Cathinone
cathinone- Cathinone
Enwau Gwyddonol:
Benzoylethanamine,
(S)-2-amino-1-phenyl-1-propanone
Enwau Generig: Cathinone

Effeithiau A Ddymunir:
Siaradus, ewfforia a chynhyrfiad, bywiogrwydd, ymlediad cannwyll y llygad.Sgîl Effeithiau:
Methu cysgu, dim chwant bwyd, crychguriad y galon, ceg sych, gor-actifedd, rhwymedd.Tymor Hir:
Iselder, natur flin, dibyniaeth seicolegol, ond ni wyddom lawer iawn am niwed tymor hir.Tymor Byr:
Pryder, ymddygiad gorffwyll, paranoia, goddefiad.Rhieni a pherthnasau eraill
Mae asiantaethau cyffuriau hefyd yn darparu llawer o gyngor a chefnogaeth i rieni pobl sy'n defnyddio'r cyffuriau hyn. Gall llawer o asiantaethau stryd gynnig grwpiau cefnogi neu gwnsela i aelodau teuluoedd, partneriaid ac ati.