BZP

bzp
  • Ewfforia
  • Pep
  • Nemesis
  • Frenzy
  • A2
  • Piperazine

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: 1-benzylpiperazine

Enwau Generig: Piperazine. Eraill yn y dosbarth Piperazine o gemegolion yn cynnwys 2C-B-BZP, DCPP, DBZP, MBZP, TFMPP ymysg eraill.

An example of what BZP looks like
Ar ôl ei gynhyrchu gall Piperazine fod mewn amrywiol ffurfiau a siapiau. Gall tabledi fod mewn amrywiol liwiau a gallent fod a symbolau wedi'u boglynnu arnynt; mae'r rhain yn amrywiol iawn er enghraifft wyneb, calon, pili pala, aderyn, seren ayb. Gellir eu gwerthu hefyd ar ffurf powdr heb fod yn glaer wyn ac fel hylif.

Effeithiau A Ddymunir:

Effeithiau'n debyg i amffetaminau ac ecstasi. Teimlo'n effro, llawn egni ac ewfforia.

Sgîl Effeithiau:

Chwydu a phoen bol, ceg sych, cyffro a phryder, curiad calon afreolaidd, dolur rhydd, adweithiau alergaidd, twymyn a ffitiau. Methu cysgu a 'phen mawr' syn para am hir yn ogystal â golwg aneglur a chur pen.

Tymor Hir:

Ni wyddom hyd yn hyn beth yw'r risgiau tymor hir, ond gallent gynnwys methiant resbiradol, gwenwynder serotonin a chymhlethdodau meddygol eraill o ganlyniad i wenwynder. Mae gan BZP y potensial ar gyfer dibyniaeth seicolegol a phroblemau iechyd meddwl.

Tymor Byr:

Seicosis llym, gwenwynder arennol a thrawiadau.
Symbylydd yw BZP sy'n effeithio'n debyg i amffetaminau ac ecstasi; gall effeithio am rhwng 4-8 awr.
Gellir cael BZP fel arfer ar ffurf powdr, tabled neu gapsiwl, felly eu llyncu a wneir fel arfer. Fodd bynnag, gellir snwffian neu ysmygu'r powdr. Gellir ei ddefnyddio'n fewnwythiennol hefyd, ond mae hyn yn brin iawn. Ni argymhellir cymryd yr hylif cychwynnol- rhydd drwy'r geg, oherwydd ei natur rhydol a bydd yn llosgi.
Dim.
Credir iddo gael ei ddatblygu'n wreiddiol yn y 1950au fel cyffur gwrth-barasitig i'w ddefnyddio ar anifeiliaid fferm, ond cefnwyd arno fel triniaeth llyngyr oherwydd y sgil effeithiau. Nid yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer triniaethau meddygol o gwbl ar hyn o bryd.
Mae Piperazine yn ddosbarth eang o gymysgedd cemegol. Mae BZP yn deillio o piperazine, sy'n dod fel un ai halen hydroclorid neu hylif cychwynnol rhydd. Mae'r halen hydroclorid yn soled a gwyn, ond mae'r ffurf gychwynnol yn hylif ychydig yn felyn-wyrdd. Mae'r ffurf gychwynnol yn rhydol a gall achosi llosgiadau. Defnyddir Piperazine hefyd i gynhyrchu plastig, resin, plaladdwyr, hylif breciau a deunyddiau diwydiannol eraill.
Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, cyfnewid nodwyddau ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae'r cynnydd mewn deunydd o symbylydd wedi arwain at rai asiantaethau'n cynnig gwasanaethau arbennig megis cwnsela arbenigol, therapi ymddygiad gwybyddol, aciwbigo a therapïau amgen eraill a rhagnodi gwrthiselydd a chyfeiriadau posibl at adsefydlu preswyl. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Gall meddygon teulu a'r adran achosion brys yn yr ysbyty lleol efallai wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau yn ogystal â gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwybodaeth a chyngor, yn aml mewn partneriaeth ag asiantaeth cyffuriau neu Uned Dibyniaeth ar Gyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: