CBD

cbd

Cyffuriau A i Y

Enwau Gwyddonol: CBD (canabidiol)

Enwau Generig: CBD

An example of what CBD looks like

Effeithiau A Ddymunir:

Nid yw CBD yn seicoweithredol, felly nid oes unrhyw effeithiau byrdymor amlwg. Fodd bynnag, mae olew CBD yn feddyginiaeth naturiol boblogaidd, a cheir llawer o honiadau am ei fuddion, yn cynnwys lleddfu poen ac ymlacio heb y math o effeithiau ar y meddwl sy'n deillio o ddefnyddio canabis sy'n cynnwys THC. Efallai bod gan CBD briodweddau gwrthseicotig a lleihau gorbryder, ac felly, gallai fod yn gyfrwng addawol newydd i drin anhwylderau seicotig a gorbryder.

Sgîl Effeithiau:

Gall CBD achosi sgil effeithiau megis ceg sych, dolur rhydd, llai o archwaeth, syrthni a lludded. Gall CBD hefyd ryngweithio â meddyginiaethau eraill y byddwch yn eu cymryd, megis rhai i deneuo'r gwaed.
  • Credid am gryn amser fod CBD yn gweithredu i bylu effeithiau THC. Fodd bynnag, mae ymchwil diweddar yn awgrymu nad yw hynny'n wir a bod canabis sydd â lefelau uwch o CBD yn llai tebygol o achosi effeithiau andwyol dim ond oherwydd y cyfanswm llai o THC sydd ynddo.
  • Bydd rhai defnyddwyr canabis yn cymryd CBD gan obeithio lleihau rhywfaint o effeithiau negyddol canabis. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau bod hyn yn gweithio.
  • Os ydych chi'n cymryd CBD heb bresgripsiwn, mae'n bwysig monitro'r buddion ac unrhyw adweithiau anffafriol. Yn amlwg, dylech roi'r gorau i'w ddefnyddio os yw'r effeithiau andwyol yn gorbwyso'r buddion.
  • Ni argymhellir i'r canlynol gymryd y math meddygol o CBD (Canabidiol): merched beichiog, y sawl sy'n bwydo o'r fron, pobl sydd â phroblemau'r arennau neu'r iau a phobl sydd â hanes o salwch seicotig.

Tymor Hir:

Ni argymhellir i'r canlynol gymryd y math meddygol o CBD (Canabidiol): merched beichiog, y sawl sy'n bwydo o'r fron, pobl sydd â phroblemau'r arennau neu'r iau a phobl sydd â hanes o salwch seicotig.

Tymor Byr:

Ni ystyrir bod CBD yn seicoweithredol, felly mae'r risgiau yn weddol ddisylw o gymharu â risgiau canabis sy'n cynnwys THC.
Mae CBD yn effeithio ar dderbynyddion canabinoidau yn yr ymennydd a'r corff.

Mae CBD (Canabidiol) yn gemegyn (o'r enw canabinoid) a geir mewn planhigion canabis, canabis llysieuol a resin canabis. Ni chredir bod CBD yn seicoweithredol. Amcangyfrifir bod y diwydiant CBD yn y DU yn werth £1 biliwn y flwyddyn, ac mae'r cynhyrchion yn amrywio o ddŵr â CBD ynddo i gasys gobenyddion â CBD wedi'i drwytho ynddynt. Mae olewau CBD a hylifau CBD ar gyfer e-sigaréts ar gyfer yn y rhan fwyaf o siopau e-sigaréts. Yn ddryslyd iawn, caiff olewau CBD a hylifau CBD ar gyfer e-sigaréts eu gwerthu'n aml dan enwau 'THC Oil' neu 'Cannabis Oil', gan adleisio enwau brandiau gwahanol fathau o ganabis yn anad dim.
Gellir ei lyncu, ei rwbio ar y croen neu ei ddefnyddio mewn e-sigarét. Gellir ei ysmygu os yw'n gynnyrch llysieuol.
Trwyddedir CBD (Canabidiol) i'w ddefnyddio fel meddyginiaeth i drin mathau penodol o ffitiau.
Mae planhigion canabis yn cynnwys CBD yn ei ffurf naturiol. Mae'n anodd arunigo CBD pur. Fe wnaeth ymchwil diweddar ganfod bod y crynodiad o CBD mewn olewau yn aml yn wahanol i'r hyn a honnir ac yn ychwanegol, roedd rhai yn cynnwys THC, felly buasent yn anghyfreithlon yn y DU.
Cuddio
Ffôn di-dal: