Canabis (cynhyrchion bwytadwy)

cannabis-edibles
  • Cannabis cookies
  • Cannabis brownies
  • Cannabis gummies
  • THC gummies
  • Cannabis candy
  • Cannabis chocolate
  • Cannabis butter
  • Cannabis cake
  • Cannabis drinks
  • Cannabis cookery

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: THC (tetrahydrocanabinol).

Enwau Generig: Cynhyrchion canabis bwytadwy

An example of what Canabis cynhyrchion bwytadwy  looks like

Effeithiau A Ddymunir:

Defnyddir cynhyrchion canabis bwytadwy fel ffasiwn gan bobl sydd ddim yn hoffi ysmygu neu ddefnyddio e-sigaréts, ac yn rhannol oherwydd ystyrir eu bod yn llai amlwg ac nid oes ganddynt arogl. Mae'r prif effeithiau dymunol yr un fath ag yn achos dulliau eraill o ddefnyddio canabis: Ewfforia, ymlacio, mwy o gymdeithasgarwch, chwantusrwydd ayyb.

Sgîl Effeithiau:

Pan fwyteir cynhyrchion canabis bwytadwy, efallai bydd angen disgwyl awr neu ragor cyn teimlir yr effeithiau, a gall yr effeithiau fod yn llethol pan fyddant yn cychwyn. Gallant hefyd bara'n llawer hirach (hyd at 9 awr). Gall hyn fod yn rhywbeth dymuno neu'n annymunol, ond bydd yn cynyddu'r risg o brofi gorbryder, paranoia a phyliau o banig, yn enwedig yn achos defnyddwyr dibrofiad.
  • Oni byddwch chi wedi'u cynhyrchu eich hun, ni allwch wybod faint cryfder y canabis sydd mewn melysion neu gymiau.  Peidiwch â dibynnu ar y wybodaeth sydd ar y deunydd pacio. Hyd yn oed yn nhaleithiau'r UDA ble gall y cynhyrchion hyn fod yn gyfreithlon, profwyd bod cryfder y dos a nodir ar y pecyn yn aml yn anghywir.
  • Cymerwch fymryn o'r cynnyrch i ddechrau a pheidiwch â chael ei temtio i gymryd rhagor os na fyddwch yn teimlo effaith. Arhoswch, efallai bydd angen i chi ddisgwyl awr cyn teimlo'r effeithiau, a gall y profiad fod yn eithaf llethol. Gwir yw'r hen ddywediad: "Gallwch bod amser gymryd mwy, ond allwch chi fyth gymryd llai".
  • Er bod bwyta canabis yn osgoi'r risg sy'n deillio o fewnandalu mwg, gall gynhyrchu profiad penfeddw sy'n fwy dwys ac yn para'n hirach. Byddwch yn baord am hynny.
  • Os byddwch yn cychwyn teimlo'n baranoid neu'n ‘ffricio’, ewch i rywle tawel ble gallwch deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Bydd y paranoia yn diflannu pan fydd effeithiau'r canabis yn diflannu, ond mae effeithiau cynhyrchion canabis bwytadwy yn para'n hirach, felly gall effeithiau annymunol megis paranoi bara'n hirach hefyd.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n llegach ac yn chwydu ('whitey' yw enw Saesneg y profiad hwnnw), arhoswch gyda'ch ffrind a sicrhewch ei fod yn eistedd yn gefnsyth, ond peidiwch â'i orfodi.  Mae rhai pobl yn credu bod yfed diod sy'n cynnwys llawer o siwgr yn fuddiol, ond peidiwch â gorfodi neb i yfed unrhyw beth.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n sâl neu’n ‘ffricio’ ar ôl cymryd canabis, arhoswch gyda hwy i'w tawelu a'u cysuro. Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi. Os byddwch yn bryderus iawn am ffrind, bydd yn well ffonio i ofyn am gymorth.
  • Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cynhyrchion canabis bwytadwy yn rheolaidd, ond gallant achosi caethiwed serch hynny.
  • Ceisiwch beidio â'u defnyddio bob dydd, peidiwch â'u cymryd ar ddiwrnodau penodol, yn enwedig os oes yn rhaid i chi astudio at arholiad.
  • Peidiwch â chymryd canabis pan na fydd gennych waith na benthyca arian i dalu amdano. Prynwch beth allwch ei fforddio a dim mwy.
  • Os byddwch yn pryderu am eich defnydd, defnyddiwch lai neu stopiwch ei ddefnyddio. Mae gwasanaethau ar gael a all helpu pobl sy'n credu bod canabis yn broblem iddynt.

Tymor Hir:

Er mai prin yw'r ymchwil ynghylch effaith hirdymor defnyddio rhai mathau o gynhyrchion canabis bwytadwy, gall yr effeithiau fod yn gryfach ac yn fwy dwys nag yn achos ysmygu, felly efallai bydd mwy o risg o gaethiwed ac bydd gorbryder, cynnwrf, paranoia a seicosis yn fwy tebygol o ddigwydd.

Tymor Byr:

Ni ellir gwybod faint o THC sydd mewn cynhyrchion canabis bwytadwy oherwydd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gynnyrch cartref, hyd yn oed os cânt eu gwerthu mewn pecynnau lliwgar, oherwydd gwerthir pecynnau ar gyfer cynhyrchion canabis bwytadwy ar-lein. Wrth fwyta canabis, bydd oeddutu 90% o'r THC yn cyrraedd yr ymennydd, gan achosi teimlad penfeddw sy'n llawer cryfach nag yn achos ysmygu canabis. Fodd bynnag, bydd angen disgwyl awr neu fwy cyn teimlo'r effaith, a gall fod yn brofiad dwys iawn, yn debycach i fod dan ddylanwad LSD. Gall yr effeithiau hefyd bara hyd at 8 awr yn hytrach na'r awr neu ddwy arferol wrth ysmygu canabis.
Mae canabis yn effeithio ar nifer o niwrodrosglwyddyddion gwahanol yn yr ymennydd, felly ceir ystod eang o effeithiau. Mae wedi cael ei ddosbarthu yn gyffur rhithbeiriol, ond prin iawn yw'r rhithweledigaethau a achosir ganddo. Bellach, mae'n fwy cyffredin ei ddosbarthu'n ganabinoid.

Ni wnaiff bwyta canabis amrwd achosi'r un effeithiau â chanabis sydd wedi cael ei gynhesu trwy ei ysmygu, ei ddefnyddio mewn e-sigarét neu ei goginio, oherwydd dyna sy'n troi'r THC yn ffurf actif sy'n peri i chi deimlo’n benfeddw. Yn draddodiadol, mae canabis wedi cael ei ddefnyddio mewn bisgedi cartref, ac yn wir, mwy unrhyw fath o fwydydd fwy neu lai. Yn ddiweddar, mae cynhyrchion canabis anghyfreithlon wedi ymddangos sy'n dynwared golwg a deunydd pacio mathau adnabyddus o felysion a siocledi. Yn aml iawn, bydd y deunydd pacio ffug a ddefnyddir yn dynwared brandiau go iawn ond â gwahaniaethau bychan; er enghraifft, ‘Ganja Bears’ yn lle ‘Gummy Bears’, ‘Stoner Patch’ yn lle ‘Sour Patch’.
Bwyta, llyncu, cnoi, sugno, yfed ac ati.
Cynhyrchion meddyginiaethol seiliedig ar ganabis (CBMPs) yw enw meddyginiaethau sy'n cynnwys dosys amrywiol o THC a/neu CBD sydd wedi cael eu tynnu o'r planhigyn canabis a'u puro.
Fel arfer, mae bisgedi canabis traddodiadol a melysion eraill sy'n cynnwys canabis yn gynhyrchion cartref. Gall gymiau a siocledi ac ati sy'n cynnwys canabis fod yn gynhyrchion cartref, ond cânt hefyd eu cynhyrchu a'u pacio mewn labordai cyffuriau anghyfreithlon.
Cuddio
Ffôn di-dal: