Alcohol
alcohol- Gwin
- Wisgi
- Fodca
- Gwirodydd
- Rym
- Seidr
- Siampên
- Brandi
- Drink
- Bevvy
- Cwrw
- Ethyl Alcohol
- Ethanol
Enwau Gwyddonol: Ethanol, Ethyl Alcohol
Enwau Generig: Alcohol
Effeithiau A Ddymunir:
Bydd yr effeithiau yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar gryfder y dos a gymerir. Mae alcohol yn iselydd sy'n gallu helpu pobl i ymlacio a lleddfu straen. Gall yr ychydig ddiodydd cyntaf weithredu fel symbylydd a chynyddu cymdeithasgarwch a theimlo’n fwy dirwystr (gall hynny fod yn dda ac yn wael). Mae dosys cryfach o alcohol yn dawelyddion ac yn achosi syrthni, a bydd rhai pobl yn mwynhau'r teimladau hynny neu'n eu defnyddio i anghofio am y byd neu am deimladau poenus.Sgîl Effeithiau:
- Diffyg cydsymud
- Llefaru'n aneglur
- Golwg aneglur
- Dryswch meddwl.
- Mae cyfog a chwydu yn gyffredin yn achos dosys cryfach.
- Bydd alcohol yn effeithio ar ein synnwyr cyffredin a'n hymwybyddiaeth o'r hyn sy'n briodol ac yn amhriodol. Bydd yn cynyddu ymddygiad mentrus (dyna ran o'i atyniad i rai pobl).
- Gall yfed gormod, sef 'bod yn feddw', olygu eich bod yn agored i niwed, yn fwy dadleugar ac yn fwy tebygol o ymddwyn yn ymosodol, a bydd hynny'n gwneud i rai pobl ymddwyn yn dreisgar.
- Pan fydd effeithiau alcohol wedi diflannu, bydd diffyg hylif yn eich corff, bydd gennych gur pen a byddwch yn cyfogi. Gelwir hyn yn 'ben mawr'.
- Mae alcohol yn gyffur peryglus a chaethiwus.
- Peidiwch ag ildio i bwysau gan bobl eraill i yfed neu feddwi.
- Mae peidio ag yfed alcohol yn benderfyniad mwy cyffredin ymhlith pobl ifanc erbyn hyn.
- Ceir nifer o ddewisiadau heb unrhyw alcohol neu ganran isel iawn o alcohol os byddwch chi gyda phobl eraill sy'n yfed alcohol.
- Os byddwch yn yfed, ceisiwch beidio â gwneud hynny'n rhy rheolaidd. Sicrhewch na fyddwch yn yfed o gwbl ar ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos.
- Gallwch feddwi'n gyflymach os byddwch yn yfed pan fydd eich ystumog yn wag oherwydd bydd yr alcohol yn cyrraedd llif y gwaed neu'r ymennydd yn gyflymach. Felly, mae'n well bwyta pryd cyn neu wrth yfed.
- Ceisiwch arafu eich yfed trwy yfed dŵr neu ddiod feddal rhwng diodydd meddwol. Bydd yn sicrhau y caiff eich iau fwy o amser i brosesu'r alcohol ac ni fyddwch chi'n teimlo cymaint o ddiffyg hylif.
- Os byddwch yn mynd allan gyda ffrindiau, peidiwch ag yfed fel rhan o rowndiau oherwydd bydd hi'n hawdd colli cyfrif o beth fyddwch yn ei yfed.
- Peidiwch â chael eich gorfodi i yfed yn rhy gyflym na chyfranogi mewn gemau yfed.
- Peidiwch â chymysgu eich diodydd - cadwch at un math o ddiod. Gall cymysgu diodydd eich gwneud yn fwy meddw a byddwch yn fwy tebygol o chwydu.
- Peidiwch â chymysgu alcohol a chyffuriau eraill.
- Peidiwch â gadael eich diod yn rhywle heb neb i ofalu amdani a sicrhewch eich bod yn gwylio eich diod yn cael ei hagor/arllwys; bydd hyn yn atal rhywun rhag ‘sbeicio’ eich diod.
- Cofiwch sicrhau eich bod yn gwybod sut byddwch yn mynd adref cyn i chi adael y dafarn neu'r clwb.
- Ar ôl cyrraedd adref, yfwch rywfaint o ddŵr i helpu i gael hylif yn eich corff unwaith eto ac i wanedu'r alcohol yn llif eich gwaed.
- Gofalwch am eich ffrindiau os byddant yn feddw ac yn agored i niwed. Os bydd rhywun yn anymwybodol, symudwch ef neu hi i'r ystum adfer a ffoniwch i ofyn am gymorth meddygol yn syth.
Risgiau tymor byr
Gorddos, damweiniau (yfed a gyrru). Mynd yn anymwybodol, coma, marwolaeth.
Effaith ddymunol
Meddwdod ysgafn, llonder, teimlo'n gymdeithasol.
Risgiau tymor hir
Dibyniaeth, symptomau diddyfnu, niwed parhaol arwyddocaol i'r ymennydd ac organau eraill (calon, iau, stumog) sy'n gallu bod yn angheuol.
Tymor Hir:
- Mae defnydd gormodol hirdymor o alcohol yn eithriadol o niweidiol i'r ymennydd ac organau'r corff (yr iau, y galon, y stumog ac ati). Yn y DU, bydd bron iawn 10,000 o bobl y flwyddyn yn marw oherwydd achosion sy'n ymwneud ag alcohol.>
- Gall defnydd hirdymor o alcohol arwain at ddibyniaeth arno.
- Yn achos rhai pobl sy'n dibynnu ar alcohol, gall rhoi'r gorau i'w ddefnyddio heb gymorth meddygol fod yn angheuol.
Tymor Byr:
- Damweiniau
- Colli rheolaeth
- Colli ymwybyddiaeth a bod yn agored i niwed.
- Bydd pobl yn llawer mwy tebygol o ddadlau ac ymladd ar ôl bod yn yfed.
- Os byddwch yn gyrru ar ôl yfed neu'n mynd i mewn i gar gyda rhywun sydd wedi bod yn yfed, bydd risg o ddamweiniau ac anafiadau difrifol neu farwolaethau i chi ac i eraill.
- Gall dosys cryfach o alcohol fod yn wenwynig, gall achosi gorddos, ac mewn rhai achosion, marwolaeth. Cynghorir merched beichiog i beidio ag yfed o gwbl, oherwydd ceir risg i'r baban.
- Gallwch gael eich stopio, eich dirwyo neu eich arestio gan yr heddlu os ydych dan 18 oed ac yn yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus.
- Os ydych dan 18, mae'r canlynol yn anghyfreithlon: rhywun yn gwerthu alcohol i chi; prynu neu geisio prynu alcohol; oedolyn yn prynu neu'n ceisio prynu alcohol i chi; yfed alcohol mewn busnes trwyddedig (er enghraifft, tafarn neu fwyty).
- Os ydych chi'n 16 neu'n 17 a gydag oedolyn, gallwch yfed (ond nid prynu) cwrw, gwin neu seidr gyda phryd. Os ydych chi'n 16 neu'n iau, efallai y gallwch fynd i dafarn (neu fusnes a ddefnyddir yn bennaf i werthu alcohol) os byddwch chi gydag oedolyn.
- Mae'n anghyfreithlon rhoi alcohol i blant dan 5 oed.
- Gallech gael eich carcharu, eich gwahardd rhag gyrru ac wynebu dirwy os bydd llys barn yn canfod eich bod yn euog o yfed a gyrru.
- Mae'n rhaid i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sy'n dymuno gwerthu neu gyflenwi alcohol yng Nghymru a Lloegr (yn cynnwys gwefannau) feddu ar drwydded neu awdurdodiad arall gan awdurdod trwyddedu (cyngor lleol gan amlaf).
- Er y ceir yr argraff yn aml y gellir prynu alcohol 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn, gall gorchmynion cyfyngu ar alcohol yn gynnar yn y bore (EMRO) alluogi awdurdod trwyddedu i wahardd gwerthu alcohol am gyfnod penodedig rhwng hanner nos a 6am ledled ei ardal neu mewn rhan ohoni.
- Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020.Mae'r gyfraith hon yn berthnasol i bob busnes, sefydliad ac unigolyn y mae'n ofynnol iddynt feddu ar drwydded cyflenwi alcohol.
- Bydd unrhyw fanwerthwr sy'n gwerthu neu'n cyflenwi neu'n awdurdodi gwerthu gyflenwi alcohol am bris sy'n llai na'r isafbris yn torri'r gyfraith a gallai gael dirwy. Mae'r Ddeddf yn cynnwys fformiwla ynghylch sut i gyfrifo Isafbris Uned (MUP). Mae'r fformiwla'n cynnwys yr MUP (50c), cryfder canrannol yr alcohol a'i gyfain.
- Cynhyrchir diodydd meddwol mewn distyllfeydd a bragdai ledled Prydain a'r byd.
- Caiff diodydd meddwol megis cwrw, seidr a gwin eu creu trwy broses o'r enw eplesu. Caiff y siwgrau naturiol a gynhyrchir o rawn, ffrwythau, grawnwin ac ati eu hymddatod a'u troi'n alcohol (ethanol) gan furum. Ychwanegir siwgr at rai mathau o gwrw a gwin i gryfhau cryfder y ddiod orffenedig, ond mae cryfder alcohol wedi'i eplesu wedi'i gyfyngu i oddeutu 15% yn achos cwrw ac 19% yn achos gwin.
- Gellir distyllu alcohol sydd wedi'i eplesu trwy dwymo'r alcohol i greu anwedd a'i gyddwyso i'w droi'n hylif unwaith eto. Gelwir y rhain yn wirodydd, ac maent yn cynnwys wisgi, jin, rym a fodca.
- Gellir defnyddio nwy o'r enw ethylen, sydd fel arfer yn deillio o betrol neu nwy naturiol, i greu alcohol diwydiannol (a elwir yn Ethanol).