Benzofuran Compounds

benzofuran-compounds
  • 6-MAPDB
  • 6-MAPB
  • 6-APDB
  • 6-APB
  • 5-MAPB
  • 5-EAPB
  • 5-APDB
  • 5-APB
  • White Pearl
  • Benzofury

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 6-(2-aminopropyl)benzofuran (6-APB) or
1-(benzofuran-6-yl)propan-2-amine 5-(2-aminopropyl)benzofuran (5-APB)

Enwau Generig: Cyfansoddion Benzofuran

An example of what Benzofuran Compounds looks like
Powdr a all fod yn wyn neu bron yn wyn/melyn/brown, tabledi, pelenni, capsiwlau o amrywiol liwiau.

Effeithiau A Ddymunir:

Tebyg i ewfforia esctasi (MDMA), mwy o egni, empathi ag eraill, teimlo 'yn rhan o' amgylchedd a cherddoriaeth.

Sgîl Effeithiau:

Anhunedd, cyfradd calon cyflymach a thymheredd, pryder, teimlo'n sâl a chwydu,

Tymor Hir:

Niwed i'r galon yn sgil gwenwyno cardiaidd, seicosis, mae sawl marwolaeth wedi bod yn gysylltiedig â defnyddio cyfansoddion benzofuran.

Tymor Byr:

Panig, ffwndro, cynnwrf ac ymosodedd, paranoia.
Mae cyfansoddion benzofuran yn deillio o'r dosbarthiadau phenethylamine ac amphetamine, sy'n sylweddau sy'n cael effaith debyg i 'sbîd' (amffetamin) ac ecstasi (MDMA).
Gellir llyncu tabledi, pelenni a chapsiwlau, gellir mewnanadlu'r powdr drwy'r trwyn, neu ei lyncu drwy ei lapio mewn papur sigarét.
Dim.
Datblygwyd 6-APB gan ymchwilwyr yn gyntaf yn y 1990au wrth ymgymryd ag ymchwil i amrywiaethau annewrodocsid MDMA.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae rhai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: