Bensodiasepinau

benzodiazepines
  • Downers
  • Temazzies
  • Vallies
  • Benzos
  • Tranx
  • Tabledi cysgu
  • Tawelyddion
  • Alprazolam
  • Xanax
  • Lorazepam
  • Flurazepam
  • Flurazepam (Dalmane)
  • Oxazepam
  • Chlordiazepoxide (Librium)
  • Diazepam (Valium)
  • Blues
  • Diazes
  • Tranquillisers
  • Street Valium
  • MSJ
  • Phenazepam
  • Temazepam

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Diasepam, Alprasolam (Xanax), Clonasepam, Clobasam, Clonasepam, Fflwrasepam, Clordiasepocsid, Loprasolam, Lorasepam, Lormetasepam, Ocsasepam, Temasepam, Etisolam, Fflwalprasolam, Bromasolam, Fflwbromasolam.

Enwau Generig: Bensodiasepinau. Cyffuriau cwsg a chyffuriau lleddfu gorbryder.

An example of what Benzodiazepinau looks like
Tabledi, capsiwlau

Effeithiau A Ddymunir:

  • Ymlacio
  • Lleihau gorbryder
  • Ewfforia
  • Mae pob bensodiasapen yn tawelyddu ac fe wnânt beri cwsg, ond mae'r effeithiau yn amrywio rhwng gwahanol fathau ohonynt. Bydd rhai yn cychwyn gweithio'n gynnar a bydd eu heffeithiau yn para'n hirach, neu ceir rhai sy'n llawer cryfach nag eraill. Er enghraifft, mae alprasolam (a werthir â'r dan enw brand Xanax) oddeutu 20 gwaith yn gryfach na diasepam, ac mae diasepam oddeutu ddwywaith mor gryf â temasepam.

Sgîl Effeithiau:

  • Syrthni
  • Diffyg cydsymud
  • Llefaru'n aneglur
  • Dryswch
  • Colli cof
  • Mae bensodiasepinau stryd ymhlith y cyffuriau mwyaf llygredig yn y DU. Mae llawer ohonynt yn fathau ffug a gallant gynnwys dos gryfach neu wannach, bensodiasepin cryfach neu gyffur hollol wahanol.
  • Gochelwch rhag y risg o fynd yn gaeth arnynt. Gall eu defnyddio'n ddyddiol am ychydig wythnosau'n unig achos dibyniaeth.
  • Yn achos pobl sydd wedi dod yn gaeth i fensodiasepinau, gall rhoi'r gorau i'w cymryd yn ddisymwth achosi symptomau diddyfnu seicolegol a chorfforol difrifol. Dylech geisio cymorth a chyngor meddygol cyn rhoi'r gorau i'w cymryd.
  • Gall bensodiasepinau achosi gorddos, yn enwedig os defnyddir hwy gydag opioidau megis methadon neu heroin, neu gydag iselyddion eraill megis alcohol.
  • Os byddwch yn defnyddio heroin (neu iselyddion eraill) a bensodiasepinau gyda'i gilydd: Peidiwch â'u defnyddio ar eich pen eich hun (oherwydd ni fydd neb ar gael i'ch helpu os gwnewch chi gael gorddos); Sicrhewch bob amser fod gennych chi gyflenwad o nalocson. Ni wnaiff Nalocson ddadwneud effeithiau bensodiasepinau, ond fe wnaiff ddadwneud effeithiau unrhyw opioidau y byddwch wedi'u cymryd.  
  • Os bydd rhywun yn cael gorddos, ffoniwch am ambiwlans ac arhoswch gydag ef neu hi. Gall ysbytai ddefnyddio cyffur sy'n dadwneud effaith gorddos o fensodiasepinau.
  • Caiff bensodiasepinau eu rhagnodi am ychydig wythnos yn unig oherwydd y risg o fynd yn gaeth iddynt.
  • Mae defnyddio bensodiasepinau stryd i ymdopi â theimladau gorbryderus yn beryglus iawn. Mae'n well ceisio cymorth gan eich meddyg teulu neu wasanaeth proffesiynol a wnaiff efallai eu rhagnodi yn y tymor byr a chynnig cyfle i chi gael triniaethau hirdymor sy'n fwy effeithiol.
  • Peidiwch fyth â chwistrellu bensodiasepinau. Gallant achosi niwed difrifol i wythiennau a meinweoedd meddal.
short term effects

Risgiau tymor byr

Goddefiad, damweiniau, posibilrwydd o orddos os cyfunir ag alcohol.

desired effects

Effaith ddymunol

Ymlacio, llai o bryder, dedwyddwch.

long term effects

Risgiau tymor hir

Dibyniaeth, symptomau rhoi'r gorau difrifol wrth stopio'n sydyn, agoraffobia, pyliau o banig, pryder difrifol.

Tymor Hir:

  • Dibyniaeth. Os bydd rhywun yn rhoi'r gorau i gymryd y cyffur yn ddisymwth, symptomau diddyfnu difrifol.
  • Effeithiau corfforol a meddyliol yn gysylltiedig â defnydd hirdymor.

Tymor Byr:

  • Damweiniau. Gall defnyddio bensodiasepinau beri i chi fod yn agored i niwed a gallai rhywun eich cam-drin neu gamfanteisio arnoch chi.
  • Gorddos a marwolaeth. Yng Nghymru a Lloegr yn 2024, bu 21 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â bensodiasepinau heb gysylltiad ag unrhyw gyffur arall. Fodd bynnag, bydd y risg o gael gorddos yn llawer mwy os defnyddir hwy gydag opioidau megis heroin a methadon neu iselyddion eraill megis alcohol. Yn llynedd, bu 515 o farwolaethau yn gysylltiedig â defnyddio bensodiaspeniau gyda chyffuriau eraill neu alcohol; opioidau oedd y mathau mwyaf cyffredin o gyffuriau eraill.
Mae bensodiasepinau yn cynyddu effeithiau Asid Gama-Aminobwtyrig (GABA) ar yr ymennydd, gan wneud i'r defnyddiwr ymlacio mwy a theimlo’n gysglyd, lleddfu gorbryder a llacio'r cyhyrau.

  • Mae bensodiasepinau yn fath o gyffur a gaiff ei ragnodi i leddfu gorbryder a pheri cwsg. Caiff bensodiasepinau a ragnodir yn gyfreithlon yn y DU eu cyflenwi mewn blychau â brand cwmni arnynt sy'n cynnwys paciau pothellog â thabledi neu bils ynddynt.
  • Efallai bydd bensodiasapenau ffug a werthir yn y farchnad cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu gwerthu mewn bagiau snap, ac weithiau, bydd y rhain wedi'u cynhyrchu'n wael. Fodd bynnag, gall bensodiasepinau hefyd gael eu cyflenwi mewn blychau ffug â brand arnynt yn cynnwys paciau pothellog. Yn aml iawn, bydd yn amhosibl gwahaniaethu rhwng y mathau ffug a meddyginiaethau cyfreithlon trwy edrych arnynt.
  • Mae rhai mathau ffug yn cynnwys bensodiasapen gwahanol sydd ar brydiau yn llawer cryfach na'r un a nodir ar y deunydd pacio. Mae rhai mathau ffug wedi cynnwys ystod o gyffuriau eraill, yn cynnwys rhai llawer iawn mwy peryglus yn achos rhai. Y llynedd, canfuwyd bod rhai bensodiasepinau stryd yn cynnwys opioidau synthetig cryf. Gwerthir bensodiasapenau stryd ar ffurff powdwr hefyd.
  • Gwerthir bensodiasapenau stryd ar ffurff powdwr mewn bagiau ‘snap’ hefyd.
  • Trwy'r geg yn bennaf.
  • Weithiau, caiff y powdwr neu dabledi wedi'u malu'n fân eu sniffian.
  • Rhoddir bensodiasepinau yn fewnwythiennol mewn lleoliadau meddygol, ond anaml iawn y cânt eu chwistrellu fel cyffuriau stryd oherwydd maent yn cynnwys llawer iawn o lenwad sy'n niweidiol iawn i wythiennau a meinweoedd meddal.
  • Gellir cymryd bensodiasepinau yn rhefrol (i fyny'r pen ôl) mewn lleoliadau meddygol, ond nid yw hyn yn ddull poblogaidd o'u defnyddio fel cyffur stryd.
  • Cafwyd adroddiadau am bobl yn eu paratoi mewn e-hylif ac yn eu defnyddio mewn e-sigaréts.
Os yw'r tabledi yn cael eu malu a'u chwistrellu: nodwyddau a chwistrellau, dŵr, matsis neu daniwr, llwy, rhwymyn tynhau.
Rhagnodir bensodiasepinau i leddfu gorbryder difrifol am gyfnod byr (rhwng dwy a phedair wythnos yn unig). Defnyddir hwy hefyd i drin anhunedd difrifol ac i atal ffitiau, yn ogystal â sawl defnydd meddygol arall.
  • Caiff brandiau generig eu mewnforio o wledydd eraill.
  • Prynir mathau ffug ar y stryd neu mewn siopau.
  • Gallai meddyginiaethau cyfreithlon ddeillio o gyflenwadau wedi'u dargyfeirio neu gellid eu cael gan feddygon teulu neu trwy gyfrwng presgripsiynau ar-lein.
  • Gall bensodiasepinau stryd fod yn fersiynau ffug o fensodiasepinau a ragnodir, neu efallai eu bod yn fensodiasepinau 'gwahanol' sydd wedi'u cynhyrchu'n benodol i'w defnyddio fel cyffuriau stryd mewn labordy mewn gwledydd megis Tsieina. Gall y rhain gynnwys bensodiasepinau sydd wedi cael newid cemegol bychan i osgoi gofynion y gyfraith, er enghraifft, fflwalprasolam, sy'n debyg i alprasolam.
  • Bydd y bensodiasepinau a ddefnyddir yn y mathau ffug hyn yn newid yn gyflym.  Bromasolam a fflwbromasolam yw'r mathau ffug mwyaf cyffredin sy'n ymddangos yn y DU ar hyn o bryd.
Mae Benzodiazepinau'n gyffuriau caethiwus iawn yn gorfforol. Gall symptomau rhoi'r gorau fod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed yn fygythiad bywyd wrth stopio eu cymryd yn stop stond. Mae'n bwysig bod Benzodiazepinau'n cael eu lleihau'n raddol gan ddefnyddio rhaglen arbennig. Meddyg Teulu yw'r cyrchfan cyntaf i unrhyw un sy'n dymuno lleihau neu stopio defnyddio'r cyffuriau hyn a gall MT hefyd ragnodi cynllun lleihau i ddod oddi arnynt yn raddol bach. Gall MT hefyd gyfeirio at wasanaeth cyffuriau cymunedol neu ' asiantaeth stryd' i ddarparu cefnogaeth bellach ar ffurf gwybodaeth a chyngor, cwnsela ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol megis aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: