Cathinonau
cathinones- Cathinonau
- Cathinonau Synthetig
- Amnewidynnau Cathinon
- Meffedron
- M-CAT
Enwau Gwyddonol:
Mae amnewidynnau cathinon yn cynnwys: Methcathinon, Meffedron, 2-MMC, 3-MMC, 4-CMC, Cleffedron, Methylon, Dimethylon, Pentedron, Bwtylon, Ewtylon, Pentylon, N-ethylypentylon, Dipentylon, Dimethylcathinon
Mae Cathinonau Pyrrolidino yn is-grŵp o gathinonau synthetig ac yn cynnwys: a-PVP (Flakka), MDPV ac MDPHP (Monkey Dust)
Enwau Generig: Amnewidynnau Cathinon
Effeithiau A Ddymunir:
Bydd yr effeithiau yn dibynnu ar gryfder y dos a'r math o amnewidyn cathinon a ddefnyddir. Maent oll yn symbylyddion, ond efallai bydd effaith rhai ohonynt yn debycach i effaith ecstasi.- Egni
- Magu hyder
- Lles, ewfforia
- Cynyrfiadau.
Sgîl Effeithiau:
Bydd y sgil effeithiau yn dibynnu ar gryfder y dos a'r math o amnewidyn cathinon a ddefnyddir. Ar y cyfan, gall y sgil effeithiau ymdebygu i rai MDMA, cocên a symbylyddion cryf eraill, er enghraifft, cyfradd curiad y galon yn cyflymu'n sylweddol, chwysu, llai o archwaeth, clensio'r safnau, cannwyll llygaid lledagored, paranoia, gorbryder, hwyliau ansad.- Yn aml iawn, caiff cathinonau eu camwerthu fel MDMA/ecstasi. Bydd angen disgwyl yn hirach cyn teimlo'r effaith, a gall hynny wneud i bobl feddwl bod y dos yn wan neu eu bod yn dda i ddim a chymryd mwy o ddos. Fodd bynnag, efallai fod effeithiau rhai ohonynt yn para yn hirach, ac mae hynny wedi achosi problemau seicolegol difrifol yn sgil methu â chysgu am ddiwrnodau lawer.
- Os oes gennych chi brawf adweithyddion, ceisiwch ddilyn y cyfarwyddiadau i nodi beth sydd yn eich tabledi/cymysgeddau. Fodd bynnag, nid yw'r profion hyn yn ddi-feth a gall gwallau dynol amharu arnynt, ac nid ydynt yn cynnig unrhyw wybodaeth i chi am gryfder y dos. Os oes gennych chi ddigon o amser i gynllunio, anfonwch dabled neu bowdwr at WEDINOS.
- Yn achos unrhyw dabled neu bowdwr, cymerwch fymryn bach i ddechrau a disgwyliwch awr o leiaf i ganfod beth yw'r effeithiau cyn cymryd rhagor.
- Mae cathinonau yn symbylyddion. Pa un ai y gwnaethoch chi eu prynu'n ymwybodol neu y cawsant eu camwerthu i chi, cadwch at yr holl ragofalon arferon y buasech yn eu defnyddio wrth gymryd symbylyddion.
- Stopiwch ddawnsio am ychydig i oeri'r corff a sipiwch ddŵr yn rheolaidd.
- Bydd cymysgu cathinonau ag alcohol yn cynyddu'r risg o brofi diffyg hylif, a bydd cymysgu symbylyddion yn cynyddu'r holl risgiau.
- Os oes gennych chi unrhyw gyflwr calon, dylech chi osgoi defnyddio symbylyddion.
- Defnyddiwch ef yn achlysurol yn unig a gwnewch yn siŵ® eich bod yn cael digon o orffwys ar ôl ei gymryd.
- Os bydd rhywun yn profi effeithiau negyddol megis chwydu, confylsiynau neu anymwybyddiaeth, gosodwch hwy yn yr ystum adferol a ffoniwch i ofyn am gymorth meddygol yn syth.
Tymor Hir:
Bydd y risgiau tymor hir yn dibynnu ar yr amnewidyn cathinon a ddefnyddir. Fodd bynnag, maent yn debyg ar y cyfan i'r risgiau sy'n gysylltiedig â symbylyddion cryf eraill, er enghraifft, iselder, piwisrwydd, dod yn gaeth i gyffur, paranoia a sbarduno cyfnodau seicotig. Fodd bynnag, prin yw'r wybodaeth am risgiau tymor hir llawer o gathinonau.Tymor Byr:
Bydd y risgiau tymor byr yn dibynnu ar gryfder y dos a'r amnewidyn cathinon penodol a ddefnyddir. Ond ar y cyfan, maent yn debyg i'r risgiau sy'n gysylltiedig â symbylyddion cryf eraill, er enghraifft, paranoia, trawiad ar y galon, trawiad gwres ac ati. Fodd bynnag, yn aml iawn, caiff cathinonau eu camwerthu fel MDMA neu mewn tabledi ecstasi. Mae effeithiau rhai cathinonau yn debyg iawn i rai MDMA ond efallai bydd angen disgwyl mwy cyn teimlo'r effaith (gan wneud i ddefnyddwyr gymryd mwy o ddos o'r cyffur), a/neu efallai eu bod yn actif (ac yn wenwynol) mewn dosys gwannach, neu efallai bydd eu heffeithiau'n para'n hirach. Gall hynny olygu methu â chysgu, am nifer o ddyddiau ar brydiau, gan achosi problemau seicolegol difrifol. Bu 21 o farwolaethau a oedd yn ymwneud â chathinonau yng Nghymru a Lloegr yn 2024.Mae cathinonau synthetig, a elwir hefyd yn ‘amnewidynnau cathinon yn grŵp mawr o gyffuriau tebyg i symbylyddion/MDMA. Maen nhw’n cynnwys Meffedron neu M-Cat (4-MMC). Dyma’r cyffur a ddaeth yn boblogaidd yn y 2000au fel amnewidyn penfeddwol cyfreithlon ar gyfer ecstasi. Er bod y defnydd o meffedron/M-CAT wedi gostwng yn sylweddol ers ei anterth yn y 2000au cynnar, mae’n dal i gael ei ddefnyddio yn y DU, weithiau fel symbylydd hamdden, ac yn aml yn cael ei gamwerthu fel tabledi MDMA mewn gwyliau a chlybiau nos. Mae 4-CMC yn gathinon synthetig sy’n debyg i M-CAT ac sydd bellach yn fwy cyffredin mewn gwyliau, clybiau nos ac/neu’n cael ei gamwerthu fel tabledi MDMA. Defnyddir M-Cat/Meffedron yn y sîn Chemsex, er yn fwy diweddar, mae defnyddio’r cathonin synthetig, 3-CMC wedi dod yn fwy poblogaidd ynghyd â defnyddio metaffetamin crisial a GBL/GBH. Mae Cathinonau Pyrrolidino yn is-grŵp o gathinonau synthetig ac yn cynnwys: a-PVP (Flakka), MDPV ac MDPHP (< href="https://dan247.org.uk/cy/math/monkey-dust-cathinonau-pyrrolidino/">Monkey Dust) Mae’r niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio cathoninau synthetig yn dibynnu ar y cyd-destun. Er enghraifft, defnyddir cathinonau synthetig megis M-Cat yn symbylyddion hamdden i’w defnyddio’n achlysurol mewn gwyliau a chlybiau nos gan eu bod yn debyg i MDMA. Ond mae cathoninau pyrrolidino fel ‘Monkey Dust’ yn cael eu defnyddio bron yn gyfan gwbl yn ardal Swydd Stafford, a hynny ymhlith oedolion sydd wedi’i hallgau’n gymdeithasol ac sy’n agored i niwed , sy’n aml yn byw mewn hosteli neu’n ddigartref ac yn cymryd cyffuriau i ymdopi a phroblemau iechyd meddwl a thrawma’r gorffennol, ac i geisio anghofio amgylchiadau presennol eu bywyd. < href="https://dan247.org.uk/cy/math/monkey-dust-cathinonau-pyrrolidino/">(Dolen ar gyfer rhagor o wybodaeth am gathoninau pyrrolidino ‘Monkey Dust’ yma)
Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.