Canabis (llysieuol)

cannabis-herbal
  • Weed
  • Skunk
  • Green
  • Bud
  • Herbal
  • Bush
  • Grass
  • Ganja
  • Marijuana
  • Wacky Backy
  • Jazz cabbage
  • Jamaican Gold
  • Thai Sticks
  • Sinsemilla
  • Blue cheese
  • Straw Dog
  • Straw Dawg
  • Gelato
  • Kush
  • Cali weed

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Cannabis Sativa, Cannabis Indica, Cannabis Ruderalis. THC (tetrahydrocannabinol).

Enwau Generig: Canabis. Gweler hefyd resin canabis, crynodiadau canabis a chanabis bwytadwy.

Effeithiau A Ddymunir:

  • Ewfforia
  • Ymlacio (teimlo'n hamddenol iawn)
  • Cynyddu cymdeithasgarwch a chwantusrwydd.
  • Giglan neu feddwl bod unrhyw beth yn ddoniol a/neu'n hynod o ddiddorol
  • Gwerthfawrogi cerddoriaeth ac ati. Bydd pobl yn defnyddio canabis oherwydd ystod eang o resymau yn amrywio o allu meddwl yn greadigol i leddfu diflastod. Bydd rhai pobl yn ei ddefnyddio i ymdopi ag anawsterau iechyd meddwl neu drawma yn y gorffennol.

Sgîl Effeithiau:

  • Gorbryder
  • Paranoia
  • Dryswch
  • Gostyngiad bychan ym mhwysedd y gwaed a chyfradd curiad y galon
  • Colli cof am gyfnod byr
  • Mwy o archwaeth ('munchies' yw'r enw am hyn)
  • Llygaid gwaetgoch a phinc
  • Efallai y gwnaiff canabis wneud i chi gysgu gormod neu beidio â chysgu digon.
  • Bydd rhywun sy'n cymysgu canabis llysieuol â thybaco yn agored i'r holl niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu tybaco. Er y ceir risg yn sgil y mwg os ysmygir canabis heb ei gymysgu â thybaco, nid yw'n cynnwys yr holl gemegau sy'n achosi canser sy'n bodoli mewn mwg tybaco. Felly, oni fyddwch yn ysmygu mwy o ganlyniad i hynny, mae'n llai peryglus.
  • Er bod defnyddio canabis llysieuol mewn e-sigarét yn fwy diogel na'i ysmygu mewn 'joint', pibell neu 'bong', efallai bydd rhywfaint o risg o anafu'r ysgyfaint serch hynny.
  • Os byddwch yn ysmygu canabis llysieuol, peidiwch ag anadlu'n rhy ddwfn na dal y mwg yn eich ysgyfaint. Bydd yn cynyddu cyfanswm y tar a'r sothach arall yn eich ysgyfaint heb wneud i chi deimlo'n fwy penfeddw.
  • Bydd ysmygu canabis mewn 'bong' neu bibell dŵr yn hidlo mwy o THC na thar ohono, a chollir llawer o THC yn y mwg a ddaw allan o flaen y bibell.
  • Bydd hidlydd sigarét hefyd yn hidlo'r THC (gan leihau'r effaith) yn ogystal â thar, felly bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cetyn carbord.
  • Os byddwch yn cychwyn teimlo'n paranoid neu’n ‘ffricio’, ewch i rywle tawel ble gallwch deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Bydd y paranoia'n diflannu ymhen rhyw awr, pan fydd effaith y canabis yn diflannu.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n llegach ac yn chwydu ('whitey' yw enw Saesneg y profiad hwnnw), arhoswch gyda'ch ffrind a sicrhewch ei fod yn eistedd yn gefnsyth, ond peidiwch â'i orfodi.  Mae rhai pobl yn credu bod yfed diod sy'n cynnwys llawer o siwgr yn fuddiol, ond peidiwch â gorfodi neb i yfed unrhyw beth.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n sâl neu’n ‘ffricio’ ar ôl cymryd canabis, arhoswch gyda hwy i'w tawelu a'u cysuro. Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi. Os byddwch yn bryderus iawn am ffrind, bydd yn well ffonio i ofyn am gymorth.
  • Os bydd cysgu'n broblem, mae dulliau mwy ymarferol ar gael i roi trefn ar eich cysgu nag ysmygu canabis.
  • Wrth i'ch goddefedd gynyddu, byddwch yn cychwyn defnyddio mwy i brofi'r un effaith. Gall pethau fynd dros ben llestri ac achosi caethiwed.
  • Ceisiwch beidio â'i ddefnyddio bob dydd, peidiwch â'i gymryd ar ddiwrnodau penodol, yn enwedig os oes yn rhaid i chi astudio at arholiad.
  • Peidiwch â chymryd canabis pan na fydd gennych waith na benthyca arian i dalu amdano. Prynwch beth allwch ei fforddio a dim mwy.
  • Os byddwch yn pryderu am eich defnydd, defnyddiwch lai neu stopiwch ei ddefnyddio. Mae gwasanaethau ar gael a all helpu pobl sy'n credu bod canabis yn broblem iddynt.

Tymor Hir:

  • Gall canabis gynyddu'r risg o brofi seicosis yn achos rhai pobl a gwaethygu'r symptomau yn achos pobl sy'n eu profi. Ieuengaf yn y byd yr ydych chi, mwyaf yn y bydd fydd y risg pan fyddwch chi'n cychwyn ei ddefnyddio'n rheolaidd oherwydd mae eich ymennydd yn dal yn datblygu.
  • Gallai canabis hefyd gynyddu'r risg o brofi iselder. Fodd bynnag, mae'n gymhleth, oherwydd bydd rhai pobl yn defnyddio canabis i ymdopi â'u salwch meddwl.
  • Mae mwg canabis yn cynnwys cemegau gwenwynol sy'n cynyddu'r risg o ddal mathau o salwch megis broncitis sy'n gysylltiedig ag ysmygu a gwaethygu asthma.
  • Bydd un o bob deg defnyddiwr rheolaidd yn dweud eu bod wedi dod yn gaeth i ganabis.

Tymor Byr:

  • Dryswch
  • Colli cof (bydd astudio ar ôl ysmygu canabis yn wastraff amser)
  • Paranoia
  • Teimlo'n sâl neu chwydu, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol. Gallech hefyd fod yn anymwybodol am ychydig. Yn Saesneg, gelwir hynny yn ‘pulling a whitey’ neu ‘Greening out’.
  • Damweiniau os yn gyrru.
  • Cael eich dal.
  • Risg o ddal Covid-19 os ydych chi'n rhannu 'joints', pibelli ac e-sigaréts.
  • Bydd rhai pobl yn defnyddio canabis i leddfu symptomau straen a gorbryder am ychydig, a gallai hynny lwyddo yn y tymor byr, ond gall y gorbryder waethygu ar ôl i effaith y canabis ddiflannu.
Mae canabis yn effeithio ar nifer o niwrodrosglwyddyddion gwahanol yn yr ymennydd, felly ceir ystod eang o effeithiau. Mae wedi cael ei ddosbarthu yn gyffur rhithbeiriol, ond prin iawn yw'r rhithweledigaethau a achosir ganddo. Bellach, mae'n fwy cyffredin ei ddosbarthu'n ganabinoid.

