Canabis (crynodiadau)

cannabis-concentrates
  • Butane hash oil
  • Butane honey oil
  • BHO
  • Honey oil
  • Shatter
  • Dab
  • Weed wax
  • Ear wax
  • Budder
  • Bubble hash
  • Rosin
  • Cannabis oil
  • Cannabis hash oil
  • THC oil
  • THC vape pens
  • Dab rigs
  • Oil rigs

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: THC (tetrahydrocanabinol) yw'r cemegyn mewn crynodiadau canabis sy'n gyfrifol am yr effaith seicoweithredol.

Enwau Generig: Crynodiadau canabis

An example of what Canabis crynodiadau looks like

Effeithiau A Ddymunir:

  • Ewfforia
  • Ymlacio (teimlo'n hamddenol iawn)
  • Cynyddu cymdeithasgarwch a chwantusrwydd
  • Giglan neu feddwl bod unrhyw beth yn ddoniol a/neu'n hynod o ddiddorol, gwerthfawrogi cerddoriaeth ac ati.
  • Bydd pobl yn defnyddio canabis oherwydd ystod eang o resymau yn amrywio o allu meddwl yn greadigol i leddfu diflastod.
  • Bydd yr effeithiau yn dibynnu ar gryfder y dos o THC y byddwch yn ei chymryd. Gall crynodiadau gynnwys lefelau uchel iawn o THC, felly gall fod yn anodd iawn gwybod pa mor gryf yw dosys bychan neu wybod faint o THC sydd mewn hylif ar gyfer e-sigaréts (mae llawer o gynhyrchion cyfreithlon o'r DU wedi'u labelu'n anghywir hyd yn oed). Bydd dos rhy uchel yn llawer mwy tebygol o achosi effeithiau annymunol.

Sgîl Effeithiau:

  • Gorbryder
  • Paranoia
  • Dryswch
  • Gostyngiad bychan ym mhwysedd y gwaed a chyfradd curiad y galon
  • Colli cof dros dro
  • Mwy o archwaeth ('munchies' yw'r enw am hyn)
  • Llygaid gwaetgoch a phinc.
  • Efallai y gwnaiff canabis wneud i chi gysgu gormod neu beidio â chysgu digon.
  • Mae crynodiadau lawer iawn yn gryfach na chanabis llysieuol arferol, ac mae'n llawer anoddach gwybod faint yn union yw cryfder y dos. Yn sgil hynny, efallai y bydd yn llawer mwy tebygol o achosi teimlad penfeddw llethol o gryf a sgil effeithiau annymunol, yn enwedig yn achos pobl sy'n ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
  • Mae crynodiadau canabis yn cynnwys llawer iawn mwy o THC, felly gall yr effeithiau fod yn llawer iawn cryfach nag ysmygu canabis llysieuol neu defnyddio canabis llysieuol mewn e-sigarét. Mae'n well cychwyn bod tro â'r ddos leiaf posibl i ganfod pa mor gryf yw'r hylif. Gwir yw'r hen ddywediad: "Gallwch bod amser gymryd mwy, ond allwch chi fyth gymryd llai".
  • Er bod defnyddio crynodiadau mewn e-sigaréts yn osgoi risg mewnanadlu mwg, ceir pryderon y gall 'dabio' fod yn niweidiol iawn i'r ysgyfaint.
  • Peidiwch â mewnanadlu'n rhy ddwfn - gallai hynny achosi mwy o niwed ac ni fyddwch chi'n teimlo'n fwy penfeddw.
  • Os byddwch yn cychwyn teimlo'n baranoid neu’n ‘ffricio’, ewch i rywle tawel ble gallwch deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Bydd y paranoia'n diflannu ymhen rhyw awr, pan fydd effaith y canabis yn diflannu.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n llegach ac yn chwydu ('whitey' yw enw Saesneg y profiad hwnnw), arhoswch gyda'ch ffrind a sicrhewch ei fod yn eistedd yn gefnsyth, ond peidiwch â'i orfodi.  Mae rhai pobl yn credu bod yfed diod sy'n cynnwys llawer o siwgr yn fuddiol, ond peidiwch â gorfodi neb i yfed unrhyw beth.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n sâl neu’n ‘ffricio’ ar ôl cymryd canabis, arhoswch gyda hwy i'w tawelu a'u cysuro. Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi. Os byddwch yn bryderus iawn am ffrind, bydd yn well ffonio i ofyn am gymorth.
  • Wrth i'ch goddefedd gynyddu, byddwch yn cychwyn defnyddio mwy i brofi'r un effaith. Gall pethau fynd dros ben llestri ac achosi caethiwed. Bydd defnyddio crynodiadau'n rheolaidd yn golygu y bydd eich goddefedd yn cynyddu'n gyflymach nag wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol. Felly, byddwch yn fwy tebygol o ddod yn gaeth.
  • Ceisiwch beidio â'i ddefnyddio bob dydd, peidiwch â'i gymryd ar ddiwrnodau penodol, yn enwedig os oes yn rhaid i chi astudio at arholiad.
  • Mae crynodiadau canabis yn ddrud iawn. Peidiwch â chymryd canabis pan na fydd gennych waith na benthyca arian i dalu amdano. Prynwch beth allwch ei fforddio a dim mwy.
  • Os byddwch yn pryderu am eich defnydd, defnyddiwch lai neu stopiwch ei ddefnyddio. Mae gwasanaethau ar gael a all helpu pobl sy'n credu bod canabis yn broblem iddynt.

Tymor Hir:

Er mai prin yw'r ymchwil ynghylch defnydd hirdymor o rai o'r crynodiadau mwyaf newydd, maent yn cyflenwi symiau hynod o sylweddol o THC i'r corff yn gyflym, felly credir y ceir risg uwch o ddod yn gaeth iddynt a bod defnyddwyr yn fwy tebygol o brofi gorbryder, cynnwrf, pananoia a seicosis.

Tymor Byr:

  • Mae'r rhain yn gynhyrchion crynodedig sy'n gallu bod 5 gwaith yn gryfach, felly mae'n debyg bod y risg o brofi dryswch, colli cof, paranoia, cyfog, damweiniau ac ati yn llawer uwch nag yn achos canabis llysieuol.
  • Er bod olew/hylif e-sigaréts THC/Canabis anghyfreithlon a chryf iawn ar gael yn y DU, mae nifer fawr o samplau wedi cael eu profi, a chanfuwyd nad ydynt yn cynnwys unrhyw THC, ac yn hytrach na hynny, maent yn cynnwys canabinoidau synthetig hynod o wenwynol.
  • Profwyd sampl o hylif THC ar gyfer e-sigaréts yn y DU yn 2023, a chanfuwyd ei fod yn cynnwys THC ac asetad fitamin E. Bydd defnyddio'r cynnyrch hwn mewn e-sigarét yn cynnwys ceten, sylwedd gwenwynig hynod o gryf sy'n niweidio'r ysgyfaint. Rhwng 2019 a 2020, roedd e-sigaréts THC a oedd yn cynnwys asetad fitamin E yn gyfrifol am bron iawn 3,000 o dderbyniadau i adrannau achosion brys ysbytai a 68 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau.
Mae canabis yn effeithio ar nifer o niwrodrosglwyddyddion gwahanol yn yr ymennydd, felly ceir ystod eang o effeithiau. Mae wedi cael ei ddosbarthu yn gyffur rhithbeiriol, ond prin iawn yw'r rhithweledigaethau a achosir ganddo. Bellach, mae'n fwy cyffredin ei ddosbarthu'n ganabinoid.

Mae crynodiadau canabis yn gynhyrchion sy'n cael eu gwneud trwy dynnu'r THC o olew canabis. Gallant fod yn hylifau, cwyrau, yn debyg i fenyn neu'n solidau ac maent yn gryf iawn, oherwydd maent yn cynnwys 5 gwaith yn fwy o THC na chanabis llysieuol cryf. Gallant fod yn lled dryloyw neu'n anhryloyw, ac mae'r lliw yn amrywio o liw euraidd i felyngoch a brown tywyll. Pan werthir crynodiadau canabis ar ffurf hylif i'w ddefnyddio mewn e-sigaréts neu e-sigaréts parod i'w defnyddio, mae'n glir neu'n cynnwys lliw, ac weithiau, ychwanegir cyflasynnau ato. Oherwydd eu cryfder, yn aml iawn, gwerthir symiau bychan o grynodiadau, ac efallai y byddant yn costio mwy o'u cymharu â chynhyrchion canabis eraill.
Yn achos yr hyn a elwir yn 'Butane Hash/Honey Oil' (BHO), defnyddir teclynnau 'bong' arbennig a elwir yn ‘oil rigs’ neu ‘dab rigs’. Mewn 'bong' o'r fath, ceir hoelen wydr neu ditaniwm y gellir ei chynhesu, ac weithiau, gellir defnyddio chwythlamp i wneud hynny. Yna, caiff rhywfaint o'r BHO ei ysmygu trwy ei ddabio ar yr hoelen sydd wedi'i chynhesu cyn mewnanadlu'r mwg. Mae mathau eraill o grynodiadau ar gael ar ffurf e-hylifau y gellir eu defnyddio mewn e-sigarét arferol.
Cynhyrchion meddyginiaethol seiliedig ar ganabis (CBMPs) yw enw meddyginiaethau sy'n cynnwys dosys amrywiol o THC a/neu CBD sydd wedi cael eu tynnu o'r planhigyn canabis a'u puro. Gall meddygon sydd â thrwyddedau arbennig ragnodi meddyginiaethau sydd â lefelau sylweddol iawn o THC. Ar hyn o bryd, trwyddedir y defnydd o rin canabis i drin sbastigedd difrifol yn achos cleifion sydd â sglerosis gwasgaredig. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod tystiolaeth dda iawn i gadarnhau y gall reoli epilepsi cyfnod plentyndod yn hynod o effeithiol. Er y ceir nifer o honiadau eraill ynghylch potensial canabis fel meddyginiaethau i drin cyflyrau eraill, nid yw'r dystiolaeth yn bendant o gwbl.
Mae olew canabis traddodiadol wedi cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio nifer o ddulliau hynafol i greu olew du syrypaidd a thrwchus. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau mwy newydd i dynnu'r THC o'r planhigyn canabis wrth gynhyrchu crynodiadau canabis modern. Weithiau, bydd enwau'r cynhyrchion hyn yn cyfeirio at y dull o'u cynhyrchu, e.e. ‘butane hash oil’ neu ‘BHO’ neu at eu golwg a'u lliw, e.e. ‘honey oil’. Mae crynodiadau canabis eraill megis ‘shatter’ yn solidau neu'n gwyrau. Mae ymdrechion i gynhyrchu BHO cartref wedi achosi ffrwydradau. Yn achos dull newydd arall o gynhyrchu crynodiadau a elwir yn ‘Rosin’, defnyddir pethau cyffredin megis gefeiliau sythu gwallt a phapur gwrthsaim.
Cuddio
Ffôn di-dal: