Caffein

caffeine
  • Tabledi diet
  • Diodydd ysgafn
  • Diodydd egni
  • Siocled
  • Te
  • Coffi
  • Cola

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Caffein

Enwau Generig: Caffein

An example of what Caffein looks like
Ar ei ffurf naturiol pur, mae'n alcaloid crisialaidd chwerw ei flas, sy'n gweithio fel cyffur symbylu a diwretig ysgafn. Fe'i ceir mewn coffi, te, coco, diodydd meddal megis cola a diodydd egni.

Effeithiau A Ddymunir:

  • Symbylu ysgafn
  • Bywiogrwydd
  • Lleihau blinder.

Sgîl Effeithiau:

  • Anhunedd
  • Tensiwn
  • Crychguriadau'r galon
  • Pryder.

Tymor Hir:

Mae llawer iawn o bobl yn defnyddio caffein yn ddyddiol heb broblemau, ond gall defnydd gormodol o'r cyffur achosi goddefedd a symptomau diddyfnu i rai. Fodd bynnag, bydd y symptomau hyn yn para diwrnod yn unig. Gall caffein waethygu nifer o gyflyrau iechyd meddwl, ond efallai y gallai wella rhai eraill.

Tymor Byr:

  • Gall gorddos o gaffein achosi gorsymbylu ac mae'r symptomau yn cynnwys aflonyddwch, gorgyffro ac anhunedd.   Gallai hyn ddigwydd pan yfir gormod o goffi cryf neu ddiodydd egni y mae llawer o gaffein wedi'i ychwanegu atynt. Er bod hynny'n bosibl, mae gorddos angeuol yn brin iawn, ac mae hynny wedi digwydd yn sgil cymryd dosys cryf iawn mewn tabledi neu bowdwr, yn hytrach nag yfed un cappuccino yn ormod.
  • Gall caffein gynyddu'r risgiau pan gaiff ei ddefnyddio gyda symbylyddion anghyfreithlon.
  • Gall gaffein gynyddu pwysedd y gwaed felly mae pobl sydd â gorbwysedd wedi cael eu cynghori i osgoi yfed diodydd caffeinig neu ddiodydd egni.
  • Cynghorir merched beichiog i beidio a chymryd mwy na 200mg o gaffein y dydd.
Symbylu'r brif system nerfol, diwretig.

Mae caffein yn gyffur sy'n symbylydd ysgafn. Mae caffein naturiol pur yn alcaloid crisialog gwyn a chwerw sy'n symbylydd ac yn ddiwretig ysgafn.
Fel arfer, caiff ei yfed (diodydd), ei fwyta (siocled) neu ei lyncu (tabledi a thrwythau).
Pot coffi i wneud y coffi, tebot i wneud te, melysydd, llaeth
Mewn meddyginiaethau fferyllol i helpu i liniaru blinder a lludded, ac efallai ei fod mewn rhai tabledi diet hefyd.
Mae Caffein yn sylwedd sy'n cael ei gynhyrchu'n naturiol mewn mwy na 60 o fathau o blanhigion sy'n cael eu tyfu mewn sawl rhan o'r byd. Mae planhigion yn cynnwys caffein yn cael eu defnyddio ers miloedd o flynyddoedd, a chaffein yw'r cyffur seicoweithredol sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf ledled y byd. Ceir caffein mewn coffi, te, diodydd ysgafn megis cola, diodydd egni a siocled. Caiff ei ddefnyddio mewn nifer o feddyginiaethau sydd ar gael o fferyllfeydd heb bresgripsiwn. Caiff ei ddefnyddio hefyd i swmpuso symbylyddion cyfreithlon ac anghyfreithlon.
Mae rhai pobl â phroblemau difrifol â chaffein. Bydd yfwyr coffi trwm yn sôn am gur-pen a symptomau diddyfnu eraill wrth newid i yfed fersiynau heb gaffein. Mae'r rhain yn symptomau dros dro, a phrin iawn, ond mae'n digwydd, a gall y rhai sy'n gaeth i goffi fod yn dioddef â symptomau 'caffeinistiaeth' a byddant yn cyflwyno mewn asiantaethau cyffuriau. Gall MT gefnogi pobl sydd yn dioddef o gur-pen a symptomau eraill sy'n gysylltiedig â diddyfnu caffein, byddai angen atgyfeiriad at gefnogaeth bellach pe bai angen. Gall asiantaethau cwnsela fod yn briodol ac maen nhw wedi cael cleientiaid yn adrodd eu bod yn yfed llawer iawn - sawl litr y dydd - o ddiodydd cola yn cynnwys caffein. Mae 'asiantaethau stryd' neu brosiectau, (a elwir weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd, sy'n cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela, ac weithiau grwpiau cefnogi a therapïau cyflenwol fel aciwbigo. Mae gan rai gwasanaethau oriau gwaith estynedig ac mae rhai'n cynnig cefnogaeth ar benwythnosau. Os yw defnyddio'r sylwedd hwn yn dod yn broblem, gallwch chwilio am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal. Gall meddygon teulu wneud cyfeiriadau at wasanaethau arbenigol cyffuriau.

Rhieni a pherthnasau eraill

Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

Cuddio
Ffôn di-dal: