2-DPMP
2-dpmp- Vanilla Sky
- Purple Wave
- Ivory Coast
- Ivory wave
Enwau Gwyddonol: 2-diphenylmethylpiperidine
Enwau Generig: Desoxypipradrol

Effeithiau A Ddymunir:
Symbylydd sydd fel amffetamin gydag effeithiau hir dymor.Sgîl Effeithiau:
Aflonyddwch difrifol, pryder, insomnia, paranoia, poen yn y frest, rhithweledigaethau.Tymor Hir:
Gall effeithiau difrifol bara nifer o ddiwrndoau. Nid ydym ar hyn o bryd yn gwybod beth yw'r peryglon hir dymor ond gallent fod yn debyg i amffetimau eraill; gall defnydd rheolaidd fod yn orfodaeth a gall defnyddwyr ddatblygu dibyniaeth seicolegol a chorfforol.Tymor Byr:
Ymosodedd, ffitiau, pwysedd gwaed cynyddol, cynnydd peryglus posibl yn nhymheredd y corff, perygl o fethiant yr arennau. Bydd y peryglon yn cynyddu os yw’n cael ei gyfuno gydag alcohol neu gyffuriau eraill. Mae defnyddwyr wedi nodi bod Ivory Wave yn gryf iawn, ac ond angen ychydig ohono, felly mae'n hawdd cymryd gormod.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.