  • Dail gwyrdd yw canabis llysieuol yn bennaf, ond ceir amrywiaeth helaeth o liwiau yn y blodau a'r blagur, o oren i biws. Caiff canabis wedi'i sychu ei werthu wrth y pwysau neu, yn gyffredin, yn ôl pris, h.y. mewn bagiau ‘snap’ plastig gwerth £5, £10 ac £20.
  • Yn aml iawn, gwerthir 'Cali weed' mewn tuniau neu becynnau neu duniau â brand arnynt.
  • Fel mae'r enw'n awgrymu, mae gan ‘Skunk’ arogl nodweddiadol a chryf iawn, sy'n deillio o'r planhigyn a'r mwg, a bydd yr arogl yn parhau yn hir ar ddillad ac mewn ystafelloedd. Er bod cemegau o'r enw ‘terpenau’ yn achosi rhywfaint o'r arogl, darganfuwyd yn ddiweddar fod yr arogl drewllyd yn deillio o gemegau (o'r enw cyfansoddion sylffwr anweddol) sydd hefyd yn achosi arogl drewllyd tebyg i arogl garlleg ac ysgewyll.
  • Fel arfer, caiff canabis ei ysmygu mewn sigarét a wnaed â llaw ac a elwir yn 'joint', 'spliff', 'doobie', 'bifter' ac ati. Yn aml iawn, caiff ei gymysgu â thybaco, neu caiff ei ddefnyddio mewn pibell neu bibell dŵr ('bong'). Gellir hefyd ei gymryd mewn e-sigaréts sy'n gallu ymdopi â chanabis llysieuol.
  • Ni chaiff canabis amrwd ei fwyta oherwydd mae angen ei boethi trwy ei losgi, ei ddefnyddio mewn e-sigarét neu ei goginio er mwyn troi'r THC yn gyffur gweithredol a wnaiff i chi deimlo'n benfeddw.
Cynhyrchion meddyginiaethol seiliedig ar ganabis (CBMPs) yw enw meddyginiaethau sy'n cynnwys dosys amrywiol o THC a/neu CBD sydd wedi cael eu tynnu o'r planhigyn canabis a'u puro. Gall meddygon sydd â thrwyddedau arbennig ragnodi meddyginiaethau sydd â lefelau sylweddol iawn o THC. Ar hyn o bryd, trwyddedir y defnydd o rin canabis i drin sbastigedd difrifol yn achos cleifion sydd â sglerosis gwasgaredig. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod tystiolaeth dda iawn i gadarnhau y gall reoli epilepsi cyfnod plentyndod yn hynod o effeithiol. Er y ceir nifer o honiadau eraill ynghylch potensial canabis fel meddyginiaethau i drin cyflyrau eraill, nid yw'r dystiolaeth yn bendant o gwbl. Ceir mathau hynod o safonedig o ganabis llysieuol sy'n cydymffurfio â safonau meddygol yr UE, a chânt eu cynhyrchu yn yr Iseldiroedd. Fodd bynnag, aml iawn y caiff y rhain eu rhagnodi yn y DU, hyd yn oed gan y meddygon arbenigol sydd wedi'u trwyddedu i wneud hynny.



Cywarch ('hemp' yn Saesneg) yw'r enw am blanhigion canabis sy'n cael eu tyfu at ddibenion diwydiannol. Nid ydynt yn cynnwys digon o THC i gynhyrchu effaith benfeddwol, faint bynnag y gwnewch chi ysmygu. Defnyddir cyfarch ar gyfer ffibrau a ddefnyddir yn y diwydiannau papur a thecstilau, mewn plastigau bioddiraddadwy, bwydydd iachus, a thannwyd.
  • Mae enwau traddodiadol mathau penodol o ganabis, er enghraifft,  ‘Jamaican Gold’ neu ‘Thai Sticks’, yn awgrymu ym mha wlad y cafodd ei dyfu.
  • Roedd ansawdd canabis ‘cartref’ o Brydain yn wael ar un adeg yn sgil ein hinsawdd, ond mae'r rhan fwyaf o blanhigion canabis llysieuol yn rhai hybrid erbyn hyn. Mae'r planhigion hyn yn deillio o groesfridio â phlanhigion gwyllt sy'n cynnwys y cyfanswm mwyaf o THC.  Cânt eu tyfu dan do dan olau artiffisial mewn modd sy'n cynhyrchu llawer o flodau benywaidd (blagur) oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r THC yn y rhan hwn o'r planhigyn.
  • Ar un adeg, roedd ‘Skunk’ yn fath penodol o ganabis, ond erbyn hyn, mae'n derm cyffredinol i gyfeirio at unrhyw rai o'r mathau hybrid cryf a drewllyd.
  • Ceir nifer o fathau gwahanol megis ‘Blue cheese’, ‘Straw Dog’, ‘Gelato’, ‘Kush’ ac ati. Gall y golwg, y blas a'r arogl amrywio o'r naill fath o ganabis i'r llall, ond bydd y cryfder yn dibynnu ar gyfanswm y THC yn y planhigyn/
  • Caiff canabis llysieuol ('weed') ei dyfu gan bobl sy'n ei ddefnyddio a gan gangiau o droseddwyr trefnedig mewn lleoliadau masnachol a domestig (gelwir y rhain yn ffermydd canabis).
  • ‘Cali weed’ yw enw math cryf o ganabis llysieuol sy'n aml yn cael ei werthu mewn tuniau neu becynnau ac yr honnir ei fod wedi'i gynhyrchu yng Nghaliffornia. Fodd bynnag, gellir prynu'r tuniau a'r labeli ar-lein, felly mae'n fwy tebygol o fod wedi'i dyfu yn Wrecsam nag ar yr arfordir gorllewinol yng Nghaliffornia.
Cuddio
Ffôn di-dal: