Amffetamin

amphetamines
  • Uppers
  • Sulphate
  • Sulph
  • Go Fast
  • Fast
  • Dexies
  • Dex
  • Crank
  • Ice
  • Billy Whizz
  • Billy
  • Whizz
  • Phet
  • Speed
  • Methylamphetamine
  • Dextroamphetamine
  • Dexamphetamine Sulphate
  • Amphetamine Sulphate

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Amffetamin sylffad

Enwau Generig: Amffetamin sylffad

An example of what Amphetamines looks like
Cyfreithlon:
Tabledi 5mg dexamphetamine (Dexedrine), gwyn, wedi'u marcio SKF.

Anghyfreithlon:
Powdr amffetamin sylffad yn amrywio o ran lliw o wyn budr i binc (a elwir yn 'pink champagne'). Mae Methylamphetamine yn dod fel grisialau gwyn, a elwir yn 'ice', neu mewn tabledi a elwir yng Ngwlad Thai yn yabba neu shabu.

Effeithiau A Ddymunir:

  • Mwy o egni
  • Bywiogrwydd
  • Ewfforia, a chymdeithasgarwch
  • Mae rhai pobl yn ystyried bod diffyg archwaeth yn effaith ddymunol

Sgîl Effeithiau:

  • Anhunedd
  • Ceg sych
  • Wedi'r effeithiau a ddymunir, profir lludded ac iselder
  • Yr unig ffordd o osgoi unrhyw niwed yn sgil amffetamin yw peidio â'i ddefnyddio. Y bobl a ddylai osgoi ei ddefnyddio yn benodol yw'r sawl sydd â phroblemau seiciatryddol, cyflyrau anadlol megis asthma, a chyflyrau'r galon.
  • Mae amffetamin yn gyffur sy'n symbylydd cryf ac fe wnaiff eich cadw'n effro am gyfnodau hir. Felly peidiwch â disgwyl y gallwch gysgu am o leiaf 8 awr neu ragor. Ceisiwch beidio â defnyddio cyffuriau eraill i gael gwared ar yr hyn a elwir 'comedown' neu i'ch helpu i gysgu.
  • Peidiwch â defnyddio gormod: gall cymryd llawer o'r cyffur gynyddu'r risg a gwneud i chi fod yn fwy nerfus yn hytrach nag yn gyffroëdig.
  • Peidiwch ag anghofio bwyta - mae amffetamin yn atal archwaeth, felly cofiwch fwyta cyn ac ar ôl ei ddefnyddio.
  • Peidiwch â defnyddio fwy nag unwaith yr wythnos nag ar ddau ddiwrnod neu ragor yn olynol - caniatewch i'ch corff allu adfer.
  • Gall defnyddio llawer o'r cyffur neu ddefnyddio mwy nag un symbylydd ar yr un pryd beri pwysau sylweddol i'ch calon.
  • Gall amffetamin adweithio'n ddrwg â rhai meddyginiaethau sy'n atalyddion monoamin ocsidas.
  • Bydd llyncu amffetaminau yn golygu y teimlir yr effaith lawn yn llawer arafach, felly peidiwch â chael eich temtio i gymryd rhagor nes byddwch yn profi'r effeithiau llawn. Mae'r well llyncu'r powdwr wedi'i lapio mewn papur sigarét ('bombing') oherwydd gallai hyn leihau'r risg o brofi problemau stumog. Fel arall, cymysgwch y powdwr mewn diod sydd heb alcohol ('whizzy water' yw'r enw am hyn).
  • Gall sniffian amffetamin achosi llid a gwaedu yn y twyn a cheir risg o drosglwyddo firysau os rhennir tiwbiau. Os byddwch yn sniffian amffetamin: malwch y powdwr mor fân ag y bo modd: peidiwch â rhannu gwellt na thiwbiau sniffian; defnyddiwch y ddwy ffroen bob yn ail; defnyddiwch ddŵr cynnes i rinsio'r trwyn ar ôl ei ddefnyddio.
  • Heb os, chwistrellu amffetamin yw'r dull mwyaf peryglus o ddefnyddio'r cyffur a bydd hynny'n llawer mwy tebygol o achosi gorddos. Os byddwch yn ei chwistrellu, bydd yn hanfodol malu'r powdwr mor fân ag y bo modd; cofiwch ddefnyddio nodwyddau glân bob amser a pheidiwch fyth â rhannu unrhyw offer.
  • Defnyddiwch y cyffur mewn amgylchedd dibynadwy gyda phobl y gallwch ymddiried ynddynt, a dywedwch wrth rywun beth ydych yn ei gymryd.
  • Bydd amffetaminau yn eich cadw'n effro ac yn gwneud i chi deimlo'n sychedig iawn. Mae'n hawdd iawn mynd ati i yfed symiau sylweddol iawn o alcohol oherwydd efallai na fyddwch chi'n teimlo mor feddw. Bydd symiau sylweddol o alcohol yn cynyddu'r risg a byddwch yn cael cur pen aruthrol y diwrnod dilynol.
  • Yn yr un modd â'r cyngor i ddefnyddwyr ecstasi: os byddwch yn dawnsio mewn clwb, cofiwch ymlacio a sipian dŵr/sudd yn rheolaidd (peidiwch ag yfed llawer ar y un pryd).
  • Os byddwch yn teimlo'n baranoid, ewch i rywle tawel a diogel. Lleddfwch bryderon eich ffrindiau a sicrhewch hwy fod popeth yn iawn; os byddwch yn fyr eich gwynt, rheolwch eich anadlu; mewnanadlwch trwy eich trwyn, ac allan trwy'r geg.
  • Gofalwch am eich ffrindiau a ffoniwch am ambiwlans os bydd argyfwng.
short term effects

