysmygu, er gwaethaf ei broblemau, mae ysmygu cyffur yn llawer llai peryglus.

Os mai’r dewis arall yw ffroeni neu fwyta’r cyffuriau, fel gyda chocên neu ganabis, yna gallai ysmygu fod yn fwy peryglus.

Cuddio
Ffôn di-dal: