2CE
2ce- 7-Up
- 7th Heaven
- T-7
- 2CT-7
- 2CT
- 2CB
- 2CI
Enwau Gwyddonol:
2CE - 2,5-dimethoxy-4-ethylphenethylamine
2CI - 2,5-dimethoxy-4-iodophenethylamine
2CT7 - 2-[2,5-Dimethoxy-4-(propylthio) phenylethanamine
Enwau Generig: Psychedelic Phenethylamines

Effeithiau A Ddymunir:
Rhithweledigaethau, afluniad a gwell sŵn a golwg, cyflwr ymwybyddiaeth wedi'i addasu, ewfforia ysgafn, afluniad mewn dirnadaeth amser.Sgîl Effeithiau:
Teimlo'n anghyfforddus, cyfog, chwydu, cosi, tynhau'r cyhyrau am ormod o amser a chrynu, cur pen, teimlo'n flin a dolur rhydd.Tymor Hir:
Mae nifer o bobl wedi gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty ac un farwolaeth yn gysylltiedig â'r cyffuriau 2CI a / neu 2CE. Nid ydym yn gwybod effeithiau hir dymor o'r defnydd gan nad oes dim ymchwil neu ond ychydig o ymchwil. 2Cs a sylweddau anghyffredin sydd â hanes byr iawn o ddefnydd dynol, ac mae'n bosibl y gellid cynhyrchu effeithiau negyddol parhaol hyd yn oed mewn dos bach.Tymor Byr:
Ymyriad ar y golwg, dryswch a phyliau o banig, pwysedd gwaed uchel, gorwres, crychguriadau a phryder.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.