Risgiau tymor byr

Pryder, paranoia, goddefiad.

desired effects

Effaith ddymunol

Ewfforia, bywiogrwydd, hyder.

long term effects

Risgiau tymor hir

Seicosis, dibyniaeth seicolegol.

Tymor Hir:

  • Gall symbylyddion megis amffetaminau achosi seicosis sy'n gysylltiedig a chyffuriau ac achosi salwch seicotig i bobl sydd eisoes â salwch meddwl.
  • Dibyniaeth a symptomau diddyfnu seicolegol difrifol yn sgil defnydd hirdymor.
  • Mae risgiau chwistrellu amffetamin yn cynnwys niweidio'r gwythiennau a'r meinweoedd meddal, firysau a gludir yn y gwaed os rhennir offer, a mwy o risg o gael gorddos.

Tymor Byr:

  • Gorbryder
  • Paranoia
  • Gorddos
  • Pwysedd gwaed hynod o uchel (a pheryglus)
  • Cynnydd yng nghyfradd curiad y galon
  • Coma
  • Trawiad ar y galon
  • Strôc
  • Marwolaeth. Yn 2024, bu 111 o farwolaethau yn sgil cyffuriau yn gysylltiedig ag amffetaminau yng Nghymru a Lloegr
Mae'n symbylu'r brif system nerfol.

Mae amffetamin stryd yn symbylydd sy'n cael ei werthu ar ffurf powdwr llwydwyn fel arfer, ond caiff ei liwio â llifyn bwyd ar brydiau. Mae amffetamin ffres ar ffurf past, a bydd yn troi'n bowdwr wrth ei sychu. Weithiau, gwerthir amffetamin ar y ffurf hon, ac fe'i gelwir yn Base neu Paste. Bydd amffetamin powdwr yn aml yn gynnyrch llai pur, ac er y bydd Base yn aml yn gynnyrch purach, bydd wedi'i lygru'n aml serch hynny.

Mae amffetamin stryd yn gymysgedd o ddau gyfansoddyn cemegol, lefoamffetamin a decsamffetamin, sy'n gryfach ac yn achosi mwy o effeithiau seicolegol. Erbyn hyn, decsamffetamin (decstroamffetamin yw’r enw meddygol arno) yw bron iawn pob un o'r mathau meddygol o amffetamin sydd ar gael yn y DU. Mae'n dal ar gael i drin narcoplepsi (methu â chadw'n effro) a rhai mathau o ADHD ymhlith plant, ond anaml iawn y gwelir cyffuriau meddygol wedi'u dargyfeirio neu eu dwyn yn cael eu gwerthu fel cyffuriau stryd erbyn hyn.
Gellir sniffian powdrau trwy'r trwyn, eu toddi mewn diod, neu eu llyncu ('bombing' yw'r enw am hynny. Gellir paratoi powdrau i'w chwistrellu.
Fel arfer, gwerthir amffetamin anghyfreithlon fel 'gram' neu mewn papur. Os yw'n cael ei snwffian, defnyddir llafn rasel i'w dorri ar arwyneb caled gwastad fel drych neu wydr neu deilsen. Defnyddir tiwb neu arian papur wedi'i rolio fel 'pibell'. Os yw'n cael ei chwistrellu: chwistrell a nodwydd, dŵr, rhwymyn tynhau. Os yw'n cael ei ysmygu: matsis a ffoil.
Gellir defnyddio amffetamin meddygol, sef decsamffetamin sylffad, i drin narcoplepsi, a gorfywiogrwydd mewn plant.
Caiff ei gynhyrchu mewn labordai cudd ym Mhrydain a mannau eraill a'i ddosbarth trwy gyfrwng y farchnad cyffuriau anghyfreithlon.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae cynnydd yn y defnydd o symbylydd wedi arwain rhai asiantaethau i gynnig cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth Cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: