Bwprenorffin

buprenorphine
  • Suboxone
  • Subutex (‘Subbies’)
  • Swbocson
  • Temgesic
  • Teffin
  • Natson
  • Preffibin
  • Espranor
  • Buvidal
  • Brunov
  • Bwpramyl
  • Butec
  • Panitaz
  • Rebrikel
  • Sevodyne
  • Carlosaffin
  • Sixmo
  • Zubsolv

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: (1S,2S,6R,14R,15R,16R)-5-(cyclopropylmethyl)-16-[(2S)-2-hydroxy-3,3-dimethylbutan-2-yl]-15-methoxy-13-oxa-5-azahexacyclo[13.2.2.12,8.01,6.02,14.012,20]icosa-8(20),9,11-trien-11-ol

Enwau Generig: Bwprenorffin. Opioid

An example of what Bwprenorffin looks like
Mae tabledi Suboxone ar gael mewn dosau 2mg ac 8mg isdafodol.

Effeithiau A Ddymunir:

Atal symptomau diddyfnu opiadau a galluogi pobl sy'n gaeth i opioidau stryd i gael sefydlogrwydd yn eu bywyd. Mae Bwprenoerffin yn gyffur ysgafnach na heroin, ond caiff ei ddefnyddio fel cyffur stryd serch hynny. Roedd Swbocson yn boblogaidd mewn carchardai ble byddai'n aml yn cael ei falu'n fân a'i sniffian. Pan gânt eu defnyddio fel cyffuriau stryd, ewfforia, llai o orbryder, ymlacio.

Sgîl Effeithiau:

  • Rhythm calon annormal
  • Dryswch
  • Rhwymedd
  • Pendro
  • Syrthni
  • Ceg sych
  • Rhithweledigaethau
  • Cur pen
  • Chwysu
  • Cyfog a chwydu (yn fwy cyffredin wrth gychwyn cymryd y cyffur)
  • Crychguriadau'r galon
  • Cyfradd anadlu arafach (yn sgil dosys mwy)
  • Adweithiau ar y croen
  • Ataliad wrin
  • Pendro
  • Syndrom diddyfnu
  • Os caiff ei gymryd yn unol â'r presgripsiwn, mae Bwprenorffin yn ddiogel iawn.
  • Gall fod yn beryglus iawn os caiff ei gymysgu â bensodiasepinau ac alcohol.
  • Os defnyddir cyffuriau opioid eraill, er y caiff eu heffeithiau eu rhwystro gan y Bwprenorffin, gallant orlethu'r Bwprenorffin maes o law ac achos gorddos anfwriadol.

Tymor Hir:

Mae bwprenorffin yn opioid, felly gall defnydd hirdymor honno achosi caethiwed corfforol.

Tymor Byr:

Mae Bwprenorffin yn opioid felly gallai achosi gorddos, yn enwedig os caiff ei gymysgu ag iselyddion eraill megis alcohol neu bensodiasapinau. Fodd bynnag, mae effeithiau bwprenorffin yn llawer ysgafnach na rhai methadon neu heroin, felly mae'r risg o gael gorddos marwol yn is.
Mae Bwprenorffin yn opioid lled-synthetig. Bydd y cyffur hwn yn actifadu derbynyddion opioidau yn rhannol yn unig, sy'n golygu mai rhannol yw ei effaith o ran ysgogi derbynyddion opioidau yn yr ymennydd, felly mae'r effeithiau yn ysgafnach na gweithyddion opioid megis heroin. Mae nalocson wedi'u ychwanegu at Bwprenorffin oherwydd mae'n weithydd opioid - mae'n rhwystro effeithiau'r opioidau, a dyna pam mae'n cael ei ddefnyddio fel gwrthwenwyn yn sgil gorddos opioid.

Mae Bwprenorffin yn gyffur opioid i leddfu poen, ond caiff ei ddefnyddio yn bennaf i drin dibyniaeth ar opioidau megis heroin. Mae Bwprenorffin yn gyffur opioid, felly mae ei effeithiau yn debyg i rai heroin ond maent yn llawer ysgafnach, a cheir llai o risg o gael gorddos. Mae Bwprenorffin ar gael fel tabled (Subutex, Temgesic) neu waffer (Espranor), a chaiff y ddau eu toddi ar y tafod (isdafodol), eu defnyddio ar ffurf pats ar y croen, mewnblaniad neu ar ffurf cyffur chwistrelladwy rhyddhad araf (Buvidal).

Mae Bwprenoffin hefyd ar gael ar ffurf tabled neu ffilm isdafodol yn gymysg â nalocson (Suboxone, Subsolve). Nalocson yw'r cyffur a ddefnyddir fel gwrthwenwyn yn sgil gorddosau opioidau. Os cymerir y rhain yn isdafodol yn unol â'r presgripsiwn, ni fydd y nalocson yn achosi unrhyw effeithiau. Fodd bynnag, os chwistrellir hwy, caiff y nalocson ei actifadu, gan achosi symptomau diddyfnu sy'n atal camddefnydd trwy bigiad.
Fel tabled neu waffer isdafodol, fel pats ar y croen, mewnblaniad, neu ar ffurf cyffur rhyddhad araf y gellir ei chwistrellu. Fel cyffur stryd, caiff ei sniffian neu ei chwistrellu.
Os yw'r tabledi'n cael eu chwistrellu: nodwyddau a chwistrellau, dŵr, matsis neu daniwr, llwy.
Defnyddir fel triniaeth amnewid ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau opioid. Fe'i defnyddir hefyd fel cyffur lladd poen.
Trwy bresgripsiwn. Caiff ei ddargyfeirio o gyflenwadau gwneuthurwyr, fferyllfeydd a phresgripsiynau meddygon teulu.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol, yn cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, dadwenwyno a rhagnodi i rai sy'n defnyddio opiadau, grwpiau cefnogi a gwasanaethau eraill fel aciwbigo. Mae rhai'n agor am oriau hirach ac weithiau ar benwythnosau. Gall meddygon teulu ac ysbytai atgyfeirio at wasanaethau fel Unedau Dibyniaeth Cyffuriau. Mae'r rhain fel arfer mewn ysbytai neu gerllaw iddynt ac maen nhw'n arbenigo mewn helpu defnyddwyr cyffuriau problemus, yn enwedig unigolion sy'n gaeth i gyffuriau opioid. Maen nhw'n cynnig cwnsela, dadwenwyno, rhagnodi amnewidion a thriniaethau eraill. Mae gwasanaethau preswyl yn cynnig rhaglenni triniaeth i rai sy'n gaeth iawn i gyffuriau ac sy'n ymdrechu i roi'r gorau iddi. Rhaid i breswylwyr fod yn rhydd o gyffuriau wrth gael eu derbyn fel arfer, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu dadwenwyno cyn mynd i mewn. Fel arfer, mae rhaglenni'n para 3-6 mis, ond mae rhai rhaglenni 12 cam yn para mwy. Mae'r mathau o raglenni yn amrywio. Mae grwpiau hunan gymorth fel Narcotics Anonymous (NA) yn cydlynu grwpiau cefnogi lleol i rai sy'n defnyddio cyffuriau ar hyd a lled y wlad. Mae Families Anonymous yn cynnal grwpiau tebyg i deuluoedd rhai sy'n defnyddio cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: