Khat
Khat, Qat, Cat, Chat, Ghat, Miraa, Arabian Tea.
What does Khat look like?
Llwyn bytholwyrdd sy'n blodeuo a ddaeth yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica a'r Penrhyn Arabaidd Ar ei ffurf naturiol, dail a choesau.
Enwau Gwyddonol
Catha edulis o'r teulu Celastraceae.
Enw Cyffredinol
Catha Edulis
Effeithiau Khat
Effeithiau a Ddymunir:
Siaradus, dedwyddwch a chynhyrfiad ysgafn, effröwch, cyffro, ymlediad cannwyll y llygad.
Sgîl Effeithiau:
Methu cysgu, dim chwant bwyd, ceg sych, gor-actifedd, rhwymedd.
Risgiau
Tymor byr:
Pryder, ymddygiad gorffwyll, Paranoia, goddefiad.
Tymor hir:
Iselder, yn groendenau, dibyniaeth seicolegol. Gall effeithio'n negyddol ar weithrediad yr iau, tueddiad i gael wlserau a llai o chwant rhyw.
Reducing Harm
Please view our Reducing Harm page for more information.
How does Khat work?
Symbylydd y brif system nerfol. Mae Khat yn cynnwys y cemegolion Cathinone a cathine sy'n symbylwyr tebyg i amffetamin, ond nid yw Khat mor gryf.
Statws Cyfreithiol:
Ym Mehefin 2014, daeth Khat i fod yn gyffur Dosbarth C a reolir yn y DU. Mae Cathinone a cathine yn gyffuriau Dosbarth C, dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
How Is Khat Taken?
Bydd y dail a'r coesau ffres yn cael eu cnoi neu gellir eu gwneud yn de.
Paraphernalia
Os yw'n cael ei wneud yn de, offer gwneud te.
Defnydd Meddygol:
Dim
O ble mae'n dod?
Mae Khat wedi cael ei ddefnyddio yn rhannau o Ddwyrain Affrica a'r Penrhyn Arabaidd ers canrifoedd. Mae hir hanes i gnoi Khat fel arferiad cymdeithasol ymysg y cymunedau yn yr ardal hon. Fe'i defnyddir ymysg y cymunedau Somalïaidd, Yemenïaidd ac Ethiopiaidd ym Mhrydain.
Gwasanaethau sy'n helpu
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'n bosibl gall sefydliadau amlddiwylliannol gynghori am ffynonellau lleol o arbenigedd am Khat. Mae cynnydd yn y deunydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.
You can view a list of National Drug Agencies.
If you would like to talk about Khat problems then please call the DAN 24/7 Helpline on: