2C-x

2c-x
  • 2C-C
  • 2C-D
  • 2C-E
  • 2C-H
  • 2C-I
  • 2C-iP
  • 2C-P
  • 2C-TFM
  • 2C-T7
  • 2C-B

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Dimethocsiffenethylaminau amnewid

Enwau Generig: Ffenethylaminau Seicedelig

An example of what 2C-x looks like
Powdwr gwyn budur, capsiwl a thabledi mewn meintiau a lliwiau amrywiol.

Effeithiau A Ddymunir:

Rhithweledigaethau, afluniad a gwell sain a golwg, cyflwr ymwybyddiaeth wedi'i addasu, ewfforia, gwyrdroi dirnadaeth o amser. Empathi, anwyldeb a gwella cymdeithasgarwch.

Sgîl Effeithiau:

  • Diffyg hylif
  • Cyfog a chwydu
  • Cyflymu cyfradd curiad y galon a phwysedd gwaed uwch
  • Crensio dannedd
  • Byddwch yn barod am y profiad trwy ddarllen popeth y gallwch chi ymlaen llaw am yr hyn y dylech ei ddisgwyl yn sgil pa bynnag gyffur 2Cx rydych chi'n bwriadu'i ddefnyddio. Sicrhewch fod y dos yn gywir a byddwch yn ofalus iawn.
  • Mae profion adweithydd ar gael a all helpu i gadarnhau pa gyffur sydd gennych chi.
  • Byddwch yn barod am effeithiau a all bara 6-12 awr, felly sicrhewch nad oes yn rhaid i chi fod yn unrhyw le neu weld unrhyw un a allai droi profiad da yn un gwael. Er enghraifft, mynd i dŷ eich modryb i gael swper tra byddwch chi'n dal yn profi ‘trip’.
  • Chwiliwch am rywle i'w ddefnyddio ble gallwch deimlo'n ddiogel i leihau'r risg o brofi gorbryder, paranoia neu banig, neu droi'r profiad yn drip gwael.
  • Mae bob amser yn well sicrhau bod gwarchodwr ('ground controller') gyda chi yn ystod y profiad. Hynny yw, rhywun sydd â phrofiad o ddefnyddio'r cyffur ac sy'n cadw'i ben ac yn gallu eich lleddfu a'ch cysuro os bydd y trip yn troi'n un gwael.
  • Cytunwch ar rywfaint o reolau cyn trip ynghylch gofalu am eich gilydd neu ynghylch ceisio cymorth os bydd problem ddifrifol.
  • Peidiwch â chymysgu - nid yw'n ddiogel cymysgu cyffuriau 2Cx â chyffuriau eraill, meddyginiaethau neu alcohol.
  • Peidiwch â chymryd cyffuriau 2Cx os oes gennych chi anhwylderau isorweddol ar y galon, rhai niwrolegol neu rhai seiciatryddol.

Tymor Hir:

Mae nifer o achosion o ysbyteiddio a nifer fechan o farwolaethau wedi'u cysylltu â chyffuriau 2Cx. Nid ydym yn gwybod beth yw effeithiau hirdymor defnyddio'r cyffuriau hyn oherwydd mae'r ymchwil yn brin neu nid oes unrhyw ymchwil.

Tymor Byr:

  • Amharu ar y golwg
  • Dryswch a phyliau o banig
  • Pwysedd gwaed uchel
  • Gorwres
  • Crychguriadau'r galon
  • Gorbryder
Mae'r effeithiau'n amrywio rhwng cyffuriau 2C-x gwahanol. Gallant ysgogi profiad perlesmeiriol a dymunol o fewnsyllgar, ond gallant ysgogi profiadau tywyll ac achosi iselder hefyd. Mae'r profiad yn amrywio’n enfawr o'r naill unigolyn i'r llall neu o'r naill drip i'r llall.
Mae cyffuriau 2C yn deulu o gemegau gwneud sy'n rhithbeiriol ac yn symbylyddion, felly ceir effeithiau tebyg i ecstasi a LSD; gall effeithiau bara rhwng 2 a 6 awr ond weithiau'n hirach.

Dimethocsiffenethylaminau amnewid (a elwir hefyd yn 2C-x) yw enw cyffredinol teulu o gyffuriau ffenethylaminau seicedelig sy'n cynnwys 2C-B, 2C-E a 2C-I. Gallant fod ar ffurf powdwr, pils, tabledi neu flotwyr sy’n debyg i dabiau LSD.
Llyncir tabledi, pils a blotwyr, gellir sniffian y powdwr.
Os yw'n cael ei sniffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri a'r rannu'n linellau ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen.
Cynhyrchir cyffuriau 2Cx mewn labordai anghyfreithlon.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymuned neu dimau cyffuriau cymuned) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y DU, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol megis aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac o bosibl yr adran achosion brys yn yr ysbyty lleol wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: