Canabis (resin)

cannabis-resin
  • Rocky
  • Moroccan
  • Resin
  • Pollen
  • Pollem
  • Hashish
  • Hash
  • Black
  • Red Leb
  • Soap
  • Slate
  • Solid

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: THC (tetrahydrocanabinol) a CBD (canabidiol).

Enwau Generig: Resin canabis

An example of what Canabis resin looks like

Effeithiau A Ddymunir:

  • Ewfforia
  • Ymlacio (teimlo'n hamddenol iawn)
  • Cynyddu cymdeithasgarwch a chwantusrwydd.
  • Giglan neu feddwl bod unrhyw beth yn ddoniol a/neu'n hynod o ddiddorol
  • Gwerthfawrogi cerddoriaeth ac ati. Bydd pobl yn defnyddio canabis oherwydd ystod eang o resymau yn amrywio o allu meddwl yn greadigol i leddfu diflastod. Bydd rhai pobl yn ei ddefnyddio i ymdopi ag anawsterau iechyd meddwl neu drawma yn y gorffennol.

Sgîl Effeithiau:

  • Gorbryder
  • Paranoia
  • Dryswch
  • Gostyngiad bychan ym mhwysedd y gwaed a chyfradd curiad y galon
  • Colli cof am gyfnod byr
  • Mwy o archwaeth ('munchies' yw'r enw am hyn)
  • Llygaid gwaetgoch a phinc
  • Efallai y gwnaiff canabis wneud i chi gysgu gormod neu beidio â chysgu digon.
  • Bydd rhywun sy'n cymysgu resin canabis â thybaco yn agored i'r holl niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu tybaco. Er y ceir risg yn sgil y mwg os ysmygir resin canabis heb ei gymysgu â thybaco, nid yw'n cynnwys yr holl gemegau sy'n achosi canser sy'n bodoli mewn mwg tybaco. Felly, oni fyddwch yn ysmygu mwy o ganlyniad i hynny, mae'n llai peryglus.
  • Er bod defnyddio resin canabis mewn e-sigarét yn fwy diogel na'i ysmygu mewn 'joint', pibell neu 'bong', efallai bydd rhywfaint o risg o anafu'r ysgyfaint serch hynny.
  • Os byddwch yn ysmygu resin canabis, peidiwch ag anadlu'n rhy ddwfn na dal y mwg yn eich ysgyfaint. Bydd yn cynyddu cyfanswm y tar a'r sothach arall yn eich ysgyfaint heb wneud i chi deimlo'n fwy penfeddw.
  • Bydd ysmygu canabis mewn 'bong' neu bibell dŵr yn hidlo mwy o THC na thar ohono, a chollir llawer o THC yn y mwg a ddaw allan o flaen y bibell.
  • Bydd hidlydd sigarét hefyd yn hidlo'r THC (gan leihau'r effaith) yn ogystal â thar, felly bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cetyn cardord.
  • Os byddwch yn cychwyn teimlo'n paranoid neu’n ‘ffricio’, ewch i rywle tawel ble gallwch deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Bydd y paranoia'n diflannu ymhen rhyw awr, pan fydd effaith y canabis yn diflannu.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n llegach ac yn chwydu ('whitey' yw enw Saesneg y profiad hwnnw), arhoswch gyda'ch ffrind a sicrhewch ei fod yn eistedd yn gefnsyth, ond peidiwch â'i orfodi.  Mae rhai pobl yn credu bod yfed diod sy'n cynnwys llawer o siwgr yn fuddiol, ond peidiwch â gorfodi neb i yfed unrhyw beth.
  • Os bydd eich ffrindiau yn teimlo'n sâl neu’n ‘ffricio’ ar ôl cymryd canabis, arhoswch gyda hwy i'w tawelu a'u cysuro. Gofalwch am eich ffrindiau fel y byddech chi am i eraill ofalu amdanoch chi. Os byddwch yn bryderus iawn am ffrind, bydd yn well ffonio i ofyn am gymorth.
  • Os bydd cysgu'n broblem, mae dulliau mwy ymarferol ar gael i roi trefn ar eich cysgu nag ysmygu canabis.
  • Wrth i'ch goddefedd gynyddu, byddwch yn cychwyn defnyddio mwy i brofi'r un effaith. Gall pethau fynd dros ben llestri ac achosi caethiwed.
  • Ceisiwch beidio â'i ddefnyddio bob dydd, peidiwch â'i gymryd ar ddiwrnodau penodol, yn enwedig os oes yn rhaid i chi astudio at arholiad.
  • Peidiwch â chymryd canabis pan na fydd gennych waith na benthyca arian i dalu amdano. Prynwch beth allwch ei fforddio a dim mwy.
  • Os byddwch yn pryderu am eich defnydd, defnyddiwch lai neu stopiwch ei ddefnyddio. Mae gwasanaethau ar gael a all helpu pobl sy'n credu bod canabis yn broblem iddynt.

Tymor Hir:

Mae'r ddau gemegyn seicoweithredol mewn canabis yn wahanol iawn. THC sy'n achosi'r teimlad penfeddw a gwyddys y gall sbarduno seicosis. Ar y llaw arall, nid yw CBD yn achosi unrhyw effeithiau seicoweithredol ac ystyrir ei fod yn pylu seicosis neu'n lleihau'r risg o brofi hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r mathau hybrid o ganabis llysieuol yn cynnwys lefelau uchel o THC ac ychydig iawn o CBD, ond mae resin canabis traddodiadol yn cynnwys llai o THC a chyfansymiau mwy o CBD. Credid am amser maith fod defnyddio resin canabis yn peri llai o risg oherwydd roedd y CBD yn gweithredu i bylu effeithiau THC. Fodd bynnag, mae ymchwil diweddar yn awgrymu nad yw hynny'n wir a bod canabis sydd â lefelau uwch o CBD yn llai tebygol o achosi effeithiau andwyol dim ond oherwydd y cyfanswm llai o THC sydd ynddo. Felly, efallai bod llai o risg o brofi seicosis, iselder a dibyniaeth yn achos resin canabis o gymharu â chanabis llysieuol cryf iawn. Fodd bynnag, mae'n debyg mai'r rheswm dros hynny yw'r ffaith fod y cynnyrch isel ei safon sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd yn cynnwys llai o THC.

Tymor Byr:

Mae'r rhan fwyaf o'r resin canabis sydd ar gael yn cynnwys llai o THC na chanabis llysieuol, felly gellid ystyried ei fod yn llai peryglus. Serch hynny, gall ysmygu resin canabis achosi;
  • Dryswch
  • Colli cof
  • Paranoia
  • Cyfog
  • Damweiniau (os yn gyrru).
  • Risg o ddal Covid-19 os yn rhannu 'joint'
  • Cael eich dal ayyb.
Mae canabis yn effeithio ar nifer o niwrodrosglwyddyddion gwahanol yn yr ymennydd, felly ceir ystod eang o effeithiau. Mae wedi cael ei ddosbarthu yn gyffur rhithbeiriol, ond prin iawn yw'r rhithweledigaethau a achosir ganddo. Bellach, mae'n fwy cyffredin ei ddosbarthu'n ganabinoid.

Gwerthir resin ar ffurf blociau sy'n amrywio o rai meddal a gludiog i rai briwsionllyd neu rai gweddol galed. Gall ei liw amrywio o frown tywyll i felynwyrdd neu felyn sy'n debyg i liw ocr. Efallai bydd addurniadau cywrain wedi'u boglynu ar flociau mwy.
Caiff resin canabis ei friwsioni neu weithiau caiff ei gynhesu a'i friwsioni i'w roi mewn 'joint' neu bibell yn gymysg â thybaco. Weithiau, caiff resin canabis ei gynhesu rhwng dwy gyllell (cyllyll poeth) nes bydd yn mygu neu'n tanio, a chaiff ei roi ar bin o dan wydryn â'i wyneb i waered a'i fewnandlu pan fydd y gwydryn wedi'i lenwi â mwg.
Cynhyrchion meddyginiaethol seiliedig ar ganabis (CBMPs) yw enw meddyginiaethau sy'n cynnwys dosys amrywiol o THC a/neu CBD. Ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw fath o CBMP sy'n seiliedig ar resin canabis.
  • Yn draddodiadol, caiff resin canabis (a elwir yn 'Hashish' neu 'Hash') ei  wneuthur trwy wahanu'r resin canabis gludiog  oddi wrth y blagur a'u mowldio i greu bloc. Gellir ei gynhyrchu gartref, ond byddai enw 'hashish' traddodiadol yn aml yn cynnwys enw'r wlad ble'r oedd wedi'i dyfu a'i wasgu'n flociau, er enghraifft, 'Pakistani black' (yn draddodiadol, 'black' oedd y blodau sych wedi'u gwasgu'n floc), 'Red Leb' (o Libanus) a 'Moroccan'.
  • Weithiau, gelwir 'hashish' da yn 'pollen' (neu 'pollem'), ond mae cyfran helaeth o'r hyn sydd ar gael ym Mhrydain yn gynnyrch o safon is a elwir yn 'soap' neu'n 'slate', ac mae wedi'i gynhyrchu ym Moroco.
  • Yn fwy diweddar, mae 'hashish' o Foroco wedi cael eu cynhyrchu mewn ffordd newydd gan ddefnyddio planhigion hybrid. Mae'r math hwn o resin yn gryf iawn, a gall gynnwys bron iawn ddwywaith yn fwy o THC na'r canabis llysieuol cryfaf hyd yn oed. Mae'r math hwn o resin wedi'i weld ledled Ewrop ond mae'n brin yn y DU ar hyn o bryd.
Cuddio
Ffôn di-dal: