Canabis

cannabis
  • Turkish
  • Afghani
  • Paki black
  • Nepalese
  • Morrocan
  • Leb
  • Lebansese
  • Thai Sticks
  • Temble balls
  • Ted seal
  • Mwg drwg
  • Zero zero
  • Haze
  • Northern lights
  • Bhang
  • Sens
  • Sensi
  • Sensimillia
  • Skunk
  • Black
  • Indica
  • Hash
  • Hashish
  • Hemp
  • Herb
  • Rocky
  • Cywarch
  • Gold seal
  • Draw
  • Bush
  • Blow
  • Pwff
  • Ganja
  • Cach
  • Gwair
  • Dôp (Dop)
  • Pot
  • Resin
  • Mariwana
  • Temple Balls
  • Red Seal
  • Wacky Backy
  • Zero Zero
  • Haze
  • Northern Lights
  • Bhang
  • Sens
  • Sensi
  • Sensimilla
  • Skunk
  • Black
  • Indica
  • Grass
  • Gold Seal
  • Bob (Hope)
  • Blow
  • Puff
  • Ganja
  • Shit
  • Weed

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: Cannabis Sativa, Cannabis Indica

Enwau Generig: Canabis, mariwana

An example of what Canabis looks like
Planhigyn (llysieuol) wedi’i sychu sy’n amrywio mewn lliw o wyrdd golau i frown, sydd weithiau yn cynnwys hadau llwyd/brown bach. Fel echdynnyn o’r planhigyn (resin), lwmpyn neu floc caled sy’n amrywio mewn lliw o frown golau i ddu. Fel olew trwchus a gludiog a allai edrych yn wyrdd, yn frown neu’n ddu tywyll.

Effeithiau A Ddymunir:

Ymlacio, ewfforia, miri.

Sgîl Effeithiau:

Gofid, Paranoia, dryswch, pwysedd gwaed isel, colli cof byrdymor, awydd cynyddol am fwyd (y “munchies”).
    short term effects

    Risgiau tymor byr

    Dryswch, colli cof, Paranoia, Gellir 'torri' resin â sylweddau eraill i'w swmpio allan.

    desired effects

    Effaith ddymunol

    Ymlacio, ewfforia, miri.

    long term effects

    Risgiau tymor hir

    Troi'r cyfan yn arferiad, Paranoia, niwed i feinwe'r ysgyfaint, risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

    Tymor Hir:

    Troi'r cyfan yn arferiad, Paranoia, niwed i feinwe'r ysgyfaint, risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl.

    Tymor Byr:

    Dryswch, colli cof, Paranoia, diogi. Fel cyffuriau eraill, gall resin gael ei 'Torri' gyda sylweddau eraill i'w wneud yn fwy swmpus. Mae'n anodd gwybod yr effeithiau a’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â hyn gan ei fod yn dibynnu beth sy’n cael ei roi yn y cymysgedd resin. Deallir bod sylweddau fel cwyr esgidiau, tail anifeiliaid a chyffuriau eraill wedi cael eu hychwanegu at resin canabis yn y gorffennol.
    Cyffur Rhithbeiriol Ysgafn.
    Caiff ei ysmygu fel arfer mewn sigarét sy’n cael ei gwneud â llaw o'r enw Joint, Reefer neu Spliff. Yn aml, caiff ei gymysgu gyda thybaco, neu ei roi mewn Pib neu bib ddŵr (Bong). Mae modd defnyddio dyfeisiau eraill gartref i ysmygu hefyd, fel Cyllyll Poeth, lle caiff darn o ganabis ei wresogi rhwng dau lafn a chaiff y mwg ei dynnu trwy diwb gwag neu botel. Mae modd ei bobi hefyd mewn cacennau neu fwydydd eraill hefyd a'i fwyta.
    Tybaco, papurau sigaréts (Rizla neu 'Skins’), cardbord (sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer blaen y sigarét, sy'n cael ei alw’n Roach), Pibau neu Bong.
    Yn ôl y cofnodion, cafodd Canabis ei ddefnyddio at ddibenion meddygol am y tro cyntaf 4,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae llawer o ddiwylliannau wedi gwerthfawrogi ei rinweddau llesol byth ers hynny. Erbyn hyn, mae ffurfiau synthetig, sy’n cael eu galw’n ‘marinol’ ac yn 'nabilone’, yn cael eu defnyddio weithiau fel cyffuriau Gwrth-Emetig i reoli cyfogi a chwydu yn achos cleifion canser. Mae’r rhai sy'n dadlau o'i blaid o'r farn y gellid defnyddio canabis i fod yn llesol yn achos amrywiaeth o afiechydon yn amrywio o glawcoma i barlys ymledol (MS). Caiff canabis meddygol ei ragnodi ar gyfer cyfog, poen ac i leddfu symptomau sy’n gysylltiedig â salwch cronig, ond mae defnydd ohono'n dal i fod yn ddadleuol. Gwelwyd bod i THC lefel isel a channabinoidau eraill briodweddau Analgesig, gwrthsbasmodig, gwrthgonfylsiwn, gwrthgrynu, gwrthseicotig, gwrthlidiol, gwrthemestig a phriodweddau Ysgogi awydd bwyd. Mae ymchwil yn cael ei gynnal i effeithiau meddygol cannabinoidau.

    Defnydd diwydiannol
    Nid yw Hemp - canabis sy’n cael ei dyfu at ddefnydd diwydiannol – yn cynnwys digon o THC i gael unrhyw effaith ffwndrus, hyd yn oed yn achos symiau mawr. Caiff Hemp ei ddefnyddio yn achos ffibrau sy'n cael eu defnyddio yn y diwydiant papurau a thecstilau, cynhyrchion plastig bioddiraddadwy, bwydydd iach a thanwyddau.
    Mae Canabis yn tyfu mewn llawer o rannau o’r byd. Gweler y map, ond mae’r prif ganolfannau cynhyrchu yn cynnwys Gogledd a Gorllewin Affrica, De America, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell. Fwyfwy, mae’n cael ei dyfu dan do yn Ewrop. Y prif gynhwysyn Seicoactif mewn canabis yw Tetrahydrocannabinol (THC).
    Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU, mae ‘asiantaethau stryd’ neu brosiectau ar gael (sy’n cael eu galw weithiau yn wasanaethau cyffuriau cymunedol neu dimau cyffuriau cymunedol) sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys gwybodaeth a chyngor, cwnsela ac weithiau grwpiau cymorth a therapïau ategol fel aciwbigo. Mae rhai gwasanaethau ar gael dros oriau gwaith estynedig ac mae'n bosibl y byddant yn cynnig cymorth dros y penwythnos. Os daw defnyddio’r sylwedd hwn yn broblem, gallwch ofyn am gymorth, cyngor a chwnsela gan wasanaeth yn eich ardal chi. Gall meddygon teulu gyfeirio at wasanaethau cyffuriau arbenigol.

    Rhieni a pherthnasau eraill

    Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.

    Cuddio
    Ffôn di-dal:
    Neu tecstiwch DAN i: