Buvidal

other

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Buvidal® rhyddhad graddol chwistrelladwy

Enwau Generig: Buprenorphine- rhyddhad graddol chwistrelladwy

Chwistrell wedi'i lenwi eisoes sydd yn cynnwys hylif clir melynaidd neu felyn

Effeithiau A Ddymunir:

Oherwydd iddo fod yn fformiwleiddiad rhyddhau graddol, credir mai bach iawn yw effeithiau tebyg i ewfforia

Sgîl Effeithiau:

Adwaith yn y fan lle rhoddir y pigiad, teimlo’n gysglyd, iselder anadlol (yn fwy tebygol o'i gymryd ar yr un pryd ag iselyddion y system nerfol ganolog eraill)
Ni roddir y feddyginiaeth hon i unigolyn gadw yn ei feddiant, fe’i gweinyddir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol bob tro

Tymor Hir:

Dibyniaeth

Tymor Byr:

Diddyfnu opioid sydyn (os caiff ei gymryd yn rhy fuan ar ôl gweithydd opioid llawn), goddefgarwch, damweiniau / gorddos (oherwydd iselder y system nerfol ganolog), syndrom serotonin, niwed i’r iau
Iselydd y system nerfol ganolog, poenliniarydd opioid
Fe’i rhoddir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol o dan y croen (yn y pen-ôl, y glun, yr abdomen neu ran uchaf y fraich) naill ai unwaith yr wythnos neu unwaith y mis, gyda'r posibilrwydd y derbynir dosau ychwanegol yn y cyfamser i alluogi optimeiddio dos a rheoli symptomau diddyfnu opioid os oes angen.
Ni roddir y feddyginiaeth hon i unigolyn gadw yn ei feddiant: caiff ei roi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol bob tro
I drin dibyniaeth opioid
Opioid cymysg synthetig sy'n gweithio ar dderbynyddion opioid yn yr ymennydd ac yn eu blocio hefyd. Cyflenwir hwn gan gynhyrchwyr rheoledig ac fe’i rhagnodir i unigolion.
Oherwydd bod y feddyginiaeth hon yn rhyddhau'n araf a’i fod ym meddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol bob amser a hefyd yn cael ei weinyddu ganddynt, ni chredir bod fawr o risg o ddargyfeirio o'i gymharu â fformwleiddiadau buprenorphine sy’n cael eu cymryd drwy’r geg. Mae gwasanaethau trin cyffuriau arbenigol yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys cyngor ar leihau niwed a chymorth seicogymdeithasol yn ogystal ag ymyriadau rhagnodedig fel Buvidal®. Ond, dim ond lle mae'r gwasanaeth trin cyffuriau yn cael ei ariannu i ddarparu'r feddyginiaeth hon a bod yno staff cymwys a hyfforddedig i allu ei roi y mae Buvidal® yn opsiwn ar gyfer triniaeth. Efallai y bydd fferyllfeydd cymunedol neu bractisau meddygon teulu hefyd yn gallu rhoi’r feddyginiaeth hon mewn rhai ardaloedd. Mae hyn yn dibynnu ar sut y trefnir y gwasanaethau trin cyffuriau’n lleol. Os bydd unrhyw broblemau’n codi, dylid cysylltu â'r rhagnodwr perthnasol. Dylid rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau andwyol drwy ddefnyddio'r system cerdyn melyn: https://yellowcard.mhra.gov.uk/
Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: