5-MeO-DMT
5-meo-dmtEnwau Gwyddonol: 5-Methocsi-N,N-dimethyltryptamin (gelwir hefyd yn 5-MeO-DMT)
Enwau Generig: Seicadelig. Tryptamin

Ni allwch bob amser fod yn siŵr mai'r hyn a brynwch yw'r hyn a gewch, ond os ydych am anfon unrhyw
sylwedd i ffwrdd i'w brofi, gallwch ei anfon at WEDINOS
Gellir canfod 5-MeO-DMT yn naturiol yn rhai o blanhigion a hadau De America, ac yn chwarenlifau'r llyffant Bufo Alvarius. Mae 5-MeO-DMT synthetig ar ffurf powdwr crisialog gwyn sydd fel arfer yn cael ei anweddu mewn pibell a'i fewnanadlu, ond gellir ei sniffian. Mae 5-MeO-DMT yn gyffur seicadelig cryf iawn (hyd yn oed yn achos dosys bychan iawn). Nid yw ei effeithiau'n para'n hir (30 munud).
Effeithiau A Ddymunir:
- Newid canfyddiad.
- Newidiadau gwybyddol a/neu emosiynol.
- Rhithweledigaethau gweledol a chlybodol.
Sgîl Effeithiau:
- Cyfradd curiad calon cyflym
- Cyfog
- Brest dynn
- Amharu ar gwsg
- Gorbryder a phyliau o banig
- Byddwch yn barod am y profiad trwy ddarllen popeth y gallwch chi ymlaen llaw am yr hyn y dylech ei ddisgwyl.
- Gofalwch eich bod yn mesur y dos yn union trwy ddefnyddio clorian gywir a byddwch yn ofalus iawn.
- Chwiliwch am rywle i'w ddefnyddio ble gallwch deimlo'n ddiogel i leihau'r risg o brofi gorbryder, paranoia neu banig, neu droi'r profiad yn drip gwael.
- Mae bob amser yn well sicrhau bod gwarchodwr ('ground controller') gyda chi yn ystod y profiad. Hynny yw, rhywun sydd â phrofiad o ddefnyddio'r cyffur ond sy'n peidio â'i gymryd ac sy'n gallu eich lleddfu a'ch cysuro os bydd y trip yn troi'n un gwael.
- Cytunwch ar rywfaint o reolau cyn trip ynghylch gofalu am eich gilydd neu ynghylch ceisio cymorth os bydd problem ddifrifol.
- O bryd i'w gilydd, gall effeithiau amrywio o leisio annormal a symudiadau corff anarferol i ddiffyg ymateb llwyr. Felly, dylai'r sawl sydd gyda defnyddiwr 5-MeO-DMT wybod sut i symud rhywun i'r ystum adfer, oherwydd bydd chwydu yn digwydd ar brydiau.
- Cofiwch fod anymwybyddiaeth, ynghyd ag anawsterau anadlu, yn arwydd o orddos a dylid ei fonitro.
- Er bod 5-MeO-DMT weithiau'n cael ei ddefnyddio mewn ryseitiau Ayahuasca De America, yn gyffredinol, ystyrir ei bod ei gymysgu ag unrhyw MAOI yn beryglus.
Tymor Hir:
Cythrwfl seicolegol di-baid, yn para wythnosau ar ôl defnyddio'r cyffur ar brydiau.Tymor Byr:
- Gall fod yn beryglus neu'n angheuol hyd yn oed os caiff ei gymysgu â chyffur MAOI.
- Risg o broblemau'r galon os caiff ei ddefnyddio â symbylyddion.
- Bydd alcohol yn cynyddu'r risg o chwydu.
- Effeithiau annisgwyl neu rhy bwerus
5-MeO-DMT stimulates serotonin receptors in the brain.
Dosbarth A, o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.
Mae 5-MeO-DMT synthetig ar ffurf powdwr crisialog gwyn sydd fel arfer yn cael ei anweddu mewn pibell a'i fewnandlu, ond gellir ei sniffian.
Dim