Lisdexamfetamine
Lisdexamfetamine Dimesylate
What does Lisdexamfetamine look like?
Capsiwlau 30mg, 50mg a 70mg.
Enwau Gwyddonol
L-lysine-d-amphetamine
Enw Cyffredinol
Elvanse
Effeithiau Lisdexamfetamine
Effeithiau a Ddymunir:
Tebyg i amffetaminau a dexamphetamine: effröwch, egni, dedwyddwch, gwell canolbwyntiad a gwell perfformiad.
Sgîl Effeithiau:
Mae gan Lisdexamfetamine y posibilrwydd o ddyblygu'r niweidiau corfforol a chymdeithasol sy'n gysylltieDig ag amffetaminau, gan gynnwys diffyg cwsg, pendro, cur pen, curiad calon cyflym a gorbwysedd, dolur rhydd a theimlo'n sâl.
Risgiau
Tymor byr:
Mae anorecsia, confylsiynau, trawiad ar y galon, strôc a marwolaeth wedi'u hadrodd.
Tymor hir:
Problemau cysgu, pryder, dibyniaeth seicolegol
Reducing Harm
Please view our Reducing Harm page for more information.
How does Lisdexamfetamine work?
Mae Lisdexamfetamine ac amffetaminau eraill yn symbylwyr. Fodd bynnag, wrth ei ddefnyddio fel meddyginiaeth ar gyfer trin ADHD, mae Lisdexamfetamine yn cael ei ragnodi ar ddosau sy'n effeithio i'r gwrthwyneb. Wrth ei gymryd drwy'r geg, mae Lisdexamfetamine yn trosi i fod yn dexamphetamine, cyffur Dosbarth B.
Statws Cyfreithiol:
Mae Lisdexamfetamine yn gyffur Dosbarth B dan Orchymyn y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (Cetamin ayb) (Diwygio) 2014. Fe'i cyflwynwyd i farchnad meddyginiaethau'r DU ym Mawrth 2013, gan ei fod yn perthyn yn agos i'r cyffur rheoleDig Dosbarth B Dexamphetamine.
How Is Lisdexamfetamine Taken?
Cynhyrchir y feddyginiaeth ar ffurf capsiwl, felly fe'i llyncir.
Paraphernalia
Dim.
Defnydd Meddygol:
Defnyddir Lisdexamfetamine i drin anhwylder gorfywiogrwydd diffyg canolbwyntio (ADHD).
O ble mae'n dod?
Wedi'i ddargyfeirio o gynhyrchwyr, fferyllfeydd, meddygon teulu neu ei wneud mewn labordai dirgel ym Mhrydain a llefydd eraill a'i ddosbarthu drwy'r farchnad cyffuriau anghyfreithlon.
Gwasanaethau sy'n helpu
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd ac atgyfeiriadau posibl i adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol atgyfeirio i wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.
You can view a list of National Drug Agencies.
If you would like to talk about Lisdexamfetamine problems then please call the DAN 24/7 Helpline on: