Amphetamines
Speed, phet, whizz, billy, billy whizz, ice, crank, dex, dexies, fast, go fast, sulph, sulphate, uppers.
What do Amphetamines look like?
Cyfreithlon:
Tabledi 5mg dexamphetamine (Dexedrine), gwyn, wedi'u marcio SKF.
Anghyfreithlon:
Powdr amffetamin sylffad yn amrywio o ran lliw o wyn budr i binc (a elwir yn 'pink champagne'). Mae Methylamphetamine yn dod fel grisialau gwyn, a elwir yn 'ice', neu mewn tabledi a elwir yng Ngwlad Thai yn yabba neu shabu.
Enwau Gwyddonol
Amphetamine sulphate, dexamphetamine sulphate, dextroamphetamine, methylamphetamine. Amphetamine-like drugs include apisate (diethylproprion), duromine (phentermine), volital (pemoline), ritalin (methylphenidate), tenuate dospan (diethylpropion).
Enw Cyffredinol
Amffetaminau
Effeithiau Amphetamines
Effeithiau a Ddymunir:
Ewfforia, bywiogrwydd, hyder.
Sgîl Effeithiau:
Insomnia, colli chwant bwyd, ceg sych.
Risgiau
Tymor byr:
Pryder, Paranoia, goddefiad.
Tymor hir:
Seicosis, dibyniaeth seicolegol.
Reducing Harm
Information to help with Reducing Harm when using Amphetamines
How do Amphetamines work?
Symbylydd y brif system nerfol.
Statws Cyfreithiol:
Dosbarth B dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Dosbarth A os yw wedi'i baratoi i'w chwistrellu.
How Are Amphetamines Taken?
Gellir llyncu'r tabledi, snwffian y powdr i fyny'r trwyn, ei doddi mewn diod neu ei lyncu (a elwir yn 'bombing'). Gellir paratoi'r powdr a'r tabledi ar gyfer eu chwistrellu. Gellir ysmygu Methylamphetamine neu 'ice'.
Paraphernalia
Fel arfer, gwerthir amffetamin anghyfreithlon fel 'gram' neu mewn papur. Os yw'n cael ei snwffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen. Defnyddir tiwb neu arian papur wedi'i rolio fel 'pibell'. Os yw'n cael ei chwistrellu: chwistrell a nodwydd, dwr, rhwymyn tynhau. Os yw'n cael ei ysmygu: matsis a ffoil.
Defnydd Meddygol:
Fe'i rhagnodir weithiau i atal chwant bwyd, i drin nacrolepsi, gorfywiogrwydd mewn plant ac iselder.
O ble mae'n dod?
Wedi'i ddargyfeirio o gynhyrchwyr, fferyllfeydd, meddygon teulu neu ei wneud mewn labordai dirgel ym Mhrydain a llefydd eraill a'i ddosbarthu drwy'r farchnad cyffuriau anghyfreithlon.
Gwasanaethau sy'n helpu
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae cynnydd yn y defnydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth Cyffuriau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.
You can view a list of National Drug Agencies.
If you would like to talk about Amphetamines problems then please call the DAN 24/7 Helpline